Crynodeb

  • Datganiad y Gweinidog Addysg wedi'r cyhoeddiad bod arholiadau 2021 wedi'u canslo yng Nghymru

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020

  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

  1. Gwaredu cyfradd sero TAW yn costio £20m yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd penderfyniad llywodraeth y DU i gael gwared ar gyfradd sero TAW sy'n gymwys i fusnesau ac unigolion sy'n prynu cyfarpar diogelu personol (PPE) yn costio £20m yng Nghymru.

    Fe ddaeth y mesur dros dro i osod cyfradd sero TAW i rym ar 1 Mai ac roedd yn para tan 31 Hydref 2020.

  2. 'Angen adfer gofal na sy'n gysylltiedig â haint coronafeirws'wedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn mynegi pryderon am yr achosion o ganser na sydd wedi eu trin oherwydd y pandemig - achosion a gafodd sylw yn rhaglen BBC Wales Investigates.

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod y sylw brys diweddar wedi ceisio "troi llanw Covid".

    Mae Paul Davies yn dweud ei bod hi'n angenrheidiol i Lywodraeth Cymru i chwilio am gyfleon i adfer gofal na sy'n gysylltiedig â haint coronafeirws.

    Paul Davies
  3. A ddylai'r cyflenwad o'r brechlyn fod yn uwch na chyfran poblogaeth Cymru?wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae Adam Price yn gofyn i Mark Drakeford a fydd e'n dadlau y dylai'r cyflenwad o'r brechlyn fod yn uwch na chyfran poblogaeth Cymru o ystyried y ddemograffeg.

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod cyfran y boblogaeth wedi'i dewis oherwydd anghenion brys ond dyw hynny ddim yn golygu nad oes modd edrych eto ar y penderfyniad, meddai.

    Llywodraeth y DU fydd yn prynu'r brechlyn i bawb yn y DU, mae'n ychwanegu.

    Adam Price
  4. Materion ymarferol cysylltiedig â brechlyn Pfizer 'yn real iawn'wedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae materion logistaidd cysylltiedig â brechlyn Pfizer "yn real iawn", medd Mark Drakeford, o ystyried bod angen ei storio mewn lle oer ond mae'r gwaith wedi dechrau ers "nifer o fisoedd'.

    Mae Mr Drakeford yn croesawu disgrifiad arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, o'r brechlyn fel "llygedyn o obaith" ond yn dweud na ddylid gorbwysleisio ei ragoriaethau eto .

  5. 'Brwydro yn erbyn coronafeirws gyda'n harfogaeth bresennol am sawl mis i ddod'wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mark Drakeford

    Mae'r prif weinidog yn mynegi pryder am y "dull gorfoleddus y mae rhai cyfryngau aden dde" yn adrodd y cyhoeddiad am y brechlyn newydd yn erbyn Covid gan Pfizer a BioNTech.

    Mae'n rhybuddio y byddwn yn "brwydro yn erbyn coronafeirws gyda'n harfogaeth bresennol am sawl mis i ddod".

    brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Pa mor bwysig yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae deuddeg cwestiwn wedi cael eu cyflwyno i'r Prif Weinidog - y mwyafrif yn ymwneud â haint coronafeirws.

    Ond yn gyntaf mae Delyth Jewell, AS Dwyrain De Cymru yn gofyn: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru?

    Dywed y prif weinidog wrth ymateb "nad yw dealltwriaeth o'r fath erioed wedi bod yn fwy pwysig" ac mae'n ychwanegu ei fod wedi ysgrifennu at Joe Biden i'w longyfarch ar ei lwyddiant yn yr etholiad arlywyddol.

    Mae'n dweud hefyd bod ymwybyddiaeth o faterion datganoledig wedi codi yn ystod y pandemig.

    Mae Delyth Jewell yn dweud nad yw pobl yn cael digon o wybodaeth sy'n caniatáu i etholiadau'r Senedd fod yn ddigon ystyrlon.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Senedd Fyw

    Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Mae modd gweld y cyfarfod drwy wasgu'r saeth ar frig y dudalen.

    Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.