Galw ar bobl i gyfrif pryfed yn ystod pandemig coronafeirwswedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2020
Mae cadwraethwyr yn galw ar y cyhoedd i gofnodi gwybodaeth am bryfed sy'n trosglwyddo paill - gwybodaeth a allai gael ei golli yn ystod haint coronafeirws.
Mae'r cyfyngiadau presennol yn atal gwyddonwyr rhag archwilio rhai safleoedd cadwriaethol ac felly mae data hanfodol am rai rhywogaethau yn cael ei golli.
Mae grwpiau fel elusen Butterfly Conservation yn galw ar y cyhoedd i gyfrif ac i anfon lluniau o bryfed y maent yn eu gweld.
Dywedodd Andrea Rowe, swyddog cadwriaethol elusen Butterfly Conservation yng Nghymru, y gallai'r cyhoedd fod o gymorth mawr gan nad yw gwyddonwyr yn gallu cynnal arolygon.