Dynodi amser trafodwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019
BBC Cymru Fyw
Os fydd yn llwyddo, bydd Gwelliant I gan Hilary Benn yn dynodi amser i drafod Brexit gydol ddydd Mercher nesaf, 20 Mawrth.
Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid gofyn i'r Undeb Ewropeaidd am ganiatâd i oedi proses Brexit
412 wedi pleidleisio o blaid y cynnig, gyda 202 yn erbyn
Yr holl welliannau gafodd eu cynnig wedi'u gwrthod gan ASau
Dydd Mawrth fe wnaeth ASau bleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit Theresa May am yr eildro
Dydd Mercher fe wnaeth yr aelodau bleidleisio o blaid gwrthod gadael yr UE heb gytundeb
BBC Cymru Fyw
Os fydd yn llwyddo, bydd Gwelliant I gan Hilary Benn yn dynodi amser i drafod Brexit gydol ddydd Mercher nesaf, 20 Mawrth.
BBC Radio Cymru
Mae cyn-ymgynghorydd i Lywodraeth y DU, Tomos Dafydd wedi bod yn sgwrsio ag Alun Thomas ar Radio Cymru.
Dywedodd bod angen i grŵp yr ERG "ddod i'w synhwyrau" a chefnogi cytundeb y prif weinidog pan fydd trydedd bleidlais arno'r wythnos nesaf.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r bygythiad o beidio gadael yr Undeb Ewropeaidd o gwbl yn newid meddyliau "aelodau Ewro-sgeptig" y Ceidwadwyr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae'r Is-welliant i Welliant I - gan yr AS Llafur Lucy Powell - wedi cael ei drechu gyda 311 o blaid ond 314 yn erbyn.
Agos yn wir!.
Bydd ASau nawr yn gadael y siambr unwaith eto i bleidleisio ar Welliant I.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae Gwelliant i'r Gwelliant wedi ei gynnig.
Pwrpas hwn yw cyfyngu ar y cyfnod lle bydd Gwelliant I yn weithredol (os fydd yn cael ei basio). Byddai'r cyfnod ond yn rhedeg tan 30 Mehefin os fydd yn llwyddo.
Mae'n dechrau mynd yn gymhleth, ond arhoswch gyda ni...!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Tweli Griffiths
Sylwebydd gwleidyddol
Mae'r sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths wedi bod yn egluro ar Radio Cymru pam fod y Blaid Lafur wedi ymatal eu pleidlais yn y gwelliant oedd yn galw am refferendwm arall.
"Mae hi'n werth dweud mai'r cyfiawnhad mae Llafur wedi'i roi dros beidio cefnogi'r alwad am refferendwm arall yw mai Erthygl 50 a'r gobaith o'i ohirio sydd dan sylw," meddai.
"Felly yn eu barn nhw, mae'n rhaid i'r cwestiwn o refferendwm ddigwydd rhywbryd arall."
BBC Cymru Fyw
Bydd y bleidlais nesaf ar Welliant I gan Hilary Benn, yr AS Llafur.
Dywed y cynnig y dylai ASau rheoli busnes Tŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf yn hytrach na'r llywodraeth er mwyn rhoi cyfle i aelodau wneud amser i gynnal pleidleisiau arwyddocaol ar y broses.
Byddai hynny hefyd yn golygu oedi Erthygl 50.
Mae hwn yn cael ei weld fel gwelliant pwysig gan lawer o sylwebwyr gwleidyddol, ac fe allai fod yn bleidlais agos iawn.
BBC Cymru Fyw
Mae Gwelliant H, oedd yn gofyn am ymestyn Erthygl 50 er mwyn cynnal refferendwm arall, wedi cael ei wrthod gan ASau.
Roedd 334 yn erbyn y gwelliant, gyda 85 yn pleidleisio o blaid.
Daw hyn wedi i'r Blaid Lafur gyhoeddi na fyddan nhw'n pleidleisio ar y cynnig.
Gohebydd Brexit BBC Cymru ar Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Wrth i lawer o ASau adael y siambr i bleidleisio, mae'n ddifyr nodi bod meinciau Llafur yn dal yn gymharol lawn, sy'n cadarnhau eu bwriad i ymatal eu pleidlais ar y gwelliant cyntaf.
BBC Cymru Fyw
Mae nifer o ASau wedi mynegi syndod a dicter ynglŷn â pha welliannau sydd wedi cael eu dewis gan John Bercow, neu yn fwy penodol, un o'r gwelliannau sydd ddim wedi'u dewis.
Ni gafodd gwelliant sy'n gwrthod y syniad o refferendwm arall ei ddewis gan y llefarydd, er y bydd pleidlais ar welliant sy'n galw am y gwrthwyneb, sef cynnal refferendwm arall.
Roedd dros 100 o ASau wedi cefnogi'r gwelliant yn galw am beidio cynnal refferendwm arall.
Mae Mr Bercow wedi amddiffyn ei benderfyniad gan ddweud ei fod yn "gwneud dyfarniad ar amryw o ffactorau".
Ond mae'r AS Ceidwadol Jacob Rees-Mogg wedi galw am fwy o eglurder ynglŷn â sut mae'r llefarydd yn dewis pa welliannau fydd yn cael eu trafod.
BBC Cymru Fyw
Mae'r noson yn dechrau gyda phleidlais ar Welliant H, sydd wedi ei gynnig gan Sarah Wollaston - un o'r ASau a ymddiwsyddodd y chwip er mwyn ymuno â'r grŵp annibynnol yn gynharach eleni.
Mae ei gwelliant yn galw am ymestyn Erthygl 50 am gyfnod sylweddol er mwyn cynnal ail refferendwm.
Mae'r gwelliant hefyd wedi arwyddo gan bedwar AS Plaid Cymru.
Mae ASau newydd adael i siambr er mwyn dechrau pleidleisio...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow wedi dewis pedwar gwelliant i'r brif bleidlais heno. Bydd pleidlais ar y rhain yn gyntaf :-
BBC Cymru Fyw
Bydd ASau yn pleidleisio heno ynglŷn â gofyn am ganiatâd gan yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.
Pe bai'n pasio, byddai'r llywodraeth yn ceisio ymestyn trafodaethau Brexit nes 30 Mehefin eleni os yw ASau'n cymeradwyo cytundeb Theresa May erbyn 20 Mawrth.
Mae'r prif weinidog wedi dweud y gallai'r broses o adael gael ei oedi am lawer yn hirach os nad yw ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo erbyn hynny.
Ond mae ASau meinciau cefn a'r gwrthbleidiau wedi cyflwyno newidiadau i'r brif bleidlais, a bydd pleidlais ar y rheiny yn gyntaf.
BBC Cymru Fyw
Mae'n brynhawn Iau, ac mae yna bleidlais allweddol arall ar Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe gewch chi'r diweddaraf am y pleidleisio wrtho iddo ddigwydd yma ar BBC Cymru Fyw.
Croeso cynnes i chi... unwaith eto!