Crynodeb

  • Swyddi'r Urdd dan fygythiad

  • Gwersi a phrofion gyrru i ailddechrau

  • Ceredigion: 'Angen edrych ar ffigyrau marwolaethau'

  • Cynllun £9m i 'helpu trefi Cymru'

  1. 'O'dd yr ifancaf yn 42 a'r hynaf yn 101'wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi galw am "edrych yn fanylach" ar y rheswm dros y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y sir yn ystod misoedd cyntaf eleni.

    Mae'r ymgymerwr Maldwyn Lewis hefyd yn dweud bod angen edrych eto ar achos y cynnydd mewn marwolaethau yn y sir ym misoedd cyntaf y flwyddyn.

    Disgrifiad,

    Mae'r ymgymerwr Maldwyn Lewis yn dweud bod angen edrych ar y cynnydd mewn marwolaethau

  2. Oriel: Enillwyr Clic Clic i'r Coronawedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae'r her tynnu lluniau ar Facebook wedi dal dychmyg nifer ohonoch chi

    Read More
  3. 'Posibiliadau' llacio polisi 'swigod cymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Dywed y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw polisi 'swigod cymdeithasol', dan “adolygiad”, ond ar yr amod bod coronafirws yn cael ei gadw dan reolaeth dros y tair wythnos nesaf,

    Dywedodd Mark Drakeford y gallai fod “posibiliadau newydd” i lacio’r polisi ymhellach tu hwnt i hynny.

    Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, i Mr Drakeford a fyddai Llywodraeth Cymru yn llacio'r mesur ymhellach.

    Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae hawl i breswylwyr un cartref gwrdd y tu mewn gyda chartref arall i ffurfio cartref estynedig..

  4. Cyngor ynglŷn â mygydau yn cael ei adolyguwedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Fe alla gwisgo mwgwd gael ei wneud yn orfodol yng Nghymru pe bai angen cyfnod clo arall, meddai Mark Drakeford.

    Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog dywedodd Mr Drakeford ei fod hefyd yn ystyried y defnydd o fygydau mewn archfarchnadoedd sy'n brysur oherwydd dyfodiad ymwelwyr.

    "Rwyf wedi gofyn am gyngor pellach er enghraifft ar gyfer archfarchnadoedd mewn ardaloedd twristaidd lle mae'r boblogaeth yn cynyddu."

    Ychwanegodd y byddai'r cyngor ynglŷn â mygydau hefyd yn cael ei adolygu pe bai cynnydd yn lefel yr haint.

    mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Cadarnhau taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Trefnwyr taith tîm rygbi'r Llewod i Dde Affrica'r flwyddyn nesaf yn dweud y bydd y daith yn digwydd.

    Read More
  6. Dim dyddiad i ailagor canolfannau chwarae dan dowedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Yn ystod sesiwn holi yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford nad yw wedi “nodi” adeg pan fydd canolfannau chwarae dan do yn gallu ailagor yng Nghymru.

    Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd y byddai’r mater yn rhan o’r trafodaethau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cael dros y tair wythnos nesaf.

    “Cyn gynted ag y gallwn ailagor y canolfannau chwarae hynny yn ddiogel y tu mewn yna byddwn yn gwneud hynny, wrth gwrs, gall ardaloedd chwarae awyr agored ailagor o 20 Gorffennaf” ychwanegodd.

    drakeford
  7. Swyddi yr Urdd dan fygythiadwedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Urdd Gobaith Cymru

    Dywed yr Urdd fod hyd at 80 o swyddi dan fygythiad wrth i'r mudiad weld y "cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes" o ganlyniad i sefyllfa Covid19.

    Mae'r sefydliad yn wynebu gostyngiad incwm o £14m dros y ddwy flynedd nesaf - gan olygu "toriadau yn ei wasanaethau a cholledion swyddi."

    Yn ogystal â'r 80 o swyddi mae'r sefyllfa yn effeithio 70 o weithwyr achlysurol allan o gyfanswm o weithlu o 320.

    UrddFfynhonnell y llun, b

    Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr y mudiad: “Mae effaith y pandemig wedi bod yn ddinistriol i bob un adran o’r Urdd.

    "Nid oes dewis ond ail-edrych ar wariant y mudiad gan barhau i gynnig rhai gwasanaethau o fewn canllawiau diogelwch llym gan gofio’r brif amcan o ddiogelu dyfodol y mudiad.

    "Mae’r newyddion yma yn peri gofid a phryder i’n gweithlu a’n consyrn pennaf yn yr wythnosau nesaf fydd eu lles hwy.

    "Bydd trafodaethau yn mynd yn eu blaenau ymhob adran i weld sut bydd y toriadau yn effeithio ar staff ac ar ddyfodol gwasanaethau’r adrannau hynny."

    Bu'n rhaid i'r Urdd ohirio Eisteddfod yn sir Ddinbych eleni ac mae tri o wersylloedd y mudiad wedi bod ar gau ers 20 Mawrth.

  8. 378,400 ar gynllun ffyrlowedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU roedd cyfanswm o 378,400 o weithwyr ar gynllun ffyrlo yng Nghymru hyd 30 Mehefin - y mwyafrif o'r rhain yn y sector manwerthu, lletygarwch, bwyd a chynhyrchu.

    Fe wnaeth 108,000 o bobl hunan gyflogedig dderbyn cymorth cronfa arbennig gafodd ei sefydlu ar 13 Mai, gan dderbyn cyfanswm o £289m.

    Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod Llywodraeth y DU yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi pobl ac economi Cymru yn ystod yr argyfwng, yn enwedig wrth i ni addasu wrth i wasanaethau ailagor."

    poblFfynhonnell y llun, a
  9. Pryder am famau newydd yng nghyfnod Covid-19wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mudiad yn bryderus am iechyd meddwl rhieni newydd sydd yn teimlo "wedi'u hynysu" oherwydd Covid-19.

    Read More
  10. Ymwelwyr arbennig ag Ysgol Llanhariwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Milwyr yn helpu mamau beichiogwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae dau filwr wedi cael eu canmol ar ôl helpu dwy fam feichiog i roi genedigaeth yn y de ddwyrain.

    Roedd sarjant Wayne Delahunty a'r is-gapten Dan Ells wedi cael galwad i helpu'r gwasanaeth ambiwlans lleol.

    Mae'r ddau wedi eu lleoli ym marics Beachley, Cas-gwent, ac ymhlith 60 o aelodau’r fyddin yng Nghymru sydd wedi derbyn hyfforddiant er mwyn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod y pandemig.

  12. 40% o denantiaid y sector preifat 'mewn dyled rhent'wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Elusen yn rhybuddio y gallai'r dyledion arwain at bobl yn cael eu gorfodi o'u cartrefi ddiwedd Awst.

    Read More
  13. Gwersi heddiw yn yr ysgol ar-lein....wedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Cyhoeddi cynllun £9m i 'helpu trefi Cymru'wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nod y buddsoddiad yw helpu busnesau i addasu er mwyn masnachu dan gyfyngiadau coronafeirws.

    Read More
  15. Marwolaethau Ceredigion: 'Angen edrych yn fanylach'wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw am "edrych yn fanylach" ar y rheswm dros y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y sir yn ystod misoedd cyntaf eleni.

    Mae gwaith ymchwil gan Newyddion S4C yn dangos fod 342 o farwolaethau wedi cael eu cofrestru yn y sir yn ystod 17 wythnos cyntaf eleni.

    Mae'r ffigwr yna 22% yn uwch na chyfartaledd marwolaethau Ceredigion dros yr un cyfnod yn y pum mlynedd diwethaf.

    Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae data marwolaethau yn amrywio flwyddyn wrth flwyddyn, ac fe all yr amrywiaeth fod yn fwy pan yn delio â data ar gyfer sir unigol."

    63 unigolyn yn unig sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws yn y sir hyd yma medd Iechyd Cyhoeddus CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    63 unigolyn yn unig sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws yn y sir hyd yma medd Iechyd Cyhoeddus Cymru

  16. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Croeso i'n llif byw dyddiol ar fore Mercher, 15 Gorffennaf.

    Arhoswch gyda ni i gael y diweddaraf am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.