Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd cyfnod clo llym yn dod i rym ddiwedd yr wythnos

  • Bydd y cyfyngiadau'n debyg i'r rhai ym mis Mawrth, ac mewn grym o 23 Hydref nes 9 Tachwedd

  1. 'Dim hawl cwrdd ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog na fydd hawl i aelwydydd gwrdd â phobl o gartrefi eraill o gwbl yn ystod y cyfnod clo.

    "Mae coronafeirws yn lledaenu pan fo pobl mewn cyswllt agos â'i gilydd, yn enwedig dan do," meddai.

    "I atal y lledaeniad ni fydd modd cwrdd ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi am y pythefnos yma, boed hynny tu mewn neu du allan."

    Ond ychwanegodd bod eithriad i bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain a rhieni sengl, fydd yn cael creu aelwyd estynedig gydag un cartref arall.

  2. Ysgolion cynradd a blynyddoedd uwchradd 7 ac 8 i ddychwelydwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wth gyhoeddi'r newyddion am y cyfnod clo fydd yn dod i rym ar 23 Hydref, dywedodd Mark Drakeford y bydd disgyblion ysgolion cynradd, a blynyddoedd 7 ag 8 mewn ysgolion uwchradd yn dychwelyd i'r ysgol yn dilyn y gwyliau hanner tymor.

    Fe fydd modd i ddisgyblion sydd yn sefyll arholiadau fynd i'r ysgolion ond bydd disgyblion uwchradd eraill yn parhau i dderbyn eu haddysg o adref am wythnos ychwanegol.

    Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai prifysgolion yn parhau i gynnig cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

    "Os bydd myfywyr gydag wythnosau darllen neu wyliau hanner tymor bydd angen iddynt aros adref neu yn eu llety prifysgol," meddai.

  3. 'Rhaid i'r cyfyngiadau fod yn rhai llym'wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd bod y cyfnod clo "mor fyr ac y gallwn ni ei wneud e".

    "Ond mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid iddo fod yn llym er mwyn cael yr effaith mwyaf posib ar y feirws," meddai.

    "Mae hynny'n golygu gweithio o adref ble fo hynny'n bosib. Yr unig eithriadau fydd gweithwyr allweddol a swyddi ble nad ydy gweithio o adref yn bosib."

  4. Cyhoeddi cyfnod clo byr a llym o ddiwedd yr wythnoswedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Yn y gynhadledd mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd cyfnod clo llym yn dod i rym yng Nghymru o ddiwedd yr wythnos.

    Bydd y cyfyngiadau mewn grym o 18:00 ddydd Gwener, 23 Hydref, nes 00:01 ar fore Llun, 9 Tachwedd.

    Mae'r cyfyngiadau yn debyg iawn i'r rheiny a gyhoeddwyd ddiwedd Mawrth. Y cyngor yw aros adref os yn bosib, ond mae modd ymarfer corff tu allan.

    Bydd siopau sydd ddim yn rhai allweddol yn cau, a thafarndai a bwytai yn cau oni bai eu bod yn darparu bwyd tecawê.

    Ni fydd modd cwrdd â phobl sydd ddim yn rhan o'ch aelwyd, boed hynny dan do neu du allan.

  5. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe allwch chi wylio'r gynhadledd yn fyw ar dop y dudalen yma, neu ar gyfrif Twitter Llywodraeth Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Galw ar bobl aeth i ddwy dafarn ym Môn i fynd am brawfwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Cyngor Ynys Môn yn galw ar unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda phobl fu'n yfed mewn dwy dafarn yn Llannerchymedd i fynd am brawf Covid-19 ar unwaith os yn dangos symptomau.

    Mae canolfan brofi cerdded i mewn newydd wedi ei hagor yn Llangefni, ac mae'r manylion am leoliad y ganolfan isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  7. 170 o ddisgyblion ysgol yn Llangollen i hunan ynysuwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bydd 170 disgybl o Ysgol Dinas Brân, Llangollen yn hunan ynysu hyd at 27 Hydref yn dilyn cadarnhad o achos o Covid-19 yn gysylltiedig â’r ysgol.

    Bydd disgyblion sydd ar fysiau Arriva 5 a 5c hefyd yn hunan ynysu.

    Mae Ysgol Dinas Brân yn parhau ar agor i bawb arall ac maent "yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Lleol a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach" medd y cyngor.

    YsgolFfynhonnell y llun, Google
  8. Y cabinet yn trafod 'cyfnod atal cenedlaethol'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Twitter

    Dyma'r diweddaraf am y penderfyniad i gyhoeddi cyfnod clo cenedlaethol wrth i gabinet Llywodraeth Cymru gyfarfod ar hyn o bryd i drafod y camau nesaf.

    Dilynwch y datblygiadau diweddaraf a'r ymateb gwleidyddol yn llawn i'r cyhoeddiad yma ar ein llif byw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Disgwyl cyhoeddi cyfnod clo arall i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:48 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi yn y gynhadledd bod Cymru yn wynebu cyfnod clo arall, a hynny wedi i'r cabinet drafod y manylion terfynol.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nos Sul: "Dros y penwythnos mae gweinidogion wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, gwyddonwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus er mwyn ystyried eu cyngor am fesurau llym i atal y feirws rhag lledu.

    "Mae'r mesurau rydyn wedi eu cyhoeddi eisoes ar lefel genedlaethol a lleol wedi bod o fudd ond mae'n rhaid i ni gyflwyno mesurau gwahanol wrth i'r haint barhau i ledu'n gyflym drwy Gymru yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf.

    "Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf ddydd Llun."

    Cyfyngiadau
  10. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru ar ddydd Llun, 19 Hydref.

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn cynnal y gynhadledd am 12:15, ble mae disgwyl iddo roi mwy o fanylion ynglŷn â chyfnod clo byr a llym fydd yn dod i rym yn yr wythnosau nesaf.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.