Crynodeb

  • ACau yn cymeradwyo Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy'n newid enw'r cynulliad ac yn rhoi pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed.

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Dadl Cyfnod 4 y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser Pancreatig

  • Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllid Llywodraeth Cymru

  • Dadl Blaid Brexit - Cofrestr Lobïwyr

  • Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

  1. 'Wedi'i herwgipio'wedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Dywed y Ceidwadwr David Melding ei fod yn "gresynu" nad yw'r Ceidwadwyr yn gallu cefnogi'r mesur.

    Mae'n honni fod y mesur wed cael ei "herwgipio" gan Lywodraeth Cymru.

    Mae "rhoi hawl i ddinasyddion o dramor i bleidleisio yn golygu nad oes modd cefnogi'r mesur hwn," meddai..

  2. Cefndir: Nifer wedi galw am enw Cymraeg yn unigwedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Yn gynharach ym mis Tachwedd cafodd cynnig i sicrhau enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ym Mae Caerdydd ei wrthod gan Aelodau Cynulliad.

    Mae'n golygu y byddai y sefydliad yn cael ei alw'n Senedd Cymru yn Gymraeg, a Welsh Parliament yn Saesneg, yn unol â chynnig gwreiddiol y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

    Cafodd y gwelliant, dan enw'r AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, i fabwysiadu'r enw Senedd Cymru yn unig ei drechu o 39 pleidlais i 16.

    Fe wnaeth yr aelodau hefyd gefnogi cynnig gwreiddiol arall Mr Jones i alw ACau yn Aelodau o'r Senedd pan fydd teitl newydd y Cynulliad yn dod i rym yn swyddogol.

    Cafodd cynigion Mr Jones gymeradwyaeth yr aelodau ym mis Medi ond roedd Plaid Cymru'n dadlau y byddai enw Cymraeg yn "perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru".

    Ddechrau Tachwedd bu 100 o bobl mewn rali ym Mae Caerdydd yn galw am enw Cymraeg yn unig.

    Ddiwrnod cyn hynny fe wnaeth dros 30 o ffigyrau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Michael Sheen, Nigel Owens a Cerys Matthews,arwyddo llythyr agored yn galw am enw Cymraeg yn unig i'r Senedd.

  3. Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Nesaf Dadl Cyfnod 4 y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru).

    Mae Elin Jones(Ceredigion) , dolen allanolyn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47 yn cymeradwyo Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru), dolen allanol.

    Dyma'r cam ola i'r gyfraith a fyddai'n newid enw'r cynulliad ac yn rhoi pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed.

    Mi fyddai'r mesur yn ychwanegu 70,000 o bobl i'r gofrestr etholiadol.

    Yn ogystal byddai'r cynulliad yn cael dau enw - Senedd Cymru a Welsh Parliament.

    Byddai ACau yn cael eu galw yn Aelodau y Senedd a byddai hawl gan ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

    blwch pleidleisio
  4. Cwestiwn Amserol 2: Effaith amgylcheddol llosgydd Y Barriwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae Andrew RT Davies (Canol De Cymru) yn gofyn :A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a wnaed ar losgydd y Barri, o gofio bod profion yn y gwaith eisoes wedi dechrau?

    Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn yn ymateb bod ymgynghorydd annibynnol yn cynnal asesiad i Lywodraeth Cymru o'r datganiad amgylcheddol a wnaed gan y datblygwr.

    Ym mis Tachwedd eleni fe wnaeth tua 100 o bobl gymryd rhan mewn protest tu allan i'r Senedd mewn gwrthwynebiad i losgyddion gwastraff.

    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod cymal nesaf profion wedi dechrau mewn llosgydd bio-màs yn Y Barri, ym Mro Morgannwg, sy'n destun pryder i drigolion sy'n poeni ynghylch y posibilrwydd o lygredd aer.

    Protest o flaen y Senedd ym mis Tachwedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Protest o flaen y Senedd ym mis Tachwedd

  5. Cwestiwn Amserol 1: Helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynaswedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) yn gofyn :A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas?

    Mae yna gynnydd o 83% wedi bod yn nifer o achosion trais yn y cartref sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

    Mae Jane Hutt yn nodi amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cwnsela a hyfforddiant ymwybyddiaeth.

  6. Defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans yn ddoethwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae Vaughan Gething yn ymuno â Caroline Jones o Blaid Brexit i gefnogi ymgyrch y gwasanaeth ambiwlans #BeWiseSaveLives sy'n galw ar y cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth yn ddoeth yn y gaeaf.

    Mae Caroline Jones yn nodi bod rhywun wedi ffonio'r gwasanaeth ambiwlans llynedd ar ôl taro bawd troed - dyw hynny ddim yn ddefnydd priodol o'r gwasanaeth, meddai.

  7. Pam cymeradwyo cynllun CwmTaf Morgannwg?wedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae Angela Burns o'r Ceidwadwyr a Helen Mary Jones o Blaid Cymru yn gofyn pam fod cynllun Cwm Taf Morgannwg i "ddarparu gwell iechyd a gofal i bawb" wedi'i gymeradwyo gan y gweinidog iechyd cyn i adroddiad damniol gael ei gyhoeddi.

    Fe gyhoeddwyd adroddiad annibynnol ym mis Ebrill sy'n cynnwys profiadau 140 teulu - gan gynnwys profiadau mamau yn yr ysbytai.

    Cafodd Cynllun Tymor Canolig Integredig Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2019-22 ei gymeradwyo gan y gweinidog ar Fawrth 26.

    Mae Vaughan Gething yn cyfeirio at ei ymyrraeth gan gynnwys rhoi'r gwasanaethau mamolaeth o dan fesurau arbennig.

    Angela Burns
    Helen MaryFfynhonnell y llun, bbc
  8. Ffiniau'r byrddau iechyd newydd?wedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Nesaf cwestiynau’r i’r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

    Suzy Davies, AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru sy’n gofyn y cwestiwn cyntaf sef: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau'r byrddau iechyd newydd yng Ngorllewin De Cymru?

    Mae Mr Gething yn nodi bod gwasanaethau iechyd ym Mhen-y-bont wedi'u darparu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ers Ebrill eleni.

    Abertawe Bro Morgannwg oedd yn arfer darparu'r gwasanaethau - roedd y bwrdd iechyd hwnnw hefyd yn gwasanaethu Abertawe ac mae e bellach yn dwyn yr enw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

    Cafodd y newid ei wneud er mwyn adlewyrchu cysylltiadau cynyddol Pen-y-bont â threfi i'r dwyrain fel rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

    Mae Suzy Davies yn galw am asesiad effaith newidiadau posib i feddygfeydd ym Mhencoed a Llanharan.

    Vaughan Gething
  9. Cyfleon i athrawon ar draws y ffinwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Wrth gael ei holi gan Suzy Davies am "ba mor hir y mae'n bwriadu eithrio athrawon sydd newydd gymhwyso y tu allan i Gymru o ysgolion Cymru", mae Kirsty Williams yn ateb gan ddweud "bod digon o gyfleoedd i rai sydd am groesi'r ffin i ddysgu yn ein system addysg".

    Suzy Davies
  10. Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysgwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn cyfeirio at ddyletswydd statudol pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i gyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn sôn am "dro-pedol" yn Nhredegar, Blaenau Gwent ynghylch sefydlu Cylchoedd Meithrin cyfrwng-Cymraeg ac ail ysgol Gymraeg.

    Mae Kirsty Williams yn ymateb trwy ddweud bod cryn alw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a'i bod yn "rhyfeddol" bod awdurdod lleol yn gwneud cais llwyddiannus am arian ac yna yn "ymddangos fel eu bod ddim eisiau codi'r ysgol honno".

    Mae'n ychwanegu bod ei swyddogion yn "chwilio am ddatrysiad".

    Sian Gwenllian
  11. Gwella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant?wedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru.

    Daw’r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed, AC Gorllewin De Cymru.

    Mae hi’n gofyn: A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r adran economi a thrafnidiaeth i wella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant?

    Mae Kirsty Williams yn dyfynnu datganiad a wnaed gan y gweinidogion ar y cyd sy'n nodi "bwriad i adolygu pob mater cysylltiedig â thrafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant".

    Kirsty Williams
  12. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 27 Tachwedd 2019

    Prynhawn Da.

    Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.