Crynodeb

  • Hawl i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored

  • Pryder am amrywiolyn Delta yn parhau

  • Modd cynnal gweithgareddau awyr agored gyda hyd at 10,000 yn eistedd neu 4,000 yn sefyll

  1. Cadarnhau dau achos o amrywiolyn Delta yn ardal Porthmadogwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yna 97 achos o'r amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

    Mae tua hanner o'r rhain yn Sir Conwy, gyda chlwstwr yn ardal Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn.

    Ond mae dau achos hefyd wedi eu cadarnhau yn ardal Porthmadog., dolen allanol

    Mae yna brofion ar 12 achos arall yn yr ardal i weld a ydynt yn gysylltiedig.

    Mae canolfan brofi symudol wedi ei lleoli ym mhrif faes parcio Porthmadog ar gyfer trigolion sydd ag unrhyw bryderon.

    port
  2. Hawl i 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agoredwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Nos Iau fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored a bod modd cynnal gweithgareddau awyr agored mawr .

    Bydd modd hefyd gynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd y symudiad i lefel rhybudd 1 yn raddol, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored yn gyntaf.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru'n adolygu'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto cyn 21 Mehefin, a bryd hynny y bydd penderfyniad ynglŷn â digwyddiadau o dan do.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Bore da.

    A chroeso i'r llif byw ac adolygiad Llywodraeth Cymru o'r rheolau Covid.

    Fe fydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 1 o'r cyfyngiadau coronafeirws o ddydd Llun ymlaen - gyda nifer o reolau yn cael eu llacio.

    Ond mae'r prif weinidog Mark Darakeford hefyd yn rhybuddio pobl i barhau'n wyliadwrus am ledaeniad yr amrywiolyn Delta.

    Ar hyn o bryd mae 97 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy.

    Arhoswch gyda ni am holl fanylion y gynhadledd.

    parcFfynhonnell y llun, Getty