Meddygon tramor yn erfyn am gael helpu'r GIGwedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020
Does dim modd i rai meddygon tramor gymhwyso oherwydd coronafeirws, er eu bod yn awyddus i helpu.
Read More4,591 o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach a 315 wedi marw
Cyfyngiadau i barhau am beth amser eto
Yr heddlu'n brysur wrth i nifer dorri'r rheolau a theithio yng Nghymru
Does dim modd i rai meddygon tramor gymhwyso oherwydd coronafeirws, er eu bod yn awyddus i helpu.
Read MoreBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Fe fydd pob ardal yn wahanol debyg iawn, ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd wedi gwneud cyhoeddiad pwysig am amseroedd agor meddygfeydd yr ardal dros y Pasg.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i honiadau fod rhai pobl yn gyrru eu dillad ar wasanaeth 'courier' i'w tai haf yng Nghymru fel nad yw'r cas yn y car os fyddan nhw'n cael eu stopio ar y ffordd eu hunain.
Fel mae'r heddlu eu hunain yn dweud, "hunanol" dros ben os yw hynny'n wir.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd eisoes wedi bod yn weithgar yn ardal Wrecsam.
Fe ddaethon nhw o hyd i dri dyn o ardal Penbedw oedd wedi gosod pabell yn Wrecsam.
Roedd yr heddlu eisoes yn chwilio am un ohonyn nhw ac fe gafodd ei arestio, tra bod y ddau arall yn cael cyngor i droi am adref.
Ni wnaethon nhw dderbyn y cyngor ac mae'r ddau wedi eu riportio am droseddau'n ymwneud gyda COVID-19.
Plaid Cymru
Dylai pobl sydd ddim yn parchu'r gwaharddiad ar deithio diangen wynebu dirwyon sy'n ataliol, medd arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Roedd yn cydnabod bod y mwyafrif llethol yn parchu'r rheolau, ond dywedodd nad oedd y neges mai "argyfwng cenedlaethol nid gwyliau cenedlaethol yw hyn" yn cael ei gydnabod gan bawb.
Wrth fynegi ei bryder y byddai rhai'n cael eu temptio i deithio i ail gartrefi neu fwthyn gwyliau dros benwythnos y Pasg, dywedodd Mr Price y dylai'r bobl sydd ddim yn parchu'r gwaharddiad wynebu dirwyon uwch o hyd at £1,000 yn y gobaith y byddai hynny'n newid eu hymddygiad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Arweinydd Cyngor Sir Gâr yn dweud bod "diffyg tryloywder" am gyflenwadau Llywodraeth Cymru.
Read MoreBBC Cymru Fyw
Croeso i'n llif byw ar ddydd Gwener y Groglith, 10 Ebrill.
Gydol y dydd dyma fydd y lle i gael y newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.... arhoswch gyda ni.
Bore da.