Gwrthod 'rhuthro' i benderfynu ar orchuddio wynebauwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2020
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd na fydd Llywodraeth Cymru yn "rhuthro i wneud penderfyniad yn syth" ar orfodi pob i orchuddio eu hwynebau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd yn rhaid gwneud hynny yn Lloegr o 15 Mehefin, ond safbwynt Llywodraeth Cymru yw ei fod yn "ddewis personol".
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn cydnabod mai "ychydig ddyddiau" sydd gan Lywodraeth Cymru i drafod y mater cyn y bydd angen penderfyniad.
"Byddwn yn parhau i drafod dros y penwythnos a gwneud datganiad pendant ddechrau'r wythnos nesaf," meddai.
Ychwanegodd bod angen ystyried effaith gorchuddio wynebau ar grwpiau gwahanol, fel pobl ddall, pobl ag asthma, a phobl ar deithiau hir sydd angen bwyta ac yfed ar y daith.