Canlyniad Caerdyddwedi ei gyhoeddi 22:13 GMT+1 26 Mai 2019
BBC Cymru Fyw
- Plaid Brexit - 21,077
- Democratiaid Rhyddfrydol - 20,799
- Plaid Cymru - 20,047
- Llafur - 17,297
- Plaid Werdd - 8,405
- Ceidwadwyr - 6,393
- Change UK - 3,204
- UKIP - 2,164
Er i drigolion y DU bleidleisio ddydd Iau, fydd y cyfri ddim yn dechrau tan 21:00 nos Sul ar draws Ewrop gyfan
Bydd Cymru'n ethol pedwar ASE i gynrychioli'r wlad
Yn 2014, fe wnaeth Cymru ethol un ASE o bedair plaid - Llafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a UKIP
Fe wnaeth 32 person o wyth plaid ymgeisio yn yr etholiad yng Nghymru eleni
BBC Cymru Fyw
BBC Cymru Fyw
Mae'r cyfryngau yn Hwlffordd yn barod...y disgwyl yw mai Cyngor Sir Benfro fydd y cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi canlyniad y bleidlais yno, ac fe allai'r canlyniad ddod yn y munudau nesaf.

Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Yn wahanol i'r DU gyfan, ychydig iawn o bolau piniwn sy'n casglu barn sampl mawr o bobl Cymru.
Ond mewn arolwg gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf, roedd awgrym y byddai Plaid Brexit yn ennill y bleidlais gyhoeddus gan gipio dwy o'r pedair sedd yng Nghymru. Byddai Plaid Cymru a Llafur yn cipio'r ddwy arall gyda'r Ceidwadwyr a UKIP yn colli'r seddau a gafon nhw yn 2014.
Gair i gall - un pol piniwn yn unig yw hwn, ond dyma ffigyrau'r arolwg yna.
Yr awgrym yw bod cynnydd sylweddol Plaid Brexit wedi dod ar draul Llafur a'r Ceidwadwyr. Mae'n awgrymu hefyd welliannau sylweddol i Blaid Cymru a'r Gwyrddion a fu'n ymgyrchu i atal Brexit.
BBC Cymru Fyw
Mae dwy swydd gan ganolfan gyfri Hwlffordd heno....yn ogystal â chyfri pleidleisiau'r awdurdod lleol yn Sir Benfro, yno hefyd y bydd holl ganlyniadau Cymru'n cael eu casglu a'u cyfri.
Yno felly y bydd y cyhoeddiad am bwy fydd ASE newydd Cymru.

BBC Cymru Fyw
...a pham ei fod o'n bwysig?
Mathemategydd o Wlad Belg oedd Victor D'Hondt, ac yn 1878 fe ddyfeisiodd ddull mathemategol o ddosrannu seddau mewn etholiadau lle mai cynrychiolaeth gyfrannol yw'r system bleidleisio.
Fformiwla D'Hondt fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu sawl ASE fydd gan bob plaid yn Etholiad Ewrop - fel mae'n digwydd dyna hefyd yw'r dull o ddewis Aelodau Cynulliad Rhanbarthol yng Nghymru a'r Alban.

Twitter
Golygydd gwleidyddol gwefan BuzzFeed yw Alex Wickham, ac mae ffynhonnell o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud wrtho y bydd hi'n noson sobor iawn i Lafur yng Nghymru!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Yn 2019 mae wyth plaid yn cynnig ymgeiswyr yn Etholiad Ewrop yng Nghymru. Roedd 11 o bleidiau yma yn 2014.
Mae pob un o'r wyth plaid â rhestr o bedwar ymgeisydd, ac fe allwch weld y rhestr lawn yma.
Bum mlynedd yn ôl fe gafodd Y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a UKIP un sedd bob un yng Nghymru.
Fe fydd o leia dau ASE newydd gan fod Derek Vaughan o'r Blaid Lafur a Kay Swinburne o'r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll y tro hwn ar ôl dod i'r brig yn etholiad 2014.

Senedd Ewrop
Mae 751 o Aelodau Senedd Ewrop.
Mae nifer yr aelodau sydd gan bob gwlad yn dibynnu'n fras ar ei phoblogaeth, a dyma sut mae'r aelodaeth yn cael ei rhannu ar hyn o bryd:-

BBC Cymru Fyw
Mae'r pleidleisiau ymhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eisoes wedi cael eu gwirio ac yn barod i'w cyfri. Cafodd hyn ei wneud nos Iau neu ddydd Gwener i sicrhau bod nifer y pleidleisiau ymhob blwch pleidleisio'n cyfateb i nifer y ffurflenni pleidleisio gafodd ei dosbarthu, a bod y pleidleisiau yn ddilys.
Mae'r cyfri eisoes wedi dechrau ar draws Cymru gyda Torfaen yn dechrau am 17:00 a nifer o'r lleill yn dechrau am 19:00. Bydd nifer y pleidleisiau i bob plaid yn y 22 awdurdod yn cael eu casglu gan y brif ganolfan yn Hwlffordd, a dyna lle bydd y canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi.
Y disgwyl yw y gallai hynny ddigwydd am tua hanner nos.
Ffynhonnell y llun, PA
Newyddion 9
Etholiadau Ewrop: Beth yw'r drefn yng Nghymru?
Senedd Ewrop
Er mwyn sicrhau nad yw canlyniadau un wlad yn cael effaith ar bleidleisio mewn gwlad arall yn Ewrop, ni fydd unrhyw ganlyniadau'n cael eu cyhoeddi nes i bob un o'r 28 gwlad orffen pleidleisio.
Dim ond y DU a'r Iseldiroedd fu'n pleidleisio dydd Iau. Fe wnaeth Gweriniaeth Iwerddon a'r Weriniaeth Siec bleidleisio ddydd Gwener gyda Latfia, Melita a Slofacia'n pleidleisio dydd Sadwrn.
Gan na wnaeth y 21 gwlad arall orffen pleidleisio tan nos Sul, dyna pryd y bydd y canlyniadau'n dechrau cael eu cyhoeddi.
Mae pleidleisio yn orfodol mewn pum gwlad - Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, Groeg, a Lwcsembwrg.

BBC Cymru Fyw
Croeso i lif byw arbennig Cymru Fyw fydd yn dod â chanlyniadau Etholiadau Senedd Ewrop i chi.
Fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ganlyniadau Cymru, ond mae modd i chi hefyd chwilio am ganlyniadau gweddill y DU... manylion i ddilyn.
Eisteddwch a gwnewch eich hun yn gyfforddus. Fe allai fod yn noson hwyr!