Crynodeb

  • Arweinydd Cyngor Ceredigion yn awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol

  • BBC Cymru yn deall fod pob un digwyddiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais i ohirio tan 2021

  • Cwmnïau'n "nerfus" ynglŷn â phrofi gweithwyr am coronafeirws, yn ôl cyfarwyddwr CBI Cymru

  1. Dim marwolaethau Covid mewn pedair sirwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Ni chafodd unrhyw farwolaethau corofafeirws eu cofnodi ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion a Sir Benfro, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.

    Cafodd y rhan fwyaf o farwoalethau eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sef 30. Bu farw 27 o'r 30 yn yr ysbyty.

    Yn ôl y Swyddfa Ystadegau roedd yna 100 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru yn yr wythnos yn diweddu 5 Mehefin, sef 14.3% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofnodi.

    Bellach mae ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cofnodi 278 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19.

    Mae ardal Caerdydd wedi cofnodi 357 o farwolaethau.

  2. Cofiwch am y gynhadledd ddyddiol am 12:30wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Annog trefnwyr digwyddiadau i ail-drefnu'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Cyngor Gwynedd

    Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod nhw'n annog trefnwyr digwyddiadau yn y sir i "ail-drefnu digwyddiadau sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer y misoedd nesaf".

    Roedd BBC Cymru wedi cael deall bod pob un digwyddiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais i ohirio tan 2021.

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Yn sgil y cyfnod digynsail presennol oherwydd pandemig Covid-19, mae Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Gwynedd wedi llythyrru holl drefnwyr digwyddiadau yn y sir.

    “Mae’r neges yn ei gwneud yn glir fod Gwynedd yn croesawu a chefnogi digwyddiadau a gynhelir yn y sir, ond dan yr amgylchiadau presennol yn annog trefnwyr i ail-drefnu digwyddiadau sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer y misoedd nesaf er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch mynychwyr a chymunedau lleol yn ogystal ac i osgoi gwariant gan drefnwyr digwyddiadau mewn cyfnod mor ansicr.

    “Mae hyn ar sail y dystiolaeth feddygol bresennol a'r tebygolwydd y bydd cyfyngiadau'n parhau am gyfnod estynedig - yn enwedig o ran cynnal digwyddiadau torfol.”

  4. Nifer marwolaethau wythnosol yn gostwngwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Mae nifer y marwolaethau wythnosol sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi gostwng i'r nifer isaf yng Nghymru ers diwedd Mawrth, yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau.

    Ond Cymru sy'n parhau â'r cyfran uchaf o'r hyn sy'n cael ei alw'n "farwolaethau ychwanegol" ar gyfer yr wythnos benodol dan sylw.

    Daw hyn wrth gymharu niferoedd pob marwolaeth, er mwy gweld a ydynt yn fwy na'r hyn y byddwn yn ei ddisgwyl ar gyfer adeg yma'r flwyddyn.

    Roedd yna 90 o yn fwy o farwolaethau na'r cyfartaledd dros bum mlynedd - cynnydd o 14.8%.

    Bellach mae yna 2,317 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig gyda coronafeirws. Mae'r rhain yn farwolaethau sydd wedi eu cofnodi erbyn 13 Mehefin.

    prawf
  5. Covid-19: Cwmnïau'n 'nerfus' am brofi gweithwyrwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Mae cwmnïau'n "nerfus" ynglŷn â phrofi gweithwyr am coronafeirws, yn ôl cyfarwyddwr CBI Cymru.

    Dywedodd Ian Price fod profion "safonol" ar gael y gall cyflogwyr eu defnyddio.

    Dywed rhai busnesau y byddan nhw'n elwa o brofi gweithwyr i weld a oedden nhw wedi cael coronafeirws o'r blaen, ac y byddai hyn yn rhoi hyder i fwy ddychwelyd i'r gwaith.

    Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut mae profion gwrthgyrff yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.

    Hayley PellsFfynhonnell y llun, Will Amlot
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Hayley Pells, perchennog garej ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y byddai profion gwrthgyrff yn helpu ei staff ddychwelyd i'r gwaith

  6. Dros 8 miliwn wedi eu heintiowedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Mae nifer y bobl sydd wedi cael eu heintio gan Covid-19 ledled y byd wedi cyrraedd 8 miliwn.

    Yn ôl ffigyrau Prifysgol Johns Hopkins mae yna dros 436,000 o bobl wedi marw ar ôl cael eu heintio. Y wlad gyda'r niferoedd uchaf yw'r Unol Daleithiau.

    Yno mae dros 2.1 miliwn wedi eu heintio, gyda dros 116,000 o farwolaethau.

  7. Paratoi ar gyfer ailagor gwasanaeth llyfrgelloeddwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Cyngor Sir Conwy

    Dywed Cyngor Conwy eu bod yn cymryd y camau cyntaf yn y broses o ailagor eu gwasanaeth llyfrgelloedd.

    Fe fydd 'blychau gollwng' yn cael eu gosod mewn nifer o leoliadau er mwyn i bobl ddychwelyd eu llyfrau.

    Ni fydd yna ddirwyno am lyfrau hwyr.

    Dywed y cyngor mai'r camau nesaf fydd darparu gwasanaeth ffonio a chasglu ym mhob un o’n llyfrgelloedd.

    "Er mwyn paratoi ar gyfer hynny, dychwelwch eich llyfrau fel ein bod yn barod i fynd," meddai llefarydd.

    llyfrgellFfynhonnell y llun, PA

    Bydd y blychau gollwng y tu allan i bob llyfrgell am 10am ddydd Iau, ac hefyd:

    • 18 ac 19 Mehefin: 10:00-12:00 yn llyfrgelloedd Bae Penrhyn, Cerrigydrudion, Bae Cinmel, Llanfairfechan a Phenmaenmawr
    • 18, 19 a 20 Mehefin: 10:00-12:00 yn llyfrgelloedd Llandudno, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Abergele, Llanrwst a Bae Colwyn.
  8. Profi twristiaid am coronafeirws i 'dawelu ofnau'?wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Disgrifiad,

    Dywed Eleri Davies, perchennog maes carafanau, ei bod yn "bwysig i ni gael rhywfaint o dymor"

    Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol.

    Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y byddai cynllun o'r fath yn "tawelu ofnau llawer iawn o bobl".

    Mae Ceredigion wedi ennill clod am y modd y mae wedi delio â coronaferiws, gyda llai na 50 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 trwy'r sir.

    Ond ychwanegodd Ms ap Gwynn nad yw'n credu bod cymunedau'r sir yn barod i groesawu ymwelwyr eto.

  9. Parc Cenedlaethol Eryri: 'Cais i ohirio digwyddiadau tan 2021'wedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Nia Cerys
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae dau o'r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru wedi dechrau llacio rhai o'u cyfyngiadau coronafeirws - ond mae Eryri yn oedi, gyda safleoedd amlwg fel Yr Wyddfa, Tryfan, Cwm Idwal a Chader Idris yn dal ynghau yn llwyr.

    Wrth i Awdurdod y Parc edrych ar ffyrdd i symud ymlaen, mae 'na alw am gymryd y cyfle i ail-ystyried y cydbwysedd rhwng gofynion y diwydiant ymwelwyr a gwarchod Eryri a'i phobl.

    Yn y cyfamser, mae BBC Cymru yn deall fod pob un digwyddiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais i ohirio tan 2021.

    Nia Cerys sy'n edrych ar sut mae symud Parc Cenedlaethol Eryri yn bwriadu symud allan o'r cyfnod clo.

    eryri ar gau
  10. Dyma'r gwersi dyddiol heddiw gan Bitesizewedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    BBC Bitesize

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'Dirwasgiad ar y ffordd ond y sioc heb daro eto'wedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth ymateb i ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd yr Athro Dylan Jones Evans o Brifysgol De Cymru nad oedd "sioc" economaidd y pandemig "wedi hitio'r ystadegau eto".

    "Fis nesa', wrth edrych yn ôl ar Ebrill a Mai, dyna pryd fydd y dirwasgiad yn dechrau dangos a mwy o bobl yn colli swyddi," meddai wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

    "Mae economi Cymru yn llawer mwy dibynnol o'i gymharu â Lloegr ar sectorau sydd wedi cael eu taro yn galetach nag unrhyw sector arall, fel twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.

    "Mae'r busnesau yn y sectorau hyn wedi bod yn galw am ddangos llwybr clir i osgoi dirwasgiad dwfn yn y sectorau hyn. Mae'n rhaid cael amser i baratoi i ailagor busnesau yn ddiogel."

    Dywed yr Athro Dylan Jones Evans ei fod am weld llywodraethau Cymru a'r DU yn "canolbwyntio ar y sectorau sydd wedi eu taro waethaf".

    "Mae 95% o fusnesau cyllidol a phroffesiynol yn agored, dim ond 25% o fusnesau yn y sector dwristiaeth sydd wedi medru parhau," meddai. "Ac yn ail, rydan ni'n gwybod bod yna ddirwasgiad ar y ffordd a'r math o sectorau a phobl ifanc yn benodol sy'n gweithio yn y sectorau hyn, felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n colli'r talent yna a bod yna help ar gael."

  12. Nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dybluwedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau allan o waith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un amser y llynedd.

    Roedd 'na bron i 120,000 o hawlwyr (118,600) yng Nghymru ganol mis Mai, sy'n cyfateb i 6.2% o bobl 16-64 oed.

    Yr awdurdod lleol sydd â'r gyfradd hawlwyr uchaf yw Casnewydd ar 7.5% ac yna Merthyr Tudful yn ail agos. Mae'r ffigyrau diweithdra diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos cwymp bach yng Nghymru rhwng mis Chwefror ac Ebrill.

    Roedd 47,000 o bobl ddi-waith yng Nghymru rhwng mis Chwefror ac Ebrill, hynny yw 4,000 yn llai na mis Tachwedd i fis Ionawr a 22,000 yn llai na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Roedd y gyfradd ddiweithdra honno yng Nghymru o 3% yn cymharu’r 3.9% ar gyfer y DU gyfan.

    Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cwymp mewn cyflogaeth yng Nghymru o 15,000, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

  13. Teyrngedau i nyrs o'r gogledd fu farw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Mae nyrs "uchel ei barch a phoblogaidd" mewn ysbyty yng ngogledd Cymru wedi marw â coronafeirws.

    Roedd Rizal Manalo, oedd yn wreiddiol o Ynysoedd y Philippines, yn gweithio ar ward pump yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

    Roedd y gŵr 51 mlwydd oed, oedd yn dad i ddau i blant, wedi bod yn derbyn triniaeth yn uned gofal dwys yr ysbyty ers rhai wythnosau.

    Mewn datganiad fe ddywedodd yr ysbyty bod Mr Manalo, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Zaldy, yn "uchel iawn ei barch" ymysg cleifion a chydweithwyr.

    Roedd Rizal 'Zaldy' Manalo wedi gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn Ysbyty Abergle ers dod i Gymru yn 2001Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Rizal 'Zaldy' Manalo wedi gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn Ysbyty Abergle ers dod i Gymru yn 2001

  14. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2020

    Diolch am ymuno â ni bore 'ma. Arhoswch efo ni i gael y newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt drwy gydol y dydd.

    Ymysg pethau eraill, bydd cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru am 12:30 ac fe gawn ni'r ffigyrau diweddaraf am Covid-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 14:00.