Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi na fydd unrhyw arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn haf 2021.

  • Y Gweinidog Addysg yn dweud mai asesiadau athrawon fydd yn cael ei ddefnyddio i ddyfarnu graddau.

  • Yn ôl Kirsty Williams mae hi'n amhosib i arholiadau fod yn deg oherwydd effaith y pandemig ar addysg.

  • Ond bydd asesiadau i helpu dyfarnu graddau, gan gynnwys profion fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol.

  1. 'Hanfodol peidio ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yr haf hwn'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    NEU Cymru

    Mae undeb NEU Cymru wedi croesawu penderfyniad y Gweinidog Addysg i beidio â chynnal arholiadau yn haf 2021.

    Dywedodd ysgrifennydd Undeb Addysg Cymru, David Evans: “Rydym yn croesawu bod y gweinidog wedi gwneud y cyhoeddiad hyn - mae’n hanfodol nad ydym yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yr haf hwn, a oedd yn eithriadol o anodd i’r rhai a ddylai fod wedi bod yn sefyll arholiadau.

    "Rhaid i ni sicrhau bod gan bobl ifanc broses asesu gyson ar waith sy'n golygu bod eu galluoedd yn cael eu cydnabod ar gyfer eu camau nesaf.

    "Ond rhaid i hyn beidio â golygu gwaith ychwanegol i bawb dan sylw - staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae'r system addysg eisoes yn ei chael hi'n anodd.

    “Dim ond tymor a hanner sydd gennym i bobl ifanc cyn dyfarnu graddau’r haf nesaf.

    "Felly mae angen cymaint o hyblygrwydd â phosib yn y system nawr, gan ein bod ni'n gwybod nad yw hon yn flwyddyn arferol, a bydd pobl ifanc yn debygol o gael adegau pan maen nhw gartref yn dysgu.”

  2. Y llywodraeth am gydweithio ag athrawon ar asesiadauwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag athrawon i ddatblygu asesiadau, ddylai gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a’u marcio yn allanol, ond yn cael eu cynnal yn y dosbarth dan oruchwyliaeth yr athrawon.

    Dywedodd Kirsty Williams: “Bydd y dull gweithredu llawn yn cael ei lunio gan arweinwyr ysgolion a cholegau, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyngor Cymwysterau Cymru a CBAC.

    “Fy mwriad yw sicrhau y bydd hyn yn sylfaen ar gyfer canlyniadau gan ganolfannau, gyda dull cenedlaethol y cytunwyd arno i sicrhau cysondeb ar draws Cymru a rhoi sicrwydd i golegau a phrifysgolion.

    “Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref er mwyn rhoi amser i’w roi ar waith ym mis Ionawr, ac rydym yn rhagweld na fydd yr asesiadau cyntaf yn cychwyn tan ail hanner tymor y gwanwyn.”

    DisgyblFfynhonnell y llun, PA Media
  3. 'Annheg asesu ar addysg 'dyn nhw heb ei dderbyn'wedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    ASCL Cymru

    Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr corff ASCL Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion, y bore 'ma na fyddai'n deg "asesu plant ar addysg dydyn nhw ddim wedi'i dderbyn".

    "Mae'n rhaid i ni gydnabod na all arholiadau fynd yn eu blaen fel oedd yn digwydd yn 2019, a dydyn ni'n bendant ddim eisiau mynd yn ôl at y system fethedig gafodd ei ddefnyddio yr haf yma," meddai.

    "Ry'n ni'n teimlo bod gwerth cael system unigryw i Gymru sy'n cydnabod arbenigedd ein hathrawon.

    "Mae'n rhywbeth y gofynnon ni amdano eleni a wnaeth hynny ddim digwydd - sef bod asesiadau athrawon yn rhan sylweddol o'r penderfyniad, ond bod y system yn cael ei chymedroli.

    "Yr hyn ry'n ni angen yw bod gradd B mewn ysgol yn Llandudno yr un peth â gradd B yn Abertawe. Nid cyfrifoldeb athrawon unigol ydy hynny, ond gwaith y rheoleiddiwr."

    DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Sylw'n troi at yr asesiadauwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Uwchlaw popeth, fe fydd na rhyddhad mewn ysgolion, colegau a chartrefi bod 'na benderfyniad am yr arholiadau wedi'r holl ansicrwydd.

    Ond nawr mae'r sylw'n troi at sut fydd disgyblion yn cael eu hasesu ar gyfer eu graddau.

    Mae sefydlu proses deg i wneud hynny yn dasg sylweddol a sicrhau cysondeb ar draws Cymru yn un o'r prif heriau.

    Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i ganslo arholiadau yn gyfangwbwl.

    Ond mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn hyderus na fydd hynny'n broblem i brifysgolion wrth ystyried canlyniadau Safon Uwch.

  5. 'Parhau i fod yn flwyddyn hynod o heriol'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi fideo ar ei chyfrif Twitter yn egluro'r penderfyniad i ganslo'r arholiadau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Cymwysterau Cymru yn cydnabod 'penderfyniad anodd'wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Cymwysterau Cymru

    Mae'r corff sy'n rheoleiddio arholiadau a graddau, Cymwysterau Cymru wedi dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru wedi bod yn un anodd, ac "nad oes atebion hawdd".

    "Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau, gwnaethom roi cyngor i'r Gweinidog ar yr hyn a ystyriwyd gennym fel y dull asesu decaf yn 2021," meddai'r corff mewn datganiad.

    "Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd ac nad oes atebion hawdd.

    "Rydym yn ystyried y penderfyniad a'r hyn y gallai ei olygu'n ymarferol.

    "Yn y cyfamser, byddwn yn rhoi cyngor i'r Grŵp Cynghori Annibynnol ar Ddylunio a Chyflawni."

  7. 'Sicrhau tegwch ar draws y system'wedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gadarnhau'r penderfyniad, dywedodd Kirsty Williams: “Roeddem yn canolbwyntio ar les y dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.

    “Rydyn ni’n dal i obeithio y bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella, ond y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw sicrhau tegwch; bydd y cyfnod o amser y gall dysgwyr yn ei dreulio yn yr ysgol neu’r coleg yn amrywio’n fawr iawn ac, yn y sefyllfa hon, mae’n amhosibl gwarantu tegwch i bawb mewn arholiadau.

    “Rydyn ni wedi ymgynghori â phrifysgolion ar draws y DU, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi arfer derbyn nifer o wahanol fathau o gymwysterau.

    “Maen nhw’n disgwyl trefniadau cadarn a thryloyw, sy’n darparu tystiolaeth o wybodaeth a gallu’r dysgwyr.

    “Mae’r dull gweithredu rydyn ni’n bwriadu ei ddilyn yn cynnig hynny, gan ei fod wedi’i lunio i roi gymaint o amser â phosibl i addysgu a dysgu.

    “Bydd canslo’r arholiadau hefyd yn golygu bod amser ar gael i’r addysgu a dysgu barhau drwy gydol tymor yr haf er mwyn cynyddu gwybodaeth, gwella sgiliau a chodi hyder ein dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf.”

    Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Canslo holl arholiadau TGAU a Safon Uwch yn haf 2021wedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020
    Newydd dorri

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi na fydd unrhyw arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael eu cynnal yn haf 2021.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams mai asesiadau athrawon fydd yn cael ei ddefnyddio i ddyfarnu graddau disgyblion.

    Yn ôl y gweinidog mae hi'n amhosib i arholiadau fod yn deg oherwydd effaith y pandemig ar addysg.

    Ychwanegodd y bydd arweinwyr ysgolion a cholegau yn cydweithio ar "gynllun cenedlaethol" er mwyn sicrhau cysondeb.

    Bydd asesiadau yn cael eu cynnal dan oruchwyliaeth athrawon, a bydd y rheiny'n dechrau yn ail hanner tymor y gwanwyn.

  9. Beth oedd cyngor Cymwysterau Cymru i'r gweinidog?wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mewn cyngor i'r Gweinidog Addysg, roedd y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru wedi argymell y dylid canslo arholiadau TGAU yn haf 2021.

    Fe ddylai'r graddau ar gyfer TGAU ac Uwch Gyfrannol (AS) gael eu penderfynu ar sail gwaith cwrs ac asesiadau wedi eu gosod a'u marcio gan y bwrdd arholi CBAC, meddai'r corff.

    Ar gyfer Safon Uwch, mae'r corff yn argymell bod yna un arholiad ar gyfer pob pwnc, gydag ail gyfle i ddisgyblion sefyll yr arholiad be bai nhw'n gorfod hunan-ynysu.

    Fe fyddai gwaith cwrs a thasgau penodol hefyd yn cyfrannu at y graddau.

  10. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Bore da a chroeso i'n llif byw, ble mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn fuan am sut fydd cymwysterau Safon Uwch a TGAU yn cael eu penderfynu yn yr haf.

    Mae yna awgrym cryf y bydd arholiadau TGAU yn cael eu canslo, a graddau'n seiliedig ar asesiadau a gwaith cwrs.

    Yn ôl cyngor gafodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, fe ddylai'r mwyafrif neu holl arholiadau Safon Uwch gael eu canslo hefyd.

    Daw'r cyhoeddiad wrth i'r pandemig coronafeirws barhau i darfu ar addysg.

    Cafodd arholiadau eleni eu canslo ar ôl i ysgolion gau ym mis Mawrth, ond bu'n rhaid hepgor y drefn ar gyfer penderfynu graddau wedi ymateb ffyrnig i'r canlyniadau, a graddau ysgolion a cholegau gafodd eu rhoi yn y pendraw.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media