Crynodeb

  • Pedwar person arall wedi marw yng Nghymru ar ôl cael coronafeirws

  • Dros 1,000 wedi cael prawf positif erbyn hyn

  • Heddlu'n fodlon defnyddio pwerau i ddirwyo

  1. Cwmnïau ar eu colled drwy ddiffyg cyfathrebu?wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    BBC Wales News

    Mae cwmnïau’n colli busnes oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, yn ôl grŵp busnes.

    Dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru bod angen datrys y broblem "ar frys".

    Dywedodd llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn cydweithio'n agos ar y mater.

  2. Newydd briodi ond gwahanu am gyfnod yn sgil coronafeirwswedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Ganol Chwefror, roedd Bridget ac Owain Harpwood o Lanilar yng Ngheredigion ar ben eu digon wedi i'r ddau briodi, ond ychydig dros fis yn ddiweddarach mae'r ddau yn gorfod byw ar wahân er mwyn diogelu iechyd Elain, merch Bridget.

    Cafodd Elain, sydd bellach yn 10 oed, ei geni â chyflwr prin ar ei chalon - cyflwr sy'n golygu ei bod wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth ac mae ei chadw rhag unrhyw salwch yn holl bwysig.

    Yr wythnos hon wedi i nifer o gyfyngiadau gael eu cyflwyno ac wrth i'r haint ledu yng Nghymru fe benderfynodd y teulu mai'r peth gorau i Owain fyddai symud allan nes y byddai'r haint yn lleihau.

    "Dwi'n teimlo bod bywyd wastad yn fregus, ac mae hynny wedi dod yn realiti bywyd bob dydd ond mae haint COVID-19 wir wedi'n taflu ni ac mae nifer o'r teimladau emosiynol o'dd gen i yn ystod ei bywyd cynnar wedi dod nôl."

    Bridget ac Owain
  3. Agor gwesty yn arbennig i bobl ddi-gartrefwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae Cyngor Caerdydd wedi symud y cleientiaid cyntaf i mewn i westy sydd wedi agor yn arbennig i bobl ddi-gartref a sy'n dangos symptomau'r feirws.

    Mae'r cyngor yn bwriadu ehangu'r cynllun hefyd.

    Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Drwy ddarparu llety argyfwng hunan-gynhwysol, rydym yn sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd ac sy'n dangos symptomau'r feirws yn gallu hunan-ynysu fel pawb arall sydd angen gwneud hynny."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cyfleusterau newydd i ysbytai'r dewedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi bod yn paratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig mewn cleifion yn sgil covid-19.

    Mae staff wedi bod yn cymryd dyletswyddau newydd a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod y "gofal orau" ar gael i gleifion.

    Yn Ysbyty Treforys mae uned newydd i asesu cyflyrau anadlu a man i lanhau ambiwlansys ymhlith y newidiadau.

    Treforys
  5. Neges meddyg o Gymruwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhannu neges gan feddyg yn ne Cymru, yn diolch i bawb am aros adref i arafu lledaeniad y coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Gohirio'r Gemau yn 'ergyd seicolegol'wedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Owain Llyr
    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae cyn-bencampwraig triathlon y byd Non Stanford yn dweud fod gohirio Gemau Olympaidd Tokyo yn ergyd seicolegol i nifer fawr o athletwyr.

    Er bod Stanford yn cytuno gyda phenderfyniad y trefnwyr i ohirio’r Gemau tan 2021, mae hi hefyd yn cydymdeimlo hefo’r athletwyr sy’n dod at ddiwedd eu gyrfaoedd.

    “Mae fy meddyliau efo’r athletwyr sy’n barod i rasio a chystadlu ‘leni, achos iddyn nhw mae hi’n sefyllfa ddiflas.

    “Mi fydd blwyddyn ychwanaegol o ymarfer bob dydd yn anodd, yn enwedig i’r rhai oedd wedi ystyried ymddeol ar ôl y Gemau.

    “Ond yn anffodus doedd cynnal y Gemau ‘leni ddim yn opsiwn.”

    Fe enillodd Stanford Bencampwriaeth Triathlon y Byd yn 2013, cyn cael ei dewis yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yn 2016, lle y gorffenodd hi'n bedwerydd.

    Non Stanford
  7. Heddlu'n stopio gyrwyr ar yr A470wedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys yn stopio gyrwyr ar yr A470 ger Aberhonddu y bore 'ma, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn teithio'n ddiangen.

    Mae gan yr heddlu'r pwerau i roi dirwy o £60 i bobl os nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau.

    AberhondduFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

    Mae'r llu allan yn Sir Benfro hefyd, yn cadw golwg ar yr A477 ac ar draethau a mannau poblogaidd ar hyd yr arfordir.

    a477Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
  8. 'Cwmni adeiladu ddim yn dilyn canllawiau'wedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae un o weithwyr cwmni adeiladu Persimmon wedi dweud nad yw'r rheolau priodol yn cael eu dilyn ar safleoedd gwaith.

    Er bod penaethiaid wedi gorchymyn gweithwyr i roi'r gorau i'r gwaith, dywedodd un aelod o staff wrth y BBC nad yw rheolwyr ar safleoedd yn cefnogi'r un safbwynt.

    Yn ôl y gweithiwr, sydd ddim eisiau cael ei enwi: "Ar ol cyhoeddi'r lockdown, mi ddaethon ni i mewn i'r gwaith i ddechrau cau popeth i lawr.

    "Unwaith y dechreuon ni, tua canol y bore, cawsom gyfarwyddyd ar y ffôn gan y penaethiaid, ar lefel cyfarwyddwyr, i gadw'r busnes ar agor fel arfer."

    Dywedodd Persimmon fod pob un o'i safleoedd wedi dechrau cau i lawr yn drefnus, gyda dim ond gwaith hanfodol yn digwydd.

    PersimmonFfynhonnell y llun, Reuters
  9. Ail argyfwng i ddioddefwyr llifogyddwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae ynysu yn her i bawb ond mae'n anoddach fyth i bobl sydd newydd ddelio gydag argyfwng arall yn eu cartrefi.

    Fe wnaeth stormydd Ciara, Dennis a Jorge greu difrod gwerth o leiaf £150m ar draws Cymru yn gynharach eleni.

    Mae nifer o'r rhai a ddioddefodd wedi'u cyfyngu i aros mewn llety dros dro ac mae eraill yn aros gyda ffrindiau.

    Mae Caroline Jones, 56 oed, yn parhau i fod mewn llety wedi'i rentu wedi llifogydd yn ei chartref yn Nantgarw.

    "Mae'n ddigalon iawn bod mewn tŷ lle nid oes un teledu - dwi am fod yn fy nghartref fy hun a dwi'n colli fy nghymdogion - roedd y gymuned yn wych.

    "Does dim byd yn bwysicach na'r coronafeirws ond ry'n ni wedi colli ein cartrefi ac yn teimlo ein bod wedi mynd yn angof."

    Cartref Caroline Jones yn Nantgarw
  10. Yr un ydy'r neges gan Heddlu Gogledd Cymruwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Heddlu'n barod i ddefnyddio pwerau newyddwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    A hithau'n benwythnos mae'r heddlu wedi ailadrodd eu rhybuddion i'r cyhoedd aros adref oni bai ei fod yn daith angenrheidiol.

    Mewn lleoliadau fel Mwnt ger Aberteifi, mae'r heddlu wedi cau meysydd parcio, ac yn barod i ddefnyddio pwerau newydd i roi dirwyon i bobl sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheolau.

    Disgrifiad,

    Mae'r heddlu wedi rhybuddio y bydd pobl yn cael eu cosbi

  12. Galw am gadw ysgolion ar agorwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Ein prif stori'r bore 'ma ydy galwad y Gweinidog Addysg ar staff addysgu i wneud yr hyn allan nhw i gadw ysgolion ar agor dros wyliau'r Pasg.

    Fe wnaeth Kirsty Williams yr alwad er mwyn i weithwyr iechyd a gofalwyr allu parhau gyda'i gwaith yn ystod y gwyliau.

    Diolchodd hefyd i'r staff sydd wedi cadw dros 700 o ysgolion ar agor dros yr wythnos diwethaf.

    Hirsty Williams
  13. Bore dawedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Croeso i'r llif byw fydd yn dod â'r diweddaraf i chi yn ystod y dydd.