Crynodeb

  • Tlws y Cerddor a'r Fedal Ryddiaith ymhlith cystadlaethau'r dydd

  • Gwyliwch y cystadlu hwyr yn fyw o'r pafiliwn drwy'r linc uchod

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Neges i garafanwyrwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. O'r Maes: Lluniau gorau dydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Dyma gasgliad o luniau o Faes yr Eisteddfod ddoe - ydych chi'n 'nabod rhywun?

    pizza peint
  3. Prif seremonïau’r dydd yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Seremoni'r Fedal Ryddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Cylchoedd.

    Un o uchafbwyntiau eraill fydd defod Tlws y Cerddor.

    Yn wahanol i'r arfer, bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn cyflwyniad arbennig ar lwyfan y pafiliwn.

    Manon Steffan Ros oedd enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd gyda'i nofel Llyfr Glas Nebo.
    Disgrifiad o’r llun,

    Manon Steffan Ros oedd enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd gyda'i nofel Llyfr Glas Nebo

  4. Un maes parcio wedi cauwedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Yn y cyfamser, mae yna alw ar i bobl ddilyn y cyfarwyddiadau parcio wrth ymweld â'r Brifwyl.

    Mae un maes parcio gyferbyn â'r safle wedi ei gau ers prynhawn Mawrth am resymau iechyd a diogelwch wedi'r glaw.

  5. Tri pheth i’w gwneud ar y Maes heddiwwedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    1. Ddim yn siŵr beth ydi'r gwahaniaeth rhwng eich cynghanedd draws a'ch cynghanedd sain? Llwyfan y Llannerch (ydy honno’n un?) ydy’r lle i chi am 10:00, lle fydd Iwan Rhys yn arwain sesiwn ‘Dewch i Gynganeddu’.
    2. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dirgelwch, ewch draw i Babell Cymdeithasau 2 am 17:30 i wrando ar ‘Marwolaeth Morfydd Llwyn Owen: Penderfynu pwy neu beth oedd yn gyfrifol’. Fe fydd rhai o’r cwestiynau sydd dal i godi am farwolaeth y gyfansoddwraig - fu farw yn 27 - yn cael eu trafod yn narlith Cymdeithas Seicolegol Prydain.
    3. I be’ ewch chi’r holl ffordd i’r West End pan mae unawdau sioe gerdd wych i’w clywed ar y Maes? Mae'n un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd y Steddfod erbyn hyn a bydd y cystadleuwyr dros 19 oed yn canu yn y pafiliwn am 18:35.
  6. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

    Arhoswch efo ni ar gyfer y newyddion diweddaraf o'r pafiliwn ac o'r maes yn ystod y dydd.

    ac ar ôl glaw dros nos mae'r haul wedi galw heibio
    Disgrifiad o’r llun,

    Ar ôl glaw dros nos, mae'r haul wedi galw heibio... am y tro