Crynodeb

  • Cyhoeddi pwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog nesaf y DU

  • Boris Johnson a Jeremy Hunt yw'r ddau olaf yn y ras i arwain y blaid

  • Caeodd y bleidlais o aelodau'r blaid ddydd Llun

  1. Y neuadd yn aroswedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Twitter

    Mae'r neuadd yn aros... ac mae'n debyg nad yw Boris Johnson wedi cyrraedd ei sedd eto.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Swydd i Hunt yng nghabinet Johnsonwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Ar dudalen Facebook S4C mae Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn dweud y byddai hi wedi synnu pe na bai Jeremy Hunt yn cael swydd yng nghabinet Boris Johnson - gyda'r disgwyl mai Mr Johnson fydd yn fuddugol heddiw.

  3. Ymddiswyddo yw'r 'peth cywir'wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Anne Milton AS wedi bod yn egluro ei phenderfyniad i ymddiswyddo cyn y cyhoeddiad.

    Gan ei bod hi'n gwrthwynebu gadael yr UE heb gytundeb, dywedodd ei bod yn "fodlon" mynd yn i'r meiciau cefn er mwyn ceisio cefnogi'r prif weinidog newydd i sicrhau cytundeb gyda'r UE.

    Ychwanegodd mai ymddiswyddo oedd "y peth cywir" i'w wneud.

    Anne Milton
  4. Y ddau ymgeisydd wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r ddau ymgeisydd bellach wedi cyrraedd canolfan QE2 yn Llundain.

    Fe wnaeth Mr Johnson osgoi gohebwyr wrth gyrraedd ond dywedodd Mr Hunt nad oedd yn teimlo nerfau.

    Rydyn ni'n disgwyl cyhoeddiad am tua 11:45.

    JH
  5. Aelod arall yn ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Yn ychwanegol i Syr Alan Duncan, mae aelod arall o'r llywodraeth, Anne Milton, newydd ymddiswyddo wrth ragweld buddugoliaeth i Boris Johnson.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Ymddiswyddiadau'n bosibwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Fyddai buddugoliaeth i Boris Johnson ddim yn plesio pawb o fewn ei blaid.

    Mae un gweinidog, Syr Alan Duncan, eisoes wedi ymddiswyddo o'i rôl yn y Swyddfa Dramor gan ddweud nad yw'n fodlon gwasanaethu Mr Johnson fel prif weinidog newydd.

    Mae 'na enwau mawr eraill fel y Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke a'r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Rory Stewart hefyd wedi dweud y byddan nhw'n ymddiswyddo os oedd Mr Johnson yn ennill.

    philip hammond
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Philip Hammond na allai gefnogi'r opsiwn o adael yr UE heb gytundeb - rhywbeth dyw Boris Johnson heb ddiystyrru

  7. Beth am gynlluniau i Gymru?wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mewn hystings yng Nghaerdydd ddechrau'r mis, fe wnaeth y ddau ymgeisydd addo rhoi arian i Gymru i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn mynd wedi Brexit.

    Dywedodd Boris Johnson y byddai'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn sy'n dod gan yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Jeremy Hunt wedi dweud na fydd Cymru ar ei cholled.

    Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yr addewid o arian i Gymru.

    Ond dywedodd bod syniad Mr Johnson bod angen "dylanwad Ceidwadol cryf" ynglŷn â sut mae'r arian yn cael ei wario yng Nghymru yn "gwbl annerbyniol".

  8. Y farn ar Brexitwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Brexit oedd prif bwnc trafod yr ornest arweinyddol - a'r brif dasg sy'n wynebu'r prif weinidog newydd.

    Mae Boris Johnson wedi mynnu bod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref doed a ddelo - heb gytundeb os oes angen.

    Dywedodd Jeremy Hunt mai ef oedd yr ymgeisydd fwyaf tebygol o allu mynd yn ôl at yr UE am gytundeb gwell - gan ymestyn dyddiad Brexit os oedd angen.

    Fe wnaeth y ddau bwysleisio fodd bynnag bod sicrhau Brexit yn flaenoriaeth iddynt.

    brexit
  9. Hunt yn cynnig 'rheolaeth sefydlog'wedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae bellach yn gwneud hen swydd Mr Johnson, ac mae hefyd wedi bod yn Ysgrifennydd Iechyd, ond yn sicr nid Mr Hunt ydy'r ceffyl blaen i arwain ei blaid.

    Ond er hynny mae un o'i gefnogwyr yn dadlau y byddai'n cynnig "rheolaeth sefydlog" i'r DU.

    Dywedodd Glyn Davies, AS Sir Drefaldwyn, mai'r "peth pwysicaf i Gymru yw ein bod ni'n sicrhau cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd cyn i ni adael".

    "Fyswn i'n disgwyl rheolaeth sefydlog [pe bai Mr Hunt yn cael ei ethol] a byddai'n golygu bod gadael yr UE hefo cytundeb yn llawer mwy tebygol."

    Jeremy hunt
  10. Johnson y 'gorau i ddatrys problemau Brexit'wedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mr Johnson yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesaf, ac yn wir mae wedi bod yn ffefryn gan lawer ers y dechrau.

    Mae'n gyn-faer Llundain ac mae hefyd wedi bod yn ymgeisydd yn etholaeth De Clwyd yn y gorffennol.

    Un sy'n ei gefnogi yw AS Mynwy, David Davies, sydd o'r farn mai ef yw'r "person gorau i ddatrys problemau Brexit rhwng nawr a diwedd mis Hydref".

    "Ar y funud y dewis sy'n wynebu ASau yw ffurfio cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Boris am newid hynny," meddai.

    Boris Johnson
  11. Y ddau yn y raswedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dau ymgeisydd sy'n parhau yn y ras i arwain y blaid - y cyn-Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson a'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd, a'r Ysgrifennydd Tramor presennol, Jeremy Hunt.

    Bydd yr enillydd hefyd yn olynu Theresa May fel Prif Weinidog.

    Tua 160,000 o aelodau Ceidwadol sy'n gyfrifol am ddewis, a bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi yn Llundain.

  12. Croesowedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw fydd yn dod â'r diweddaraf wrth i arweinydd newydd y Blaid Geidwadol gael ei gyhoeddi.

    Mae disgwyl y cyhoeddiad cyn 12:00.