Crynodeb

  • Cyhoeddi amserlen 'goleuadau traffig' er mwyn i Gymru adael y cyfnod cloi

  • Dim dyddiad i ailagor ysgolion Cymru, medd y Gweinidog Addysg

  • 1,173 wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru - naw yn rhagor wedi'u cofnodi heddiw

  • Coronafeirws yn fygythiad difrifol i brifysgolion Cymru

  • Pryder am ailagor llysoedd barn yng Nghymru

  1. Rhai plant yn yr ysgol cyn y gwyliau haf?wedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    ITV

    Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth ITV y byddai'n hoffi gweld plant blwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd a phlant sydd yn wynebu arholiadau flwyddyn nesaf yn ôl yn yr ysgol, dolen allanol cyn dechrau'r gwyliau haf.

    Gwnaeth ei sylwadau ar raglen Good Morning Britain bore ma.

    Ar hyn o bryd dim ond plant sydd â rhieni yn weithwyr allweddol neu yn fregus sydd yn mynd i'r ysgol.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Dyn yn teithio o Loegr i nol beic dŵrwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Cafodd dyn o Wolverhampton ei arestio bore ma am deithio ar yr A496 i'r Bermo i nol ei feic dŵr.

    Fe wnaeth yr heddlu ei stopio ac fe wnaeth fethu prawf cyffuriau.

    Mae nawr yn y ddalfa yng Nghaernarfon.

    Arhoswch adre!

  3. Neges Ewyllys Da yr Urddwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Ddydd Llun bydd Neges flynyddol Ewyllys Da'r Urdd yn cael ei chyhoeddi. Bydd y neges yn adlewyrchu'r ffaith bod ein byd wedi newid ers y coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Covid-19:Un o bob pedwar marwolaeth mewn cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Roedd mwy nag un ym mhob pedwar o farwolaethau ddigwyddodd mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud â Covid-19.

    Mae'r ffigyrau hyn ar gyfer y cyfnod rhwng 2 Mawrth a 1 Mai.

    Bu 45,899 o farwolaethau pobl oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn y cyfnod yma.

    Roedd 27% o'r marwolaethau yn rhai lle'r oedd y feirws yn cael ei grybwyll ar y tystysgrif marwolaeth.

    Dementia ac Alzheimer oedd y ddau brif afiechyd mwyaf cyffredin ymysg y rhai ble roedd Covid-19 yn ffactor yn y farwolaeth.

    GraffFfynhonnell y llun, Swyddfa Ystadegau Gwladol
  5. 'Sbel cyn i ysgolion ddychwelyd i sut oedden nhw'wedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Cwnsler cyffredinol Cymru'n dweud y bydd mwy o blant yn dychwelyd i'r ysgol "pan fydd hynny'n saff".

    Read More
  6. Goleuo Portmeirion i ddiolchwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Neithiwr fe gafodd pentref Portmeirion ei oleuo'n arbennig i ddiolch i weithwyr iechyd a gofalwyr am eu gwaith yn y cyfnod coronafeirws.

    Dyma lun trawiadol o'r pentref o'r awyr...

    portmeirionFfynhonnell y llun, Portmeirion
  7. Pryder am ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    golwg360

    Mae pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru yn pryderu y bydd ymwelwyr dros y ffin yn dod i'r ardal medd cynghorydd lleol wrth Golwg360.

    Yn ôl Elwyn Vaughan, Cynghorydd Cyngor Powys, mae'r tywydd braf yn golygu bod trigolion yn poeni. , dolen allanol

    Mae'n dweud bod yna bobl wedi bod yn dod i lefydd fel Pennal a Llanbrynmair i fynd i'w tai haf ers i'r feirws ddechrau lledu ym Mhrydain.

  8. Torri swyddi JCBwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae cwmni JCB wedi cyhoeddi bod hyd at 950 o swyddi yn y fantol wedi i'r galw am y peiriannau haneru o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.

    Mae'r cwmni wedi ysgrifennu at y staff yn eu 10 safle - gan gynnwys un yn Wrecsam - i ddweud y bydd cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod ar 950 o swyddi yn dechrau ddydd Llun.

    Llinell gynhyrchuFfynhonnell y llun, JCB
  9. Pryder y gall gwisgo mygydau 'ynysu' pobl fyddarwedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Rhybudd bydd rhai sy'n fyddar yn cael anawsterau cyfathrebu os bydd mwy o bobl yn gwisgo mygydau.

    Read More
  10. Taro'r post i'r pared glywed?wedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi apelio ar bobl o Lannau Mersi i beidio teithio i Gymru oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

    Fe wnaeth hynny drwy siarad gyda'r Liverpool Echo...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Bachgen bach yn gwneud i bobl wenuwedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    BBC Wales News

    Mae bachgen bach tair oed wedi bod yn helpu yn ystod yr argyfwng gan fynd â bwyd i'w gymdogion mewn tegan lori.

    Penderfynodd Theo ei fod eisiau gwneud rhywbeth er mwyn gwneud i bobl wenu meddai ei fam.

    "Roedd y chwerthin a'r gwenu gan y trigolion yn syfrdanol!" meddai Fran Jenkins o Lanelli.

    I weld y fideo cliciwch yma.

  12. Bygythiad mawr coronafeirws i brifysgolion Cymruwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Adroddiad yn darganfod bod prifysgolion Cymru o dan fygythiad difrifol oherwydd argyfwng Covid-19.

    Read More
  13. Cyhoeddiad pwysig amser ciniowedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Angen paratoi' cyn agor ysgolionwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles AS wedi dweud bod "angen cyfnod o baratoi ar gyfer ysgolion" cyn y bydd modd ei hailagor.

    Wrth siarad ar y Post Cyntaf, fe ddwedodd Mr Miles y byddai'r llywodraeth yn "cynyddu nifer y plant sy'n mynd i'n hysgolion ni pan fydd hynny'n saff i'w wneud".

    Yn ôl Mr Miles mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams "ar fîn cyhoeddi dogfen sy'n esbonio i bobol beth yw'r pethau sydd angen eu penderfynu" a bod y ddogfen honno yn sôn am "gydweithio gyda athrawon a rhieni a chynghorau lleol".

  15. Gwersi heddiw i chi...wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Roedden ni ar fin peidio â gallu ymdopi'wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae ymgynghorydd gofal dwys yn ysbyty mwyaf Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod o fewn wythnos i redeg allan o adnoddau i drin cleifion coronafeirws, pan oedd y gwasanaeth ar ei brysuraf.

    Yn ôl Dr Chris Hingston, y rheswm na thorrodd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ei gapasiti gofal dwys oedd parodrwydd y cyhoedd i wrando ar y cyngor i aros adref.

    Fe gafodd BBC Cymru gyfle prin i dreulio amser yn uned gofal dwys yr ysbyty, sydd bellach yn paratoi ar gyfer ail don o achosion.

    icu
  17. Ceidwadwyr yn cefnogi cynyddu cosbauwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi dweud wrth y Post Cyntaf ei fod yn cefnogi cynyddu cosbau i bobl sy'n torri rheolau coronafeirws drwy deithio i ail gartref.

    Dywedodd Paul Davies AS bod yr heddlu wedi bod yn gwneud "gwaith gwych" yn troi pobl i ffwrdd, ond mai nawr yw'r amser i gynyddu'r dirwyon.

    Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru wedi bod yn galw am hyn yn barod.

  18. Drakeford yn son am y ffigwr 'R'wedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi bod ar Sky News y bore 'ma yn egluro mwy am ei gyhoeddiad yn ddiweddarach am sut i godi'r cyfyngiadau yng Nghymru.

    Dywedodd bod cadw llygad ar y ffigwr 'R' - sef faint o bobl sy'n cael eu heintio gan un person sydd gyda Covid-19 - yn allweddol.

    Y ffigwr R yng Nghymru ar y funud yw 0.8 sy'n golygu y gallai 800 o bobl farw dros y tri mis nesaf yma, ond os fydd y ffigwr yn codi i 1.1 gallai 7,200 farw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Dim taith haf i Gymruwedi ei gyhoeddi 08:26 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Bydd yr heddlu yn 'weledol' ar ein ffyrddwedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes wedi bod yn siarad ar Radio Wales y bore 'ma am waith yr heddlu dros y dyddiau diwethaf ac wrth edrych ymlaen at y penwythnos.

    Dywedodd: "Ry'n ni wedi gweld gwahaniaeth yn y ddeddfwriaeth rhwng Cymru a Lloegr.

    "Ry'n ni wedi gweld cynnydd o tua 15% yn y traffig ar ein ffyrdd, ac mae llawer o hynny yn bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith... er nad ydyn wedi gweld llwyth o bobl yn dod i mewn i'r ardal mae yna esiamplau o bobl yn teithio draw i'r gogledd.

    "Ein nod yw sicrhau bod y neges yn glir iawn, iawn... fe fyddwn ni ac yn wir y pedwar llu yng Nghymru yn weledol iawn ar y ffyrdd dros y penwythnos o gwmpas ein safleoedd eiconig ac allweddol i wneud yn siwr bod y neges wedi'i deall."