Crynodeb

  • 12 marwolaeth pellach o achos Covid-19, a 355 canlyniad positif newydd yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Y gweinidog iechyd yn dweud y bydd 7,000 o welyau ychwanegol a mwy na dwbl nifer yr offer anadlu.

  • Amseroedd 'heriol' i wasanaethau iechyd eraill yn sgil cyfyngiadau Covid-19 ar gyfarfod wyneb yn wyneb

  1. Diolch a hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    A dyna ddiwedd ar ein llif byw am heddiw.

    Diolch am aros gyda ni.

    Bydd y llif byw yn ôl bore fory gyda'r newyddion diweddaraf.

  2. Cyhoeddi Y Dinesydd ar y we am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws mae nifer o bapurau bro Cymru'n paratoi rhifynnau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar y we yn lle.

    Un ydy papur bro Caerdydd a'r Fro, Y Dinesydd, dolen allanol.

    Ni fydd copïau caled yn cael eu rhannu ac ni fydd taliad ar gyfer y rhifyn yma chwaith.

    Dywedodd golygydd mis Ebrill, Bryan James: "Mae hyn yn agor y drws i ni gynnig y Dinesydd i gynulleidfa ehangach".

  3. AS o Gymru yng nghabinet yr wrthblaidwedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae arweinydd newydd y blaid Lafur, Kier Starmer, wedi cyhoeddi ei gabinet yr wrthblaid yn San Steffan, ac wedi rhoi un o'r swyddi blaenllaw i AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Seiclwr Tour de France yn rhoi beic i feddygwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae’r beiciwr proffesiynol Luke Rowe wedi cynnig beic i feddyg gofal dwys y GIG yng Nghaerdydd ar ôl i'w feic gael ei ddwyn tra roedd ar shifft.

    Ar ôl i'r Dr Tom Roberts, sy'n anaesthetyg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, roi ei hanes ar Twitter fe dderbyniodd neges gan nid yn unig Luke Rowe o dîm Ineos ond hefyd y cyn-bencampwr Olympaidd Chris Boardman.

    Dywed Dr Roberts y bydd yn derbyn ei feic gan Rowe ddydd Llun.

    "Mae gweld yr holl gynigion o gymorth yn adfer eich ffydd mewn pobl," meddai.

    Tom Roberts a Luke Rowe
  5. Nid Monty sydd adre... ond ceiliog di-enw!wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Dridiau wedi i iâr Gweilch y Dyfi, Telyn, ddychwelyd adre mae pawb yn aros i'w phartner Monty ddychwelyd hefyd.

    Ond pwy yw'r ceiliog yma sydd wedi glanio'n y nyth brynhawn Sul?

    Nid oes ganddo fodrwy am ei goes, na marciau cyfarwydd arall - felly pwy yw e?!

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  6. Apêl am weithwyr i gynorthwyowedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am bobl fyddai'n gallu eu helpu gyda Covid-19 yn y gymuned

    Maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd â phrofiad neu awydd i weithio neu wirfoddoli yn y maes gofal, yn enwedig pobl i weithio mewn cartrefi preswyl, gofal cartref neu yn y maes nyrsio cymunedol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cosbi beicwyr o Lannau Merswywedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae heddlu'r gogledd wedi cymryd dau feic oddi ar ddau yrrwr o Wallasey ar Lannau Merswy a gafodd eu dal yn gyrru rhwng Capel Curig a Llanberis brynhawn Sul.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Chwaraewyr rhyngwladol yn cael trafferth ymarferwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Dywed Angharad James, chwaraewr rhyngwladol Cymru, iddi gael ei symud gan yr heddlu wrth iddi geisio hyfforddi yn ddiweddar, a bod dod o hyd i le i ymarfer yn 'anodd'.

    Mae chwaraewr canol cae Reading, James, 25, yn aros yn ei chartref yn Lerpwl wrth i Uwch Gynghrair y Merched gael ei atal oherwydd cyfyngiadau coronaferiws.

    "Ar hyn o bryd rydw i wedi cael fy nghicio oddi ar ddau gae," meddai cyn chwaraewr Everton wrth Chwaraeon BBC Radio Wales.

    "Fe wnaeth yr heddlu ein symud ymlaen. Roedden nhw'n meddwl bod sesiynau ymarfer yn digwydd, ac na ddylai hynny fod.

    "Maen nhw'n gwneud eu gwaith ar hyn o bryd a dwi'n gallu deall ei bod hi'n amser anodd i bawb, felly symudais ymlaen yn gyflym."

    Angharad JamesFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  9. Lloyd George yn gwisgo mwgwdwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae rhywun wedi rhoi mwgwd ar wyneb cerflun o David Lloyd George ar y Maes yng Nghaernarfon...

    Lloyd GeorgeFfynhonnell y llun, Meinir Hughes
    Lloyd GeorgeFfynhonnell y llun, Meinir Hughes
  10. Toriad i bŵer nifer o daiwedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Scottish Power

    Mae toriad pŵer wedi cael ei gofnodi yn ardal côd post LL44 yn Nyffryn Ardudwy, sy'n effeithio ar nifer fawr o gartrefi yn yr ardal.

    Dywedodd cwmni Scottish Power: "Ni chawsom unrhyw rybudd ymlaen llaw o hyn a dim ond am 13:37 y daethom yn ymwybodol ohono.

    "Mae ein peirianwyr wedi cyrraedd y safle i ymchwilio i adroddiadau heb eu cadarnhau o glec uchel o ddarn o offer uwchben. Bydd ein tîm yn gweithio i gael eich pŵer yn ôl ymlaen mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl."

    Mae disgwyl i'r pŵer gael ei adfer erbyn 16:30, meddai'r cwmni.

  11. Pî-po trwy dwll y clo....wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Tybed yng nghartrefi pwy mae'r golygfeydd yma i'w cael?

    (ac mae rhai'n ddyfeisgar iawn mewn argyfwng, mae'n amlwg)

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Gweithio bob dydd i gynhyrchu peiriannau anadluwedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae'r cwmni peirianneg Renishaw wedi dechrau cynhyrchu cydrannau ar gyfer peiriannau anadlu meddygol, i gefnogi'r GIG yn ystod y pandemig.

    Dywedodd y cwmni, sydd â safleoedd gweithgynhyrchu yn Swydd Gaerloyw a De Cymru, fod y ddwy ffatri bellach yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos.

    Dywedodd Marc Saunders, o Renishaw: "Pan alwodd y llywodraeth, fe wnaethon ni sgramblo i ymateb, a sylweddoli ar unwaith raddfa frawychus yr her."

    "Mae peiriannau anadlu yn ddyfeisiau meddygol soffistigedig ac roeddem yn teimlo mai'r ffordd orau o gymhwyso ein galluoedd fyddai helpu i gynyddu cynhyrchiad dyluniadau gyda'r dechnoleg sydd ganddon ni."

    Mae'r cwmni fel arfer yn cyflenwi rhannau ar gyfer cynhyrchu peiriannau jet a thyrbinau gwynt, yn ogystal âg offer ddeintyddiaeth a llawfeddygaeth ymennydd.

    Safle ffatri RenishawFfynhonnell y llun, Renishaw
  13. Capel newydd ar fin agor yn Llanbedwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae aelodau eglwys efengylaidd yn Llanbedr Pont Steffan yn paratoi i agor drysau eu cartref newydd sbon.

    Mae'r adeilad newydd wedi cael ei leoli y drws nesaf i gaffi Yr Hedyn Mwstard, ac fe ddywedodd y trefnwyr wrth raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru y bydd yr adeilad "yn dod â sefydlogrwydd".

    Capel efengylaidd Llanbed
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gobaith cyn cyfyngiadau haint coronafeirws oedd agor capel newydd erbyn y Pasg

  14. Dringo'r Wyddfa.... adrewedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae rhai'n darganfod ffyrdd gwahanol i lenwi eu horiau tra ein bod ni'n aros adre.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 12 marwolaeth pellach o Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Daeth cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol bod 355 yn ychwanegol o bobl bellach wedi cael eu heintio gyda Covid-19.

    Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 3,197 o bobl wedi profi'n bositif i'r haint, ond mae meddygon yn credu fod y nifer mewn gwirionedd yn uwch na hynny.

    Fe wnaeth 12 yn rhagor o bobl farw o'r haint yma dros y 24 awr diwethaf hefyd, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 166.

    Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dilyn cysoni data parhaus, bod 11 achos wedi’u dyblygu a gofnodwyd yn flaenorol wedi cael eu canfod a’u dileu o’r ffigurau cyffredinol.

    Y cyngor unwaith eto i bobl ydy i aros adref ac i beidio a mentro allan os nad yw'n hollol hanfodol.

    Iechyd Cyhoeddus CymruFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  16. Holi pobl ym mharciau Caerdyddwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae swyddogion cynorthwyol Heddlu De Cymru wedi cael eu gweld yn holi pobl yn rhai o barciau cyhoeddus Caerdydd ddydd Sul.

    Er gwaetha'r cyngor i bobl aros adre mae'n ymddangos bod rhai'n dal i wneud y gwrthwyneb.

    Parciau CaerdyddFfynhonnell y llun, Wales News Service
  17. Syniadau i ddifyrru plant gan y Comisiynyddwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Gyda rhieni Cymru'n paratoi ar gyfer ail, os nad trydydd, wythnos o ddifyrru plant adref mae gan Gomisiynydd Plant Cymru a'i thîm sawl awgrym ar eu gwefan o weithgareddau i'r teulu oll.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cynganeddu tra'n llechu heddi(w)wedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Awydd dysgu sgil newydd tra bo ni'n ynysu?

    Beth am ddilyn ôl troed Aled Hughes a dysgu sut i gynganeddu?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Ail-agor mynwentyddwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Bydd 11 o fynwentydd Cyngor Sir Benfro yn cael eu hail-agor ddydd Sul i aelodau o'r cyhoedd.

    Daeth y penderfyniad yn sgil cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn hwyr nos Wener bod mynwentydd yn cael aros ar agor, ond mai dim ond 12 person ar y mwyaf fyddai'n cael mynychu angladd.

    Fodd bynnag nid yw pob mynwent wedi ail-agor ddydd Sul.

    Fe sylwodd un o newyddiadurwyr BBC Cymru fod gatiau amlosgfa a mynwent Thornhill yng Nghaerdydd yn parhau ar gau.

    Amlosgfa Thornhill
    Disgrifiad o’r llun,

    Gatiau amlosgfa a mynwent Thornhill yng Nghaerdydd

  20. Gweinidog yn anwybyddu ei chyngor ei hunwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Ebrill 2020

    Mae prif swyddog meddygol yr Alban wedi ymddiheuro am anwybyddu ei chyngor ei hun a mynd i’w hail gartref, yn ôl Golwg360, dolen allanol

    Aeth Dr Catherine Calderwood i’r llety yn Fife er ei bod hi’n dweud wrth drigolion yr Alban y dylen nhw aros gartref yn sgil y coronafeirws.

    Mae’n dweud ei bod yn “wirioneddol ddrwg” ganddi.

    Dr Catherine CalderwoodFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dr Catherine Calderwood, prif swyddog meddygol yr Alban