Crynodeb

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau y bydd busnesau Cymru yn cael aros ar agor dros y gaeaf

  • Llacio rheolau cartrefi gofal er mwyn cael gweld anwyliaid

  • Niferoedd achosion Covid yn uchel ond yn gostwng yn raddol

  • O ddydd Llun ymlaen bydd angen pás Covid yng Nghymru

  • Rheolwr un clwb nos yn dweud bod angen oedi cyn cyflwyno rheolau newydd

  1. Nifer achosion Covid yn uchel ond yn gostwngwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod nifer yr achosion o Covid yn parhau yn uchel - yn enwedig yn ystod cyfnod cyntaf y tair wythnos sy'n cael eu hadolygu heddiw.

    "Mae'r nifer gyda'r uchaf ers dechrau'r pandemig," meddai, "gyda'r cyfraddau uchaf ymhlith pobl ifanc - mae'r cyfraddau ymhlith pobl o dan 25 bedair gwaith yn uwch na chyfradd yr achosion ymhlith pobl dros 60.

    "Fodd bynnag yn ystod y diwrnodau diwethaf mae'r niferoedd wedi gostwng i fod yn is na 500 achos ymhlith 100,000 o bobl ond mae hyn yn parhau i fod yn uchel," ychwanegodd.

  2. Y Prif Weinidog Mark Drakeford i arwain y gynhadleddwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Dilynwch gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg yn fyw, ble fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn esbonio'r cynllun newydd i ddiogelu Cymru trwy'r gaeaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Dirwy am ddefnyddio pàs Covid neu ganlyniad prawf ffugwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    pasFfynhonnell y llun, Getty Images

    Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn defnyddio pàs Covid neu ganlyniad prawf llif unffordd ffug yn cael dirwy o ddydd Llun ymlaen, medd Llywodraeth Cymru.

    I gael pàs mae'n ofynnol i berson ddangos tystiolaeth sy'n profi naill ai fod wedi ei frechu'n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol o fewn y 48 awr blaenorol.

    Fe fydd y ddirwy ar gyfer ffugio canlyniad prawf neu bàs yn £60.

    Fe all yr hysbysiad cosb benodedig ostwng i £30 os yw'n cael ei dalu o fewn 14 diwrnod. Ond os bydd rhywun yn troseddu am yr eildro, bydd y ddirwy yn dyblu.

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd unrhyw un sy'n defnyddio pàs ffug yn cael ei dirwyo, medd Llywodraeth Cymru

  4. 'Dewch â'r system i fewn ond rhowch cwpl o wythnosau i ni dreialu'r systemau'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Mae Guto Brychan, sy'n rhedeg Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, yn galw ar y llywodraeth i oedi cyn dod â'r rheidrwydd i gael pasys i rym.

    "Mae ond 'di bod yn dair wythnos ers iddyn nhw wneud y penderfyniad, mae ond wedi cael ei basio yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf, ac mae'n dod i rym dydd Llun," meddai.

    "Dyw e ddim yn rhoi llawer o amser i ni fel sector i gael y neges i'n cwsmeriaid bod hyn yn dod i rym Dwi ddim 'di gweld dim byd mawr gan y llywodraeth eto o ran ymgyrch farchnata'n sôn am y newidiadau."

    Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod 'na le i ddweud wrth y llywodraeth 'dewch â'r system i fewn ond rhowch cwpl o wythnosau i ni dreialu'r systemau'."

    Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod angen cyflwyno'r rheolau newydd.

    "Bydd y mesur hwn yn caniatáu i'r cyfleusterau aros ar agor yn wyneb un o'r gaeafau mwyaf heriol yr ydym eto i'w wynebu," meddai. "Mae'r cyhoedd ar ein hochr ni ar hyn."

    Disgrifiad,

    'Rhowch cwpl o wythnosau i ni dreialu'r pàs Covid'

  5. Perfformio eto yn 'freuddwyd' ac yn teimlo mor neiswedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Mae cerddorion ac artistiaid yn dweud bod cael perfformio'n fyw eto "fel breuddwyd".

    Nos Iau, cychwynnodd gŵyl Focus Wales, sy'n rhoi llwyfan i tua 300 o artistiaid, yn bennaf dan do.

    Yn ôl y gantores Eädyth, mae 'na "gyffro" wedi cyfnod ble nad oedd gigio'n bosib.

    Cafodd Focus Wales ei gohirio ddwywaith yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, ac i Neal Thompson, un o'r sylfaenwyr, mae'n teimlo'n "weird, ond rili dda" i'w chynnal o'r diwedd.

    Mae'n rhaid i bobl ddilyn mesurau fel profion Covid llif unffordd gorfodol i gael mynd i'r ŵyl.

    "Mae pawb wedi ymateb yn rili dda ac yn bositif i hynne," meddai Neal.

    Cyn perfformio yng nghlwb y Central nos Iau, dywedodd Eädyth ei bod "mor mor excited" o gael chwarae'n fyw.

    "Mae 'na obviously nerves o gwmpas y lle, ond dwi mor gyffrous i fod ar y llwyfan eto, i fod o flaen cynulleidfa," meddai.

    "Mae'n teimlo fel mae o ddim go iawn, ti'n gwybod? Mae'n rili neis - mae'n freuddwyd."

    Neal Thompson
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r cyhoedd wedi ymateb yn dda i'r mesurau atal Covid, medd un o sylfaenwyr Focus Wales, Neal Thompson

  6. 'Amlwg ein bod ni bellach yn byw hefo'r feirws'wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    "Mae'n eitha' amlwg ein bod ni bellach yn byw hefo'r feirws," meddai Dr Eilir Hughes fore Gwener.

    "'Dan ni'n gwybod bod y marwolaethau yma yn parhau. 'Dan ni'n hofran o gwmpas ryw ddeg marwolaeth y dydd ar y cyfan a 'dan ni'n disgwyl y bydd y cyfanswm o farwolaethau yn sgil Covid yn rhyw 6,000 erbyn diwedd y mis sydd yn garreg filltir arall yn hanes Covid-19 yng Nghymru.

    "Dwi'n teimlo bod yn rhaid i ni atgoffa pobl ein bod yn parhau mewn argyfwng iechyd cyhoeddus a dylan ni fod mor ystyriol â phosib i osgoi lledu'r feirws tra'n mwynhau y bywyd mwy rhydd o gyfyngiadau."

    Eilir Hughes
  7. Dim angen gwirio pob pàswedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    gfxFfynhonnell y llun, bbc

    Tra'n siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford na fydd trefnwyr digwyddiadau mawr o reidrwydd angen sicrhau bod gan bob unigolyn bàs Covid.

    "Beth fydd y gyfraith yn ei ddweud yng Nghymru yw, bydd rhaid i bobl sy'n rhedeg y gêm, neu beth bynnag yw e, gymryd camau rhesymol i checkio os ydy pobl wedi gwneud be 'da ni yn gofyn iddyn nhw ei wneud," meddai.

    "Pan mae lot fawr o bobl yn trio mynd mewn er enghraifft, does dim rhaid checkio bob un. Maen nhw'n gallu 'neud un mas o bob pum person, er enghraifft.

    "Yn fy marn i mae pobl yng Nghymru, dros gyfnod y coronafeirws i gyd, wedi dangos eu bod nhw eisiau gwneud pethau i gadw nhw a phobl eraill yn ddiogel.

    "Os oes nifer fawr o bobl yn aros i fynd mewn i gêm rygbi er enghraifft, os y'ch chi'n trio checkio pob un o'r bobl, mae hynny'n creu problemau eraill. Felly bydd system o spot checks yn y gyfraith."

  8. Sut mae cael pàs Covid?wedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Bydd pasys Covid yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr o ddydd Llun ymlaen wedi i'r llywodraeth ennill pleidlais ar y mater yn y Senedd o drwch blewyn yr wythnos hon.

    Bydd angen prawf o ddau frechiad, neu ganlyniad negyddol yn dilyn prawf Covid llif unffordd o fewn y 48 awr flaenorol.

    Disgrifiad,

    Pàs Covid: Beth sy'n rhaid i chi wybod?

  9. Ail senario yn ymateb i newidiadau sydynwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Dywed Llywodraeth Cymru bod yr ail senario wedi ei chynllunio i ymateb i unrhyw newidiadau sydyn allai roi gormod o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, er enghraifft ymddangosiad amrywiolyn newydd.

    Os oes angen symud i'r senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael eu defnyddio "mewn modd cymesur i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad yr haint a diogelu'r gwasanaeth iechyd".

    arwyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Byddai system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael eu defnyddio yn yr ail senario

  10. Y senario gyntaf - a'r un mwyaf tebygolwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    O dan y senario gyntaf byddai Cymru'n parhau ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a'r gaeaf gyda phob busnes yn gallu agor.

    Yn ôl y llywodraeth y senario yma sydd "fwyaf tebygol" wrth i Gymru ymgyfarwyddo â byw gyda coronafeirws, a symud at sefyllfa ble mae'r feirws yn salwch tymhorol.

    Bydd modd llacio a chryfhau rheolau o hyd o dan y senario yma.

    siopauFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gobaith yw y bydd llai o amharu ar fusnesau eleni, ac na fydd yn rhaid cyflwyno cyfnodau clo

  11. Croeso i'n llif newyddion byw o gynhadledd y llywodraethwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru y prynhawn yma.

    Mae disgwyl iddo gadarnhau y bydd busnesau'n debygol o gael aros ar agor drwy'r hydref a'r gaeaf.

    Mae'r cynllun yn cynnwys dwy senario, sef Covid Sefydlog a Covid Brys.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images