Crynodeb

  • Pryder y gallai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal oherwydd haint coronafeirws

  • Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd 788 yn ôl ffigyrau dydd Sul

  • Llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru yn dweud bod y sector cyfan o dan fygythiad

  1. 'Cyflenwadau ar gael'wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn "hyderus" bod digon o offer PPE yn y sustem ar gyfer gweithwyr rhengflaen - a bod mwy o archebion wedi cael eu gwneud.

    Dywedodd fod y gwasanaeth iechyd yn ddibynnol ar gyflenwadau yn cyrraedd yr wythnos nesaf.

    "Pob diwrnod rydym yn mynd i'r afael â hyn, ar hyn o bryd rydym yn hyderus fod gennym ddigon i ymdopi'r wythnos nesaf," meddai ar raglen Politics Wales BBC Cymru.

    "Gawn ni fod yn glir - does yr un cyflenwad wedi dod i ben."

    prif weinidog
  2. Cyngor i arddwyr newydd cyfnod y coronafeirwswedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Cyngor Carol Williams i arddwyr tro cyntaf yn ystod gwanwyn pandemig Covid-19

    Read More
  3. Apêl gan y Gwasanaeth Ambiwlanswedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwneud apêl arall i bobl ddilyn y canllawiau ac i aros gartref ddydd Sul.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Yr heriau ychwanegol i bobl sydd ag anableddauwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae'r cyfnod yma'n gallu bod yn anoddach fyth i bobl sy'n byw ag anableddau neu anghenion arbennig.

    Read More
  5. 'Barn Duw'wedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae rhai yn honni mai barn Duw sy'n gyfrifol am argyfwng coronafeirws ond gwadu hynny'n mae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.

    Yn ystod y cyfweliad hefyd cyfle i glywed am ei ffydd yn ystod ei salwch.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Ddylai'r Gweinidog Vaughan Gething ddim colli ei swydd'wedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Ddylai Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething ddim colli ei swydd, wedi iddo regi yn ystod sesiwn ar-lein o'r Cynulliad, ym marn Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies.

    Mewn cyfweliad yn gynharach gyda Dewi Llwyd ar Radio Cymru, dywedod Mr Davies, sy'n is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Mr Gething yn gweithio'n galed ac yn cydweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Prydain er mwyn delio â'r argyfwng presennol.

    Mae Plaid Cymru wedi galw arno i gael ei ddiswyddo am ei fod wedi torri'r cod ymddygiad.

    David TC Davies yn ystod cyfweliad cynharach
    Disgrifiad o’r llun,

    David TC Davies yn ystod cyfweliad cynharach

  7. 'Angen rhoi blaenoriaeth i ailagor amgueddfeydd'wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Amgueddfeydd "yn addas" ar gyfer pellter cymdeithasol pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio.

    Read More
  8. Y darlun yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd cyfanswm o 774, gyda 8,000 o achoson coronafeirws wedi eu cadarnhau yn ôl ffigurau gafodd eu cyhoeddi ddydd Sadwrn.

    mapFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  9. Ofnau y gallai hanner cartrefi gofal gauwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Ein prif stori y bore 'ma yw y allai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal o fewn blwyddyn oherwydd haint coronafeirws oni bai bod gweithredu buan yn digwydd - dyna neges darparwyr cartrefi gofal.

    Mae Fforwm Gofal Cymru wedi dweud wrth raglen Politics Wales, BBC Cymru bod costau uwch a refeniw is yn golygu bod nifer o gartrefi yn gorfod cael benthyciadau dros dro a bod nifer yn ystyried cau wrth i effeithiau'r haint barhau.

    Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn nodi bod 643 cartref gofal yng Nghymru i bobl dros 65 oed.

    Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhorthdal o £40m i ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion - arian sy'n cael ei ddosbarthu gan yr awdurdodau lleol ond mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud bod angen i'r arian yna gael ei ddefnyddio i atal cartrefi rhag cau yn y dyfodol agos.

    DynesFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae'n fore Sul, 16 Ebrill, a dyma'n llif byw fydd yn dod â'r newyddion diweddaraf am y pandemig coronfeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Bore da i chi!