Guto Bebb yn erbyn 'Brexit dall'wedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich 12 Mawrth 2019
BBC Cymru Fyw
Mae'r cyn-weinidog Ceidwadol Guto Bebb wedi cadarnhau y bydd yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May heno, ond mae'n mynnu nad y backstop yw'r prif reswm dros hynny.
"Fy mhryder pennaf yw'r ffaith ein bod yn mynd tuag at rywbeth rydw i'n disgrifio fel 'Brexit dall'," meddai.
"Beth sydd gennym ni yw cytundeb ymadael sydd wedi'i gytuno rhwng y prif weinidog a'r Undeb Ewropeaidd, ond does 'na ddim llawer o fanylion am y berthynas yn y dyfodol.
"Pe byddech chi'n dweud wrth y cyhoedd, os yw cytundeb y prif weinidog yn pasio mae gennym ni 21 mis arall o ddadlau, fe fydden nhw wedi'u brawychu, ond dyna'r realiti mewn gwirionedd."