Hwylwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Hydref 2019
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.
Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE
Datganiad: Paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb
Datganiad: Paratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb
Datganiad: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb
Datganiad: Paratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb
Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan, wedi'i gynnull i drafod y Bil Senedd ac Etholiadau
Alun Jones and Nia Harri
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.
Mae Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan nawr yn ymgynnull i drafod Cyfnod 2 y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Mae ACau yn cytuno ar y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ynghylch y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) ac yn cytuno mai dyma fydd y drefn: adrannau 2 i 9, Atodlen 1, adrannau 10 i 29, Atodlen 2, adrannau 30 i 41, adran 1, a'r Teitl Hir.
Pwrpas y Pwyllgor yw ystyried argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Mae'r panel wedi galw am 20 neu 30 o ACau ychwanegol ac i bobl ifanc 16 ac 17 oed allu pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad.
Fe gafodd ACau bwerau i wneud newidiadau i'r modd y maen nhw'n cael eu hethol o dan Ddeddf Cymru 2017.
Mae ACau yn cytuno ar y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ynghylch y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) ac yn cytuno mai dyma fydd y drefn: adrannau 2 i 9, Atodlen 1, adrannau 10 i 29, Atodlen 2, adrannau 30 i 41, adran 1, a'r Teitl Hir.
Mae ACau yn cytuno ar gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru), dolen allanol, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.
Roedd 38 o blaid, neb yn ymatal, a dau yn erbyn.
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyflwyno amcangyfrifon i Gomisiwn y Cynulliad sy’n awgrymu y byddai costau gweinyddu etholiadau datganoledig rhwng £500,000 ac £1.6 miliwn y flwyddyn dros y cyfnod 2018-19 i 2022-23.
Ac mae'r datganiad olaf heddiw yn un gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James: Paratoi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Meddai, "Mae tai a lleihau digartrefedd eisoes yn un o'n blaenoriaethau mwyaf brys. Bydd Brexit heb gytundeb yn gwaethygu'r sefyllfa hon gan roi bywoliaethau pobl mewn perygl, a chynyddu costau byw, gan gynnwys costau morgais a rhentu. Dyna pam, o dan y gyllideb atodol gyntaf, dyrannwyd gwariant cyfalaf ychwanegol o £50 miliwn i gyllideb y Grant Tai Cymdeithasol, i helpu i wneud iawn am effaith economaidd dim cytundeb.
"Yna, mae potensial ar gyfer cynnydd yng nghost bwyd - oherwydd sioc economaidd neu lai o gyflenwad. Mae'r galw am fanciau bwyd wedi bod ar gynnydd ers nifer o flynyddoedd. Byddai unrhyw gynnydd ym mhrisiau bwyd yn destun pryder mawr. Dyna pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog gronfa o £2m yn ddiweddar ar gyfer mynd i’r afael â thlodi bwyd a mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd."
Nesaf yn y Siambr mae datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: Paratoi'r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Mae'n dweud "ein blaenoriaeth yw sicrhau parhad cyflenwadau angenrheidiol, fel bod gwasanaethau yn gallu cael eu cadw, ar lefel busnes fel arfer...
"Rydyn ni wedi edrych ar gyfleoedd i gryfhau capasiti o fewn y sector y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol Brexit.
"Er enghraifft, cymeradwyais brynu a stocio cyfleuster storio ychwanegol i sicrhau nad amherir ar gyflenwadau o offer meddygol ac eitemau hanfodol. Roedd y buddsoddiad hwn o £11 miliwn yn angenrheidiol ac fe'i wnaed ar frys oherwydd y posibilrwydd o gael Brexit heb gytundeb ym mis Mawrth. I roi hynny yn ei gyd-destun - gallai'r gwariant £11 miliwn ar warws fod wedi talu am saith sganiwr MRI newydd."
Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths: Paratoi'r economi wledig a'r sector pysgodfeydd ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Mae hi'n dweud "rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu yr effeithiau o Brexit heb gytundeb. Rydw i'n hyderus y byddwn ni mor barod ag sydd yn bosibl erbyn 31 Hydref.
"Er hynny, mae yna ffactorau sydd y tu hwnt i'n dylanwad a fydd yn effeithio'n sylweddol ar barodrwydd Cymru: mae parodrwydd busnes, gweithrediadau ar ffiniau'r DU a'r gyfundrefn tollau yn allweddol".
Mae Ken Skates yn dweud wrth ACau ei fod wedi cymryd "penderfyniad anodd iawn i ohirio prosiect o wella arwyneb y ffordd ar un rhan o'r A55 oherwydd roedd y gwaith i fod i gael ei wneud yn yr wythnos y gallem syrthio allan o'r UE.
"Doeddwn i ddim eisiau gweld trafferthion ar yr A55 tra bod yna hefyd drafferthion ym mhorthladd Caergybi o ganlyniad i syrthio allan o'r UE".
Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: Paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Mae'n dweud, "rydyn ni'n trosglwyddo gwybodaeth drwy rwydweithiau busnes a hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at dros 18,500 o fusnesau".
Mae Mandy Jones o Blaid Brexit yn rhybuddio am y "peryglon o ddim democratiaeth, a'r neges y byddai'n anfon i'r wlad a'r byd os ydyn ni'n anwybyddu y mandad democrataidd mwya" o'r refferendwm.
Mae Delyth Jewell Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "rhannu'r pryderon ynghylch y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb", ac yn arbennig yn teimlo "gofid enbyd" ynghylch sylw Jeremy Miles na all y naill lywodraeth na'r llall fod yn wirioneddol barod am Brexit heb gytundeb.
Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn cyhuddo Jeremy Miles o "geisio lledaenu ofn ymhlith y boblogaeth gyffredinol ynghylch Brexit" ac yn siarad am fuddsoddiad meddai fe a fydd yn dod o lywodraeth y DU.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nawr datganiad cynta'r dydd.
Mae'n ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi "Dyfodol Mwy disglair i , dolen allanol Gymru:, dolen allanol Y rhesymau dros aros yn yr UE", yn sôn am "y dystiolaeth pam y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru, a pham y dlen ni aros yn yr UE".
Dywed y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru wedi rhannu “yr ymdeimlad o arswyd a dicter” ynghylch canfyddiadau rhaglen BBC Cymru ar y diwydiant ffermydd bridio cŵn bach yng Nghymru.
Dywed y byddai'r Gweinidog Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths yn ysgrifennu at gyrff milfeddygol ac awdurdodau lleol ynghylch y mater.
Roedd hi'n ymateb i gwestiwn gan yr AC Llafur Joyce Watson a ddywedodd y bu "methiant llwyr yn y ddyletswydd gan filfeddygon".
Dywedodd Ms Watson: "Roedd yn rhaid i les yr anifeiliaid hyn ddod yn gyntaf nid yr elw".
Yn ystod cyfnod o flwyddyn, mae rhaglen Wales Investigates wedi dod ar draws cŵn sy'n byw mewn amgylchiadau "brwnt" mewn sefydliadau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorau.
Canfuwyd bod rhai bridwyr yn parhau i gael trwyddedau er bod eu cŵn yn dioddef o "gyflyrau iechyd difrifol".
Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.
Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro'r amseroedd aros ar gyfer mynediad at driniaeth orthodontig yng Nghymru, mae Rebecca Evans yn dweud "Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cyfeiriadau deintyddol electronig ar draws holl arbenigedd deintyddol".
Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn gofyn am y ddogfen gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ynghylch pam y byddai Cymru yn well ei byd yn yr UE.
Mae Mr Reckless yn dweud y byddai wedi bod yn well cyhoeddi hon cyn y refferendwm, nid tair blynedd yn ddiweddarach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ar hyd yr amser y byddai aros yn yr UE o'r budd gorau i Gymru, ymateba Rebecca Evans.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn codi mater grant o £150,000 oddi wrth Help for Heroes i ariannu therapyddion seicolegol i gyn-filwyr.
Mae'n dweud bod hwn i fod i ddod i ben ym mis Hydref 2020 a bod yna bryderon ynghylch yr effaith y bydd hynny'n ei gael.
A wneith Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid ar gyfer cyn-filwyr gofynna.
Mae Ms Evans yn dweud bod Vaughan Gething yn y Siambr ac y byddai wedi clywed y pryderon y mae Mr Davies wedi'u codi.
Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud y byddai Llywodraeth Cymru yn "ymuno gyda'r Ceidwadwyr" petai nhw'n cefnogi enw dwyieithog i'r cynulliad, yn hytrach na'r gair Cymraeg Senedd.
Mae Ms Evans yn dweud mai mater i Gynulliad Cymru yw hwn ac yn nodi y bydd ACau Llafur yn cael pleidlais rydd.
Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn cwestiynau ar ran arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw.
Mae Rebecca Evans yn ymuno gydag e i gondemnio defnydd Prif Weinidog y DU Boris Johnson o iaith yn ystod dadl flin yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf.
Fe wnaeth Mr Johnson wfftio ymyrraeth un AS, lle y gwnaeth hi feirniadu ei ddefnydd o iaith gan siarad am lofruddiaeth Jo Cox, fel "hymbyg".
Bu farw Ms Cox, a wnaeth gefnogi Aros yn ystod ymgyrch y refferedwm, farw yn 2016 wedi iddi gael ei saethu a'i thrywanu yn Birstall, Gorllewin Sir Efrog.