583 o achosion positif mewn ffatrioedd prosesu bwydwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mehefin 2020
Llywodraeth Cymru
Dywed gweinidog iechyd Cymru nad oes yna arwydd fod Covid-19 yn cael ei drosglwyddo yn y cymunedau hynny ger ffatrïoedd prosesu bwyd lle bu achosion o'r haint yn ddiweddar.
Yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd Vaughan Gething fod 216 bellach wedi profi'n bositif ar gyfer safle ffatri 2 Sisters yn Llangefni - mae'r safle yn parhau ar gau.
"Mae 237 wedi profi'n bositif yn Rowan Foods yn Wrecsam gyda mwy na 1,100 wedi cael eu profi," meddai.
"Mae 130 o achosion coronafeirws wedi eu cadarnhau yn Kepak, Merthyr Tudful, ers Ebrill - gyda 101 achos wedi eu cadarnhau o'r 810 gafodd eu profi ddydd Sadwrn."
Dywedodd y bydd pobl yn poeni ond fod "lefel aruthrol o brofion wedi eu gwneud fel rhan o'r gwaith o ymchwilio ac o atal ymlediad".
"Rydym yn monitro ar gyfer unrhyw arwydd o ymlediad yn y gymuned - dyw'r cynnydd yn y niferoedd ddim y rhoi'r arwydd fod yna ymlediad y tu hwnt i'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn y safleoedd," meddai.