Hwyl fawr am y tro.wedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2020
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.
Mi fyddwn ni nôl fore Sul gyda'r diweddaraf am y straeon yn ymwneud â Covid-19 ac eraill.
Nos da.
28 o farwolaethau dydd Sadwrn gan fynd â'r cyfanswm i 534, gyda 292 achos positif arall wedi eu cofnodi
Swyddogion safonau masnach yn ymchwilio i honiadau o siopau'n cymryd mantais yn ystod y pandemig
Meddyg yn dweud mai'r syndod mwyaf iddo yw bod cleifion cymharol ifanc ac 'iach' angen triniaethau ysbyty
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.
Mi fyddwn ni nôl fore Sul gyda'r diweddaraf am y straeon yn ymwneud â Covid-19 ac eraill.
Nos da.
Tra bod nifer o fusnesau wedi gorfod cau, a phryder am ddyfodol swyddi, mae'n ymddangos bod y galw ar fanciau bwyd yng Ngheredigion wedi cynyddu yn ystod y cyfnod o dan glo.
Mae Cyngor Tref Aberteifi wedi cyfrannu £5,000 i elusen banc bwyd y dref.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Rhythwyn Evans o Silian ger Llanbedr Pont Steffan wedi cwblhau ei her o gerdded 91 gwaith o amgylch ei gartref er mwyn nodi ei benblwydd yn 91 oed, a chodi arian i'r GiG.
Ar ôl gorffen ei her dywedodd ei fod yn falch i godi arian i wasanaeth sydd wedi bod o gymorth i gynnifer o'i deulu, a'i fod yn achos teilwng iawn.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Wrth orffen y gynhadledd ddyddiol yn Downing Street dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Lleol, Robert Jenrick y bydd ymchwilad yn cael ei gynnal ar ôl i'r ffigyrau ddangos bod yna "nifer anghymesur o bobl o gymunedau du, asiaidd a lleafrifoedd ethnig yn marw o'r haint."
"Am y rheswm yna," meddai, "mae'r Prif Swyddog Meddygol yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Lloegr i geisio deall y mater yn well."
"Mae'n iawn ein bod yn gwneud gwaith ymchwil trylwyr i hyn."
Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod un o'r cynorthwywyr nyrsio, Jenelyn Carter, wedi marw ar ôl cael ei heintio gyda Covid-19.
Dywedodd Cyfarwyddwr nyrsio Ysbyty Treforus, Mark Madams: “Fe fyddai Jenelyn yn mynd y filltir ychwanegol yna i unrhyw un, ac roedd hi'n berson hyfryd, gofalgar, gyda chalon o aur."
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi teyrnged i un o'u haelodau o staff yr adran Gwyddorau Dynol ac Iechyd sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n cyfranu £95m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ac effeithiau haint Covid-19.
Daeth y cadarnhad gan yr ysgrifenydd Llywodraeth Leol, Robert Jenrick, wrth iddo gynnal cynhadledd y wasg dyddiol Llywodraeth Prydain.
Cafodd arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn Lloegr ei gyhoeddi hefyd.
Dywedodd Llywodraeth Prydain fod y £95m yn ychwanegol i'r grantiau gwerth £330bn sydd ar gael i fusnesau eisioes i ddod drwy'r pandemig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd y tanciau ocsigen yma'n cael eu cysylltu gyda'r rhwydwaith sydd wedi cael ei greu yn yr ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cwmni whisgi Penderyn ydy'r diweddaraf i droi at gynhyrchu diheintyddion i'r gwasanaeth iechyd, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i fusnesau arall-gyfeirio a darparu nwyddau i'r ysbytai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ffigyrau gan Lywodraeth San Steffan yn dangos bod dros 15,000 o bobl bellach wedi marw o ganlyniad i gael eu heintio gyda Covid-19.
Dros y 24 awr diwethaf mae 888 o bobl wedi marw yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, gan ddod a'r cyfanswm i 15,464.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Bwrdd Iechyd Powys yn cydnabod taw dim ond y bobl yn eu hardal nhw sydd wedi cael eu profi yng Nghymru sy'n cael eu cynnwys yn yr ystadegau dyddiol.
Nid ydyn nhw'n cynnwys y trigolion o Bowys sy'n cael eu profi dros y ffin yn Lloegr.
Maen nhw'n dweud eu bod yn parhau i ofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i gyd-weithio ar ryddhau'r manylion yma.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Daeth cadarnhad bod 28 yn rhagor o bobl wedi marw o achos Covid-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, gan ddod a'r cyfanswm nawr i 534.
Mae 292 achos newydd o'r haint wedi cael eu cadarnhau sydd yn dod a nifer y bobl yng Nghymru sy'n dioddef o'r haint i 6,936. Ond mae'r gwir nifer yn debygol o fod yn uwch.
Mae prinder offer amddiffynnol personol yn creu "poen meddwl dychrynllyd" i nyrsys Cymru, yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys.
Fe wnaeth yr undeb arolwg o'i aelodau yng Nghymru a chanfod bod 54% o'r rhai a gymerodd ran wedi "teimlo dan bwysau" i ofalu am glaf "heb offer amddiffyn (PPE) digonol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi "mwy na 16.2m o eitemau ychwanegol o PPE i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen".
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn defnyddio'r tair wythnos nesaf i roi cynlluniau i'r dyfodol yn eu lle.
Eu bwriad ydy:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn parhau a'u hymdrech i ddosbarthu offer, bwyd a diod i weithwyr y rheng flaen yn ysbytai a sefydliadau gofal arall ar draws y de.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wedi 36 awr ar gefn beic mae'r Cymro ac enillydd Tour de France, Geraint Thomas, wedi cyhoeddi ei fod wedi codi £330,000 i'r Gwasanaeth Iechyd.
Dros dri diwrnod roedd cyfle i seiclwyr o bob cwr o'r byd ymuno ag e ar daith rhithiol a chyfrannu arian.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl ar draws y wlad i gyfranu data i wefan sy'n cofnodi patrymau o'r haint Covid-19, fel bod bodd i wyddonwyr ddysgu mwy am sut mae'r feirws yn ymledu ac yn effeithio ar bobl