Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried addoldai yn hanfodolwedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020
Mae miloedd wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried mannau addoli yn fannau hanfodol.
Pryder y rhai sydd wedi llunio'r ddeiseb yw bod eglwysi wedi'u rhoi yn yr un dosbarth o ran pwysigrwydd â siopau manwerthu ac felly ni allant gynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo byr neu pan mae cyfyngiadau lleol mewn grym.
Maen nhw'n dweud nad oes tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19.
"Mae eglwysi wedi bod yn un o'r enghreifftiau gorau o amgylcheddau sy'n ddiogel o ran Covid-19, ac maent wedi dilyn canllawiau helaeth, afresymol bron, yn llym, i wneud eu rhan dros y genedl," meddai'r ddeiseb.
"Er bod rhai wedi dadlau y gall eglwysi barhau i weithredu ar-lein, mae hyn ar draul yr ymdeimlad o gymuned."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyfnod clo byr hwn yn gyfle i atal lledaeniad y feirws a'u bod yn cydnabod gwaith pwysig arweinwyr crefyddol yn ystod y pandemig.