Crynodeb

  • Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu Mesur Ymadael nos Lun

  • ASau wedi cefnogi'r mesur ond gwrthod yr amserlen o dridiau sydd wedi'i gynnig

  • Y llywodraeth yn 'oedi' gyda'r mesur, ond nid yn tynnu'n ôl yn llwyr fel yr oedd wedi bygwth

  1. Etholiad ar y gorwel?wedi ei gyhoeddi 19:26 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Os nad yw'r mesur ar yr amserlen yn pasio, yna gallwn ni weld etholiad cyn diwedd y flwyddyn.

    Dydy Boris Johnson ddim eisiau estyniad i gyfnod Brexit, gan fynnu ei fod eisiau gadael yr UE ar 31 Hydref.

    Os ydy ASau yn gwrthod mesur y llywodraeth a bod oedi i Brexit, dywedodd y prif weinidog y byddai'n ceisio cael etholiad cyffredinol.

    Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid cael o leia' pum wythnos rhwng galw etholiad a'i chynnal, ac felly fyddai hynny methu digwydd cyn 28 Tachwedd ar y cynharaf.

    blwch pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Troi sylw at yr amserlenwedi ei gyhoeddi 19:25 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Nawr bod y llywodraeth wedi ennill y bleidlais gyntaf, mae'r sylw yn troi at amserlen Brexit.

    Er bod mwyafrif wedi cefnogi'r cytundeb ychydig funudau'n ôl, y gred yw bod llawer o'r blaid Lafur yn anhapus gyda'r hyn maen nhw'n ei weld fel diffyg amser i graffu ar y cytundeb.

    Mae'n debyg y bydd y bleidlais nesaf yn agosach fyth...

  3. Mwyafrif Brexit am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 19:22 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Canlyniad pwysig i'r llywodraeth, a'r tro cyntaf i aelodau ddod i fwyafrif ar Brexit mewn unrhyw ffurf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Mwyafrif o 30wedi ei gyhoeddi 19:17 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Pleidleisiodd 329 o blaid y mesur, a 299 yn erbyn - felly mwyafrif o 30.

  5. ASau'n cefnogi'r cytundeb ymadaelwedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019
    Newydd dorri

    BBC Cymru Fyw

    Mae ASau wedi cefnogi Mesur y Cytundeb Ymadael.

  6. Torfeydd yn San Steffan etowedi ei gyhoeddi 19:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r torfeydd y tu allan i Dŷ'r Cyffredin unwaith eto heno, wrth i'r pleidleisiau hollbwysig ddigwydd y tu mewn.

    Brexit San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Pleidleisio yn y Cynulliadwedi ei gyhoeddi 19:08 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wrth i ASau bleidleisio yn San Steffan, mae ACau Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd eisoes wedi pleidleisio i wrthwynebu cytundeb Brexit Boris Johnson.

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i ganiatáu estyniad a gadael i'r llywodraethau datganoledig graffu ar y ddeddfwriaeth.

    Ond mae'r Ceidwadwyr unwaith eto wedi cyhuddo'r pleidiau hynny o "fynd yn erbyn barn y bobl yng Nghymru ac yn anwybyddu canlyniad y refferendwm".

    siambr y cynulliad
  8. ASau'n pleidleisiowedi ei gyhoeddi 19:02 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae aelodau nawr yn pleidleisio ar y Mesur Ymadael.

    Bydd y canlyniad yn dod ymhen ychydig funudau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cymry yn cloi'r trafodwedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    Gareth Pennant
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Gofyn am estyniadwedi ei gyhoeddi 18:58 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Beth sy'n digwydd felly os yw ASau yn gwrthod y Mesur Ymadael, neu mae'n cael ei dynnu?

    Fel mae'n sefyll ar hyn o bryd, os nad yw'r cytundeb yn cael ei basio yn San Steffan yna bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 31 Hydref.

    Ond ddydd Sadwrn fe gollodd y llywodraeth bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin oedd yn golygu fod Mr Johnson wedi ei orfodi i ofyn am estyniad gan yr UE i osgoi Brexit heb gytundeb.

    Os ydy'r UE yn caniatau'r estyniad hwnnw, felly, mae'n bosib na fydd Brexit yn digwydd ymhen ychydig dros wythnos wedi'r cyfan.

    TC
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r siambr yn llenwi wrth i'r areithiau olaf gael eu clywed

  11. Trafferthion?wedi ei gyhoeddi 18:53 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llywodraeth eisiau gweld y mesur yn pasio drwy Dŷ'r Cyffredin mewn tridiau, er mwyn rhoi digon o amser i'r ddeddfwriaeth basio cyn 31 Hydref - y diwrnod mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd.

    Ond mae'r gwrthbleidiau wedi dweud nad yw hynny'n rhoi digon o amser i graffu ar ddeddfwriaeth hynod o bwysig, ac yn dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu'r amserlen hwnnw.

    Os yw hynny'n digwydd, mae'r llywodraeth wedi bygwth tynnu'r mesur yn ôl yn gyfan gwbl.

  12. Mesur Ymadael Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Beth sydd dan y chwyddwydr heno felly?

    Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno eu Mesur Ymadael, sef y cytundeb y daethon nhw iddo gyda'r Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf.

    Un o'r prif wahaniaethau rhwng cytundeb Boris Johnson ac un ei ragflaenydd Theresa May ydy ei fod wedi cael gwared ar y backstop ar gyfer Gogledd Iwerddon.

    Yn syml byddai cytundeb Mr Johnson yn gweld y DU yn gadael undeb dollau'r UE, ond byddai rhyw fath o ffin dollau yn cael ei sefydlu rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU er mwyn hwyluso pethau ar y ffin yn ynys Iwerddon.

    boris johnson
  13. Rhagor o bleidleisiau Brexitwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Noswaith dda, a chroeso i'r llif byw heno yn dilyn yr hynt a helynt o Dŷ'r Cyffredin.

    Mae Aelodau Seneddol wedi bod yn trafod mesur Brexit y llywodraeth yn ystod y prynhawn, ac fe fyddan nhw'n pleidleisio arno yn fuan.