Dau yn dathluwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 15 Awst 2019
BBC Cymru Fyw
Morgan Bratch a Hannah Williams yw'r ddau yma o Ysgol y Creuddyn sy'n hapus iawn gyda'u canlyniadau nhw y bore 'ma.
Mwy o Gymry'n cael graddau A*-A na'r llynedd
Canran uwch o ddisgyblion Cymru'n cael gradd A* na holl ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon
Llai yn sefyll arholiadau Safon Uwch yng Nghymru na'r llynedd
BBC Cymru Fyw
Morgan Bratch a Hannah Williams yw'r ddau yma o Ysgol y Creuddyn sy'n hapus iawn gyda'u canlyniadau nhw y bore 'ma.
BBC Cymru Fyw
Mae Daniel ac Elen yn efeilliaid... wrth i'r ddau dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch, mae rhywun yn synhwyro bod yna elfen gystadleuol ar yr aelwyd!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae disgyblion Ysgol y Creuddyn yn dechrau cyrraedd i gael eu canlyniadau nhw....
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae 'na fwy a mwy o bobl ifanc yn cysylltu ag elusennau yng Nghymru dros bryderon am ganlyniadau arholiadau a phwysau gwaith.
Ers 2016, fe welodd Meic Cymru gynnydd o 40% mewn galwadau o'r fath, tra bod NSPCC Cymru wedi gweld cynnydd o 56% yn y nifer o sesiynau cwnsela maen nhw'n ei gynnig ers 2016.
BBC Cymru Fyw
Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi wedi derbyn eu canlyniadau yn barod, ond mae eraill yn dal i ddisgwyl.
BBC Cymru Fyw
Ychwanegodd Gareth Evans fod 44 o'r 58 o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi wnaeth sefyll arholiadau Safon Uwch wedi gwneud cais i fynd i brifysgol, a bod y mwyafrif o'r rheini wedi dewis prifysgol yng Nghymru.
Dywedodd: "Ar y cyfan mae mwyafrif ein disgyblion ni yn mynd ymlaen i’r Brifysgol… a falle llai yn gwneud ceisiadau i fynd i brentisiaeth a swydd."
BBC Cymru Fyw
Gareth Evans yw dirprwy bennaeth Ysgol Bro Teifi... ar y Post Cyntaf heddiw dywedodd:
“Ni ar ben ein digon, ni’n hapus iawn gyda’r canlyniadau. Fel mae bola’r myfyrwyr yn troi bore 'ma, wel ni’n teimlo run peth dros y 24 awr blaenorol.
“Ni’n cael y canlyniadau ar ddydd Mercher ac yn cael cyfle i graffu nhw a gweld sut mae pethe 'di mynd.
“Ond ry' ni’n hapus iawn fel ysgol a ry' ni’n falch iawn dros y bobl ifanc."
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Mae gohebydd addysg BBC Cymru yn y Cymoedd i ddisgwyl y canlyniadau heddiw
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Y llynedd roedd cyfran y graddau gorau - A ac A* -ar ei huchaf ers degawd.
Mae 'na ostyngiad o 5% wedi bod yn y cofrestriadau ers y llynedd, a'r gyfran wedi cwympo 17% dros bedair blynedd.
Yn ôl y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru, mae hynny'n bennaf achos bod y boblogaeth 17 ac 18 oed wedi crebachu.
BBC Cymru Fyw
Croeso i'n llif byw arbennig ar ddiwrnod canlyniadau arholiadau Safon Uwch.
Fe gewch chi'r lluniau, ymateb a ffeithiau diweddaraf dros yr oriau nesaf yma ar BBC Cymru Fyw.
Croeso cynnes i chi.