'Nid yw'r argyfwng drosodd'wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020
Senedd Cymru
Yn nghyfarfod rhithwir llawn o'r Senedd, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn rhybuddio nad yw argyfwng "coronafeirws drosodd er bod arwyddion bod pethau yn gwella".
Dywed bod nifer dyddiol o'r achosion sydd wedi eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn gyson is na 200, tra bod y nifer sydd yn yr ysbyty gyda'r haint wedi disgyn i ychydig dros 900 ar y 5ed o Fai.
Ychwanegodd bod llai na 70 o bobl angen gofal dwys - yng nghanol Ebrill roedd y nifer yn 100.
"Mae hyn yn dangos," meddai, "bod popeth ry'n yn ei wneud fel cymuned yn ein helpu i basio heibio brig achosion y feirws.
"Ond yr wythnos hon mae nifer y marwolaethau yng Nghymru wedi croesi 1,000.
"Mae'r garreg filltir dywyll hon yn tanlinellu bod angen gofal mawr wrth i ni nesu at ddiwedd yr ail gyfnod o adolygu yr wythnos hon," ychwanegodd.