Crynodeb

  • Alun Cairns yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

  • Daw wedi ffrae am yr hyn oedd Mr Cairns yn ei wybod am ddymchwel achos treisio

  • Mae'r BBC yn deall y bydd yn parhau fel ymgeisydd etholiadol

  1. Alun Cairns wedi ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 6 Tachwedd 2019

    Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi ymddiswyddo yn sgil ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.

    Roedd Mr Cairns wedi gwadu ei fod yn gwybod am ran Ross England mewn dymchwel achos treisio.

    Fe welodd BBC Cymru e-bost gafodd ei anfon at Mr Cairns ac eraill yn crybwyll y mater.

    Dywedodd Mr Cairns y byddai'n gadael ei swydd fel aelod cabinet.