Crynodeb

  • Cynghorau yn erfyn ar ymwelwyr i gadw draw

  • Saith o bobl eraill wedi marw a 71 achos newydd

  • Dim gwasanaethau mewn addoldai ar draws Cymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ateb cwestiynau'r cyhoedd

  • Yr heriau sy'n wynebu banciau bwyd wrth i wirfoddolwyr hŷn hunan ynysu

  • Ar Sul y Mamau, bwytai ar gau i ddiogelu'r cyhoedd

  1. Neges amserol un o ymgynghorwyr y GIG yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae Awen Iorwerth yn ymgynghorydd ac yn llawfeddyg a dyma'i neges amserol ar Sul y Mamau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. 'Yr Eglwys yn fwy nag adeilad'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Doedd dim rhaid gwisgo i fynd i'r capel bore 'ma wrth i rithwasanaethau gael eu cynnal ar draws Cymru a thu hwnt.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Angen canllaw am feysydd carafanau'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ar raglen Sunday Supplement Radio Wales dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod yn poeni am bobl yn teithio i ardaloedd gwledig yn ystod y cyfnod yma gan y gallai hynny roi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

    Wrth gael ei holi gan Vaughan Roderick, dywedodd: "Pam 'dan ni ddim yn cau meysydd carafanau, parciau gwyliau a gwestai? Fe fyddai hynny yn cael effaith yn syth."

    Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi fod parciau fel Bluestone ym Mhenfro wedi cau yn wirfoddol.

    Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gael cysondeb ar draws Cymru ac mi all y llywodraeth wneud hynny.

    "Rhaid i'r prif weinidog a Llywodraeth Cymru wneud datganiad am eu bwriad.

    "Mae modd gosod canllawiau a gall deddfwriaeth ddilyn hynny."

    Adam P
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn poeni am bobl yn teithio i ardaloedd gwledig

  4. Y saith fu farw wedi marw yn ystod yr wythnos - nid dros noswedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Yn dilyn cyhoeddiad bod saith arall wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru, dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd y saith wedi marw dros nos ond yn ystod yr wythnos.

    Dywedodd: "Mae deuddeg o bobl bellach wedi marw yng Nghymru wedi profion positif o COVID-19.

    "Mae'r prif swyddog meddygol wedi cadarnhau na fydd mwy o wybodaeth nes bod teulu agos wedi cael gwybod."

  5. Dim oedfaon - ond negeseuonwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Does yna ddim oedfaon heddiw mewn capeli nac eglwysi ond mae nifer wedi anfon negeseuon neu'n darlledu dros y we.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cwestiwn 6 - 'Datrys problem pobl yn gorbrynu?'wedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Cwestiwn 6:

    Pam nad yw’r llywodraeth yn gweithredu i rwystro pobl rhag prynu gormodedd o nwyddau o’r siopau gan wagio’r silffoedd ?

    Mae yna silffoedd gwag mewn nifer o’r archfarchnadoedd, a nwyddau hanfodol yn anodd eu cael .

    Mae hyn yn arwain at fwy o banig.

    Pa gamau ymarferol mae’r llywodraeth yn eu cymryd i ddatrys hyn?

    Ateb - Dywedodd Mr Drakeford ei fod am bwysleisio eto i bobl fod yn gall a pheidio â phrynu mwy nag sydd ei angen.

    Mae nifer o siopwyr wedi wynebu silffoedd gwag yn sgil argyfwng Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae nifer o siopwyr wedi wynebu silffoedd gwag yn sgil argyfwng Covid-19

  7. Cwestiwn 5 - 'Angen canllawiau clir i staff categori risg'wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Cwestiwn 5:

    Mae yna restr hir o weithwyr allweddol. Sut mae ysgolion yn mynd i wybod a yw rhieni yn gymwys a beth am lefelau staffio?

    Mae ffrind i mi yn dioddef o asthma ond yn teimlo bod rhaid gweithio oherwydd y nifer o blant sydd ar y rhestr ciniawau am ddim yn yr ysgol.

    A all y prif weinidog osod canllawiau clir fel nad yw staff sydd mewn categori o risg yn teimlo dan bwysau i roi eu bywydau mewn peryg?

    Ateb - Cafodd y rhestr gweithwyr allweddol ei chyhoeddi ddydd Gwener.

    Fory bydd yn rhaid i bawb fod yn gall - bydd pethau yn dod i drefn gyda threigl yr wythnos.

    Wrth ateb cwestiwn ar arholiadau AS dywedodd ei fod hi'n bosib y bydd disgyblion yn gallu sefyll eu harholiadau yn yr hydref - fydd 'na ddim gradd arferol yr haf hwn.

    Bydd plant gweithwyr allweddol yn cael parhau i fynd i'r ysgol hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gau'n swyddogolFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd plant gweithwyr allweddol yn cael parhau i fynd i'r ysgol hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gau'n swyddogol

  8. Cael dod nôl o Beriw wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud y bydd nifer o dwristiaid o Brydain sydd wedi methu gadael Periw yn cael dychwelyd wythnos nesaf - yn eu plith mae Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-Arth.

    Roedd y ddau wedi teithio i Beriw fel rhan o daith o amgylch de America.

    Mae nhw ymhlith cannoedd o bobl o Brydain sydd methu dychwelyd adref o'r wlad am fod hediadau i mewn ac allan wedi cael eu hatal oherwydd yr haint.

    Ffred a MeinirFfynhonnell y llun, LlUN TEULU
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Ffred a Meinir Ffransis ar daith drwy dde America i dathlu eu penblwyddi yn 70

  9. Cwestiwn 4 - 'Wedi fy niswyddo - pa gymorth sydd 'na?'wedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Cwestiwn 4:

    Yr wythnos hon fe gefais fy niswyddo oherwydd coronafeirws.

    Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i bobl fel fi sydd heb swydd na chwaith ffynhonnell incwm o ganlyniad i coronafeirws?

    Ateb - Y peth cyntaf yw cysylltu â Chanolfan Cyngor ar Bopeth er mwyn cael cyngor unigol.

    Dywed hefyd y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cymorth gan y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos ddiwethaf.

    Nos Wener dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflog y rheiny sydd ddim yn gweithio, hyd at £2,500 y mis

    Canghellor Rishi Sunak
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i'r Canghellor Rishi Sunak wneud cyhoeddiadau pellach yr wythnos hon

  10. Cwestiwn 3 - 'Angen cymorth ar frys'wedi ei gyhoeddi 10:34 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Y trydydd cwestiwn:

    Rwy’n ennill fy mywoliaeth yn gwerthu hufen iâ, ac mae gennyf faniau hufen iâ.

    Mae’r busnes wedi dioddef, mae archebion wedi eu canslo ac mae fy safleoedd ar gyfer gwerthu wedi eu cau.

    Mae gennyf filiau i’w talu, teulu i fwydo.

    Mae’r cerbydau yn cael eu cadw mewn warws, ac mae angen talu rhent. Rwyf angen cymorth rŵan hyn.

    Ateb - Os yn gweithio bydd cyhoeddiad y Canghellor wythnos diwethaf o ddefnydd.

    Mae mater o fod yn hunangyflogedig yn fwy cymhleth - bydd pobl hunangyflogedig yn un o'r pynciau a fydd o dan ystyriaeth ganddo bore fory wrth iddo drafod cyflwyno mesurau newydd.

    Mae disgwyl hefyd gyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys yr wythnos hon am bobl hunagyflogedig.

  11. A fydd apwyntiadau yn cael eu gohirio am gyfnod amhenodol?wedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Yn yr ail gwestiwn mae rhiant yn gofyn:

    Mae fy merch 11 oed newydd gael diagnosis o arthritis/wynegon ac mae hi mewn cryn dipyn o boen.

    Cafodd ei chyfeirio at arbenigwr ond rwy’n cymryd, a hynny’n n ddealladwy na fydd hynny yn digwydd am amser, ond nid ydym wedi cael cynllun gofal na chwaith yn gwybod yn union beth yr ydym yn ei wynebu.

    Felly a fydd apwyntiadau yn cael eu hoedi am gyfnod amhenodol?

    Mae hi’n gobethio dechrau addysg uwchradd ym mis Medi ac rydym wir angen cynllun yn ei le cyn hynny.

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai'r peth gorau i wneud yw ffonio'r meddyg teulu i drafod y mater.

  12. 'Peidio mynd allan am 12-16 wythnos'wedi ei gyhoeddi 10:27 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ateb dywed Mr Drakeford bod angen trafod y mater hwn gyda chydweithwyr clinigol.

    Ychwanegodd y bydd mwy o bobl yn cael eu profi yng Nghymru yn ystod y diwrnodau nesaf.

    Bydd 70,000 o lythyron yn cael eu hanfon yr wythnos hon at bobl mwyaf bregus Cymru yn eu cynghori i beidio mynd allan am 12-16 wythnos.

    cv
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd mwy o bobl yn cael eu profi yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf

  13. Y cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog, Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae Prif Weinidog Cymru ar hyn o bryd yn ateb cwestiynau'n fyw ar raglen Politics Wales ar BBC 1 Cymru.

    cwestiwn 1Ffynhonnell y llun, bbc
  14. 'Cadwch bant o bobl,' medd y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ar raglen Politics Wales, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn dweud mai dechrau effaith yr haint yw marwolaeth saith claf arall - mae nifer y marwolaethau yng Nghymru bellach yn 12.

    Pwysleisiodd mai'r cyngor yw gwneud teithiau angenrheidiol yn unig.

    "Cadwch bant o bobl," meddai.

    Bydd e'n cyfarfod â chyfreithwyr yn hwyrach heddiw er mwyn canfod yn union beth yw'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru.

  15. 'Cymru ar gau'wedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae arwyddion wedi cael eu rhoi yn Y Bala â'r geiriau "Wales is closed".

    Daw'r rhybudd wedi i swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri nodi bod yr ardal ddoe yn "orlawn" o ymwelwyr.

    Mae pobl yn poeni y gallai gormod o ymwelwyr effeithio ar yr ymdrechion i atal lledaenu haint coronafeirws.

    bala
  16. Saith arall wedi marw yng Nghymru o haint coronafeirwswedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru, Dr Frank Atherton:

    “Gyda thristwch mawr, gallaf gadarnhau saith o farwolaethau pellach ymhlith cleifion yng Nghymru a brofodd yn bositif ar gyfer Coronafeirws (COVID-19).

    “Mae hyn yn mynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 12.

    “Mae fy meddyliau gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau ac rwy'n gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser trist iawn yma."

    Roedd pump o'r marwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, un yn Nevill Hall ac un yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

    Roedd pob un yn y categori risg uchel, naill ai dros 70 neu gyda chyflyrau iechyd sylfaenol.

  17. Holi'r Prif Weinidog Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ar raglen Politics Wales am 10.15 ar BBC 1 Cymru.

    Mae nifer o gwestiynau wedi cael eu cyflwyno - maent yn ymwneud â materion iechyd, addysg a'r economi.

    Mark Drakeford
  18. Dim gwasanaethau mewn addoldaiwedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae cannoedd o wasanaethau crefyddol wedi eu canslo ddydd Sul fel rhan o'r ymateb i argyfwng coronafeirws.

    Fe gyhoeddodd Yr Eglwys yng Nghymru yn gynharach yn yr wythnos na fyddant yn cynnal gwasanaethau.

    Yn yr un modd mae capeli anghydffurfiol, yr Eglwys Gatholig a Chyngor Mwslemaidd Prydain yn dilyn canllawiau tebyg.

    eglwysFfynhonnell y llun, RAWPIXEL
  19. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Sul y Mamau hapus i bob mam ond bydd Sul y Mamau yn dipyn yn wahanol i'r arfer wrth i fwytai a llefydd cyhoeddus eraill orfod cau er mwyn diogelu'r cyhoedd.

    Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi annog pobl i beidio ymweld ag anwyliaid.

    "Ar adeg fel hon y peth gorau i wneud yw ffonio eich mam neu gysylltu â hi ar skype - peidiwch â chael unrhyw gysylltiad corfforol dianghenraid.

    "Pam hynny? Wel oherwydd os yw eich mam yn fregus neu'n hŷn, rwy'n ofni bod yr ystadegau yn dangos ei bod yn fwy tebygol o haint coronafeirws.

    boris johnson