Brechlyn yn 'gam sylweddol' ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 2 Rhagfyr 2020
Llywodraeth Cymru
Mae un o uwch swyddogion iechyd Llywodraeth Cymru yn dweud bod y brechlyn Pfizer-BioNTech sydd newydd ei gymeradwyo yn gam sylweddol wrth fynd i’r afael â’r pandemig.
Wrth siarad yng nghynhadledd coronafeirws y llywodraeth, dywedodd Dr Gill Richardson, sy’n cadeirio Bwrdd Rhaglen Brechlyn Covid-19, fod rhoi cymeradwyaeth i'r brechlyn yn “newyddion i’w groesawu’n fawr”.
“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymateb i’r pandemig yma. Am y tro cyntaf mae gennym gyfle i atal y salwch ofnadwy hwn.
“Mae gennym lygedyn o obaith ar ddiwedd yr hyn a fu’n flwyddyn hir ac anodd iawn,” meddai.
Dywedodd Dr Richardson ei bod yn obeithiol y bydd ail frechlyn - un Oxford-AstraZeneca - yn cael cymeradwyaeth yn ddiweddarach y mis hwn ac y byddai’n rhoi “mwy o opsiynau” wrth geisio rheoli ymlediad y brechlyn.