Amddiffyn y penderfyniad i ganslo bwletinau teleduwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020
BBC Cymru Wales
Mae pennaeth BBC Cymru wedi dweud bod y darlledwr yn gorfod gwneud “penderfyniadau anodd am flaenoriaethau” yn dilyn penderfyniad i ganslo bwletinau teledu brecwast ar BBC One Wales o ddydd Llun.
Ni fydd unrhyw un o genhedloedd a rhanbarthau’r DU yn darparu bwletinau teledu boreol yn ystod BBC Breakfast o 30 Mawrth.
Dywedwyd wrth wylwyr y bore 'ma ei fod yn “fesur dros dro” tra bod y BBC wedi addasu i “ofynion wrth ymdrin â Covid-19 a’i effeithiau ar ein bywydau i gyd”.
Wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae lefelau staffio yn y BBC wedi cael eu heffeithio ledled y DU, ac mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd am flaenoriaethau."