Ymateb i benodiad Syr Keirwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020
Bydd arweinydd newydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer “yn sefyll dros fuddiannau Cymru," yn ôl arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford.
Enillodd Syr Keir y ras i olynu Jeremy Corbyn gyda 56.2% o’r bleidlais, gan guro ei gyd-ymgeiswyr Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.
Dywedodd Mr Drakeford y bydd arweinyddiaeth Syr Keir "yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf".
Galwodd hefyd ar y blaid i "ddod at ei gilydd" i wynebu'r "heriau o'n blaenau".