Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2020
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.
Diolch am ddilyn, mwynhewch eich penwythnosau ac arhoswch yn ddiogel.
Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd am 12:15
Plant sydd mewn ardaloedd clo yn cael croesi ffiniau'r sir er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.
Diolch am ddilyn, mwynhewch eich penwythnosau ac arhoswch yn ddiogel.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 766 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yn y 24 awr ddiwethaf.
Dywedodd y corff bod dwy farwolaeth wedi'u cofnodi hefyd.
O'r achosion newydd, roedd 143 yng Nghaerdydd, 71 yn Rhondda Cynon Taf, 64 yn Abertawe a 43 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd 12,539 o brofion Covid-19 yng Nghymru eu prosesu yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae cyfanswm o 29,028 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru bellach, a 1,646 o'r rheiny wedi marw.
Mae rhedeg clybiau brecwast "gam yn rhy bell" i nifer o ysgolion wrth iddyn nhw geisio ymdopi gydag effeithiau Covid-19, yn ôl un undeb.
Mae NAHT Cymru yn mynnu bod angen gohirio'r ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu brecwastau am ddim i blant cynradd yn ystod y pandemig.
Er bod y clybiau ar agor mewn nifer o ysgolion, dydy'r ddarpariaeth ddim wedi ail-ddechrau mewn rhai ardaloedd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru dylai clybiau brecwast weithredu fel arfer oni bai ei fod yn afresymol i wneud hynny.
Mae cynghorau Conwy a Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod eu clybiau i gyd ar agor, tra does 'na ddim un wedi ail-ddechrau eto yn awdurdod sir Caerffili.
Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn barod i atal pobl o ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol yng ngweddill y DU rhag teithio i Gymru.
Ond dywedodd Mark Drakeford y bydd y disgwyl i weld pa gyfyngiadau ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr ddydd Llun cyn penderfynu sut i weithredu.
"Yn y cyfamser ry'n ni wedi bod yn paratoi pa weithredoedd allwn ni eu cymryd," meddai wrth y gynhadledd.
Dywedodd nad pobl yn croesi'r ffin yw'r broblem, ond rheiny sy'n mynd o ardaloedd ble mae nifer o achosion i ardal ble nad oes llawer o achosion "boed rheiny yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru".
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd i'r wasg fod rhoi ardaloedd hynod o leol - hyper-local - fel sydd wedi digwydd yn Llanelli "yn beth rhesymol i'w wneud, a bod rhywfaint o lwyddiant wedi dilyn o ganlyniad.
"Os oes modd i ni gwtogi cyfyngiadau a thynhau'r ardaloedd lle mae angen y cyfyngiadau hynny, yna mae hynny'n rhan o ystod o gamau yr ydym yn ei ystyried yn Llywodraeth Cymru ac yn wir roeddem yn trafod hyn gydag arweinwyr awdurdodau lleol ddoe ddiwethaf."
Yn Llanelli, mae nifer yr achosion positif yn yr 'ardal diogelu iechyd' yn dal i fod deirgwaith yn uwch na rhannau eraill o'r sir, ond mae'n ymddangos bod y camau y mae preswylwyr yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, meddai Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mewn datganiad heddiw, dywedodd y cyngor: "Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau lleol newydd bythefnos yn ôl, cyfradd yr haint yn yr 'ardal diogelu iechyd' ddynodedig oedd 152 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
"Er bod cyfradd yr achosion wedi cynyddu a gostwng yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfradd yr haint bellach yn 99.9 fesul 100,000 o bobl.
"Y gyfradd ar gyfer gweddill y sir, ac eithrio ardal diogelu iechyd Llanelli, yw 33.9 fesul 100,000."
Ceidwadwyr Cymreig
Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru, Paul Davies, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fwy tryloyw a chyhoeddi'r data sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar gyfyngiadau lleol.
Yn ôl Mr Davies dylai gweinidogion gyhoeddi'r wybodaeth ar lefel mwy cymunedol, yn hytrach nag ar gyfer siroedd cyfan.
"Rwy'n meddwl ein bod hefyd angen data ar yr hyn maen nhw'n amau o fod wedi achosi'r lledaeniad," meddai.
"Mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu bod y data ar gael iddyn nhw, felly mae angen iddyn nhw gyhoeddi hynny oherwydd mae'n rhaid i bobl fod yn hyderus bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn gwneud penderfyniadau priodol a chymesur wrth frwydro'n erbyn y feirws."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford y byddai llawer o bobl yn yr UDA "wrth eu bodd" petai ymateb eu gwlad i Covid-19 yn debyg i ymateb Cymru.
Roedd Mr Drakeford yn ymateb i neges Twitter gafodd ei ail-drydar gan Arlywydd yr UDA, Donald Trump, oedd yn trafod cyfres o gyfnodau clo yng Nghymru dros y gaeaf.
Roedd newyddiadurwr o Fox News, Laura Ingraham wedi trydar neges yn dweud mai dyma fyddai dyfodol America "o dan Biden", gyda dolen yn y neges at erthygl oedd yn cyfeirio at sylw Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.
Pan ofynnwyd i Mr Drakeford am ymateb yr Arlywydd Trump, dywedodd fod "llawer iawn, iawn o bobl yn yr Unol Daleithiau fyddai wrth eu bodd petai ganddyn nhw'r un lefel o coronafeirws ag sydd gennym yma, petai ganddyn nhw y math o wasanaeth iechyd sydd ganddom yma draw yno, a petai ganddyn nhw y math o lywodraeth sydd yn cynnal busnes ar ran ei phoblogaeth mewn dull trefnus a gofalus yn y dull yr ydym yn ei wneud ar ran poblogaeth Cymru."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd bod y clystyrau o achosion mewn tri o ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gysylltiedig â'r lefelau uchel o'r feirws yn y cymunedau hynny.
Mae 24 o farwolaethau wedi deillio o'r clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant hyd yma, ac un farwolaeth yr un o glystyrau yn ysbytai'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful a Thywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.
"Mae'r rhan yna o Gymru wedi gweld mwy o coronafeirws a chynnydd cynt mewn achosion nag unrhyw le arall," meddai Mark Drakeford.
"Mae 'na ychydig o obaith gan fod y niferoedd yn y gymuned wedi dechrau gostwng, yn enwedig yn ardal Rhondda Cynon Taf."
Llywodraeth Cymru
Bydd tafarndai yn cael eu cau yng Nghymru os ydyn nhw'n cael eu cydnabod fel rheswm fod achosion coronafeirws yn cynyddu, yn ôl y Prif Weinidog.
"Y safbwynt ry'n ni'n ei gymryd yng Nghymru ydy gweithredu i atal ffynhonnell y broblem, felly os ydyn ni'n gweld coronafeirws yn cynyddu mewn ardaloedd a bod yr achosion yn cael eu hadnabod oherwydd busnesau lletygarwch fe fyddwn ni'n gweithredu," meddai.
"Pan oeddwn i'n siarad â Phrif Gwnstabl Gwent ac eraill ddoe, y dystiolaeth yn y rhan yna o Gymru yw mai nid busnesau lletygarwch ydy'r rheswm dros y cynnydd mewn niferoedd.
"Os oes rhaid i ni weithredu mae gennym nifer o fesurau, gan gynnwys y math o fesurau ry'n ni wedi'i weld yn Yr Alban ac sy'n cael eu disgwyl dros i ffin yn Lloegr."
Llywodraeth Cymru
Mae rhai pobl “yn parhau i gadw lan” gyda’r syniad fod cynnydd yn nifer achosion Covid-19 yng Nghymru, yn ôl y Prif Weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford fod angen i bawb "ddychwelyd at y pethau oedd yn gwneud gwahaniaeth yn gynharach yn y flwyddyn".
Ychwanegodd fod yna grŵp "ymylol" o bobl yn y gymdeithas sy'n hyrwyddo'r syniad bod y feirws yn un ffug.
"Ond mae mwyafrif llethol pobl yng Nghymru, rydw i'n meddwl, eisiau gwneud y peth iawn o hyd," meddai Mr Drakeford.
Wrth siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru dywedodd: "Mae yna bobl eraill yr wyf yn meddwl sydd wedi ymlacio eu hamddiffyniad yn ystod misoedd yr haf, oedd yn credu oherwydd bod pethau’n gwella ein bod ar daith anochel i ddileu’r feirws.
"Mae rhai pobl yn parhau i gadw lan â'r ffaith bod y feirws yn ôl ac mewn rhai rhannau o Gymru yn ôl yn ffyrnig - a rhaid i ni i gyd ddychwelyd at y pethau a oedd yn gwneud gwahaniaeth yn gynharach yn y flwyddyn - mae angen hynny arnom er mwyn gwneud gwahaniaeth eto nawr."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau bod unrhyw gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau newydd ar gael i fusnesau Cymru hefyd.
Yn ddiweddarach heddiw bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi mwy o gefnogaeth i fusnesau sydd wedi'u gorfodi i gau, ac mae disgwyl y bydd cyfyngiadau llymach yn cael eu cyhoeddi yn Lloegr yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd: "Roedden ni'n trafod gyda'r Trysorlys ddoe er mwyn sicrhau os oes arian yn cael ei roi i gefnogi busnesau yn Lloegr, yna mae'n rhaid i arian fod ar gael i gefnogi bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn ogystal."
Ond ychwanegodd Mr Drakeford ei fod "eto i glywed gan y Trysorlys" ynglŷn â sut y byddai unrhyw gefnogaeth yn cael ei basio ymlaen i Gymru.
golwg360
Mae Golwg360 yn adrodd fod naw o fyfyrwyr a staff, dolen allanol Coleg y Drindod Dewi Sant wedi eu heintio gyda coronafeirws.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: “Trwy’r broses hon rydym wedi nodi, hyd at ddydd Iau, Hydref 8, fod pedwar aelod o staff a phump myfyriwr wedi profi’n bositif am Covid-19 ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru.
“Ni allwn gadarnhau unrhyw fanylion eraill am resymau cyfrinachedd.”
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Yn ystod cynhadledd y prif weinidog i'r wasg, fe gyhoeddwyd ystadegau yn dangos y darlun diweddaraf am gyfradd nifer yr achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth fesul sir.
Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd y bydd plant sydd mewn ardaloedd clo yn cael croesi ffiniau'r sir er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon.
Mae'r cyfyngiadau lleol yn golygu nad oes hawl gan bobl i fynd i mewn nag allan o'r sir heb "esgus rhesymol".
Ond roedd dros 8,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am eithrio chwaraeon plant.
"Ry'n ni'n bwriadu newid y canllawiau i alluogi plant i gymryd rhan mewn chwaraeon os ydy'r rheiny yn digwydd tu allan i ffiniau eu siroedd," meddai Mark Drakeford.
"Rwy'n gwybod mai newidiadau bychan yw'r rhain mewn darlun cenedlaethol."
Fe allwch chi wylio'r gynhadledd ar dop y dudalen yma, neu ar gyfrif Twitter Llywodraeth Cymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n ystyried cau tafarndai pe bai cyfraddau haint coronafeirws yn parhau i godi.
Ond rhybuddiodd Vaughan Gething AS y gallai gael "effaith uniongyrchol ar iechyd" ac arwain at "ddiweithdra sylweddol" heb y gefnogaeth ariannol gywir ar waith i'r sector.
Daeth ei sylwadau wrth i uwch-feddygon yng Nghymru rybuddio y gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn rhai anodd dros ben i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd oni bai bod coronafeirws yn cael ei reoli.
Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Mr Gething y byddai angen i'r gyfradd heintio 'R' ostwng o dan 50 o achosion fesul 100,000 o bobl er mwyn osgoi "mesurau pellach" yn rhanbarthol neu'n genedlaethol.
"Fyddwn i byth yn defnyddio ymadrodd fel 'mae coronafeirws dan reolaeth', gan ein bod ni wedi gweld patrwm cynyddol o achosion ledled Cymru gyfan," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daeth cadarnhad ddoe y bydd trigolion Caerffili yn wynebu cyfyngiadau coronafeirws ychwanegol am o leiaf wythnos arall.
Dyma'r ardal gyntaf yng Nghymru i gael eu rhoi dan gyfyngiadau lleol, a dywedodd Cyngor Caerffili y bydd y rheolau'n parhau wedi cynnydd yn nifer yr achosion yn ddiweddar.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos 60.2 o achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf.
Daeth cyfyngiadau'r sir i rym ar 8 Medi, ac maen nhw'n golygu na chaiff unrhyw un adael neu fynd i mewn i'r sir heb "esgus rhesymol".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
Mae'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yn paratoi i wynebu cyfnod "anodd ofnadwy" allai bara am fisoedd lawer wrth i nifer yr achosion coronafeirws yn yr ardal gynyddu.
Daw'r rhybudd gan gyfarwyddwr dros-dro nyrsio yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae Mandy Jones yn awgrymu y gallai'r cyfnod nesaf fod fwy heriol na delio â'r don gyntaf yn y gwanwyn.
Nod y gwasanaeth iechyd y tro hwn fydd cynnal cymaint o wasanaethau hanfodol a bo' modd, tra hefyd yn ymateb i coronafeirws a phwysau arferol gaeaf.
Ond fe fydd hynny'n golygu heriau aruthrol i staff sydd eisoes "wedi blino".