Crynodeb

  • 41 arall wedi marw o Covid-19 - y nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod yng Nghymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn annog pawb i aros adref dros y Pasg

  • 'Gwrthod offer gwarchod personol (PPE)' i gartrefi gofal o Gymru

  1. Angen i Lywodraeth Prydain ddilyn Cymruwedi ei gyhoeddi 08:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Ddoe fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai'r cyfyngiadau presennol yn parhau ac mae yna alw ar Lywodraeth San Steffan i wneud cyhoeddiad tebyg.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pryderon y diwydiant awyrofodwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd hi'n cymryd o leiaf dwy flynedd i'r diwydiant awyrofod ddychwelyd i'r un sefyllfa ag yr oedd cyn i coronafeirws daro, yn ôl mudiad sy'n cynrychioli cwmnïau yng Nghymru.

    Mae cwmnïau sydd yn rhan o'r diwydiant yn cyflogi 23,000 o weithwyr mewn 160 o fusnesau yma, sydd yn gwasanaethu awyrennau ac yn cynhyrchu rhannau.

    Dywedodd John Whalley o Aerospace Cymru bod y cwymp dramatig mewn hediadau yn her gwirioneddol i rai cwmnïau Cymreig.

    awyrenFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 'Arhoswch adre dros y Pasg,' medd y Llywodraethwedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    Ar drothwy'r Pasg mae Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei neges sef pwysigrwydd aros adref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Rhybudd Heddlu'r Gogledd am dai hafwedi ei gyhoeddi 08:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ar drothwy'r Pasg, mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod 'na bobl wedi symud i dai haf.

    Gyda'r cyfyngiadau cymdeithasu yn parhau, mae 'na bryderon ym Mhen Llŷn bod tensiynau ar gynnydd, gyda honiadau bod perchnogion tai haf yn symud i'w tai yn ystod oriau'r nos i osgoi'r heddlu.

    Mae'r cynghorydd Gareth Williams yn cynrychioli Botwnnog ar Gyngor Gwynedd, a dywedodd wrth BBC Cymru Fyw bod 'na sôn bod pobl yn symud i ryw 10 i 15 tŷ haf y noson yn wardiau Botwnnog a Tudweiliog.

    tai hafFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Cyfle i ffonio arbenigwyr am 08:30wedi ei gyhoeddi 07:58 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae cyfle i chi ffonio arbenigwyr mewn rhifyn estynedig o'r Post Cyntaf am 08:30 a'r rhif yw 03703 500 500.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 07:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ein prif stori bore 'ma yw bod perchennog cartrefi gofal wedi dweud wrth BBC Cymru bod dau gwmni offer gwarchod personol (PPE) wedi gwrthod gwerthu iddi - gan fod y deunydd wedi ei gadw ar gyfer cwsmeriaid yn Lloegr.

    Mae Ceri Roberts yn rhedeg dau gartref gofal ym Mhorthmadog a Chricieth, gyda 78 o breswylwyr rhyngddyn nhw.

    Yn ôl perchennog Cartrefi Gofal Cariad, fe wrthododd y cwmnïau, o Loegr, werthu menig a ffedogau iddi roi i'w staff - gan ddweud mai cyfarwyddyd Iechyd Cyhoeddus Lloegr oedd gwerthu'r nwyddau i gwsmeriaid o Loegr yn unig.

    Mae'n dweud mai dim ond gwerth deuddydd o offer PPE sydd ar ôl ganddi.

    offer PPEFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mar staff mewn cartrefi gofal yn gwisgo offer gwarchod personol (PPE)

  7. Bore dawedi ei gyhoeddi 07:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Iau, 9 Ebrill a dyma'n llif byw arbennig gyda'r holl newyddion diweddaraf am y pandemig coronfeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Fe fyddwn ni yma gydol y dydd gyda phytiau o'r straeon pwysig a'r ffigyrau diweddaraf.

    Bore da i chi!