Crynodeb

  • Mark Drakeford yn cadarnhau cyfyngiadau coronafeirws newydd mewn cynhadledd i'r wasg a ddechreuodd am 12:15

  • Rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru ein bod ni mewn cyfnod o "lonyddwch cyn y storm"

  • "Eleni, Nadolig llai fydd y Nadolig mwyaf diogel," meddai Mr Drakeford

  • Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru ar 27 Rhagfyr fel rhan o'r ymateb i amrywiolyn newydd Omicron

  • Bydd rhagor o fesurau yn dod i rym i fusnesau hefyd o'r diwrnod hwnnw, gan gynnwys rheidrwydd i gadw pellter mewn swyddfeydd ac uchafswm siopwyr mewn archfarchnadoedd

  • Hyd at £60m o gymorth ariannol i'r busnesau sy'n cael eu heffeithio, ond nifer yn poeni am effaith y rheolau dros gyfnod mor allweddol

  1. 'Cam mawr yn ôl i fusnesau'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Mae Llywodraeth Cymru'n "gywir i flaenoriaethu iechyd cyhoeddus, ond mae cyfyngiadau newydd yn gam mawr yn ôl i fusnesau, yn arbennig busnesau lletygarwch" yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas y Cyflogwyr (CBI) yng Nghymru, Ian Price.

    "Drwy'r pandemig mae cwmnïau wedi gweithredu nifer o fesurau i gadw eu staff a chwsmeriaid yn ddiogel," dywedodd.

    "Mae'n bositif bod y llywodraeth yn darparu cefnogaeth ariannol newydd i gynnal busnesau dros gyfnod anodd y gaeaf."

    Mae Mr Price yn "erfyn ar bob busnes" i hybu'r ymgyrch brechu atgyfnerthu ymhlith aelodau staff fel bod mwy'n cael eu brechu.

    "Bydd cymryd y camau hyn nawr yn sicrhau ein bod yn cadw ein heconomi ar agor fel y mae'n ddiogel i wneud hynny yn yr wythnosau nesaf."

    Bwyty
  2. Disgwyl i 'gannoedd o filoedd' ddal Omicronwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Mae'n rhaid paratoi at don Omicron yng Nghymru, gyda disgwyl i'r niferoedd sydd wedi eu heintio newid yn "aruthrol o gyflym", meddai'r gweinidog iechyd.

    Dywedodd Eluned Morgan ar Dros Frecwast y byddai'r niferoedd uchel yn debygol o roi straen ar ofal iechyd a gwasanaethau ehangach.

    Ychwanegodd bod disgwyl i "gannoedd ar filoedd o bobl" ddal Omicron dros yr wythnosau nesaf.

    Bydd "penderfyniadau pellach yn ystod yr wythnos nesa'" gan y llywodraeth, meddai.

  3. Pam clybiau nos ond nid tafarndai?wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Fe ofynnwyd i Mark Drakeford fore Gwener pam nad oedd tafarndai'n cael eu cau, fel sy'n digwydd i glybiau nos.

    Wrth siarad ar BBC Today, atebodd: "Maen nhw'n dweud wrtha'i fod clybiau nos yn llefydd y mae pobl yn mynd i fod yn agos ac yn bersonol."

    Dywedodd hefyd nad oedd yn diystyru cyflwyno mesurau llymach ar ôl y Nadolig, gan ddweud y bydd yn "dysgu llawer iawn mwy dros y 10 diwrnod nesaf".

    Dywedodd nad oedd aelwydydd estynedig a'r rheol o chwech mewn bwytai a thafarndai yn cael eu diystyru, ac y byddai penderfyniad am ddigwyddiadau awyr agored mawr fel chwaraeon ddydd Llun.

    Ychwanegodd fod Cymru mewn cyfnod o "lonyddwch cyn y storm".

    clybioFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Nadolig: Bwytai 'ar eu gliniau'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Mae pobl eisoes yn canslo byrddau mewn bwytai, meddai Nia Rhys Jones o Gymdeithas Twristiaeth Môn, ac mae llawer iawn o fusnesau, sy'n dibynnu ar gyfnod prysur gwyliau'r Nadolig "ar eu gliniau erbyn hyn".

    "Dwi'n siŵr bydd llawer yn meddwl 'ydy o werth i mi gario 'mlaen' [a] bydd 'na lawer i sgwrs yn y byd busnes ym cymryd lle dros y gwylia' rŵan," meddai ar raglen Dros Frecwast.

    "Yn union fel llynedd ma'r llefydd ma' wedi prynu stoc, ma'r rota staff [wedi ei drefnu] - ma' popeth yn ei le ar gyfer y cyfnod prysura' a dyma ni eto.

    "Drwy'r cyfnod coronafeirws ma' i gyd, ma'r diwydiant wedi parchu'r canllawia' a mi neith y diwydiant eto."

    bwytyFfynhonnell y llun, Getty Images

    Serch y straen y mae hi'n ei ragweld dros yr wythnosau nesaf, dywedodd: "Mi ddown ni drwyddi.

    "Mae'n ddiwydiant sy'n dod yn ôl dro ar ôl tro, ond ma' rhaid i rywun gydymdeimlo eto efo'r diwydiant lletygarwch sy'n ca'l yr hit yma, fel petae, ar gyfnod sy' mor hanfodol i'w cynllun busnes."

  5. 'Be ydw i fod i ddweud wrth y staff?'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Mae Gwyndaf Jones yn berchennog ar glwb nos COPA a thafarn y Castell yng Nghaernarfon.

    Mae'n dweud ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r cyfyngiadau diweddaraf a'i fod yn poeni am ei staff.

    "Mae ganddon ni dros 80 o bobl yn dal i weithio i ni a 'dyn nhw ddim yn gw'bod be' sy'n mynd i ddigwydd i'w gwaith nhw mewn wythnos," meddai.

    "Be 'da ni fod i ddweud wrthyn nhw?

    "'Da ni ddim wedi cael dim contact gan track and trace ers misoedd yn y ddau glwb nos sydd ganddon ni."

    Gwyndaf Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    "Ma' cyfnod Dolig tua 30% o trade y flwyddyn i ni," meddai Gwyndaf Jones

    Ychwanegodd: "Dwi yn meddwl neith o effeithio ar dafarndai hefyd. Os ydy'r social distancing rule, 2 metre rule - neu rule of 6 yn dod i mewn - bydd hynny yn cau tafarndai hefyd.

    "Mae pobl yn ofn mynd allan a 'dy o ddim yn rhoi cymorth i dafarndai. Mae'n cau ni lawr heb watchad ar ôl ni, a heb roi compensation iawn. Mae 'na lwyth o bobl yn mynd i golli gwaith."

  6. Beth am rhwng nawr a'r Nadolig?wedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Mae'r Prif Weinidog yn "cynghori pawb yn gryf" i wneud pum peth cyn y Nadolig er mwyn cadw'n ddiogel:

    • Cael eich brechu - boed yn bigiad cyntaf, ail, neu frechlyn atgyfnerthu;
    • Cymryd profion llif unffordd os yn mynd allan - fel i siopa neu weld rhywun;
    • Cwrdd tu allan os yn bosib, ac awyru ystafelloedd os oes rhaid cwrdd dan do;
    • Gadael o leiaf un diwrnod rhwng gwahanol ddigwyddiadau;
    • Cofio am gadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb a golchi eich dwylo yn gyson.

    Bydd y rheoliadau'n cael eu newid hefyd i gynnwys gorchymyn i weithio adref ble fo hynny'n bosib.

  7. Beth sy'n newid ar 27 Rhagfyr?wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    rheolau

    Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun dau ran - y cyntaf yw cynghori pobl i fod yn fwy gofalus cyn y Nadolig, ac yna bydd cyfyngiadau newydd ddod i rym ar ôl Gŵyl San Steffan.

    Bydd mesurau ychwanegol mewn lle i fusnesau i "ddiogelu cwsmeriaid a staff" fel systemau unffordd a rhoi rhwystrau mewn lle ble fo angen.

    Bydd archfarchnadoedd yn dychwelyd i "uchafswm o bobl sy'n cael siopa" o 27 Rhagfyr.

    Bydd rheolau'n dod i rym i orfodi pellhau cymdeithasol o ddau fetr mewn swyddfeydd hefyd, a bydd clybiau nos yn cau.

  8. Diolch am ymuno gyda niwedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Dyma ni eto...

    Bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog, yn siarad gyda phobl Cymru am 12:15.

    Mae disgwyl iddo fanylu ar y rheolau newydd fydd yn effeithio ar ein bywyd o ddydd i ddydd, yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.

    Cafodd llawer o'r newidiadau mawr eu cyhoeddi dros nos ond fe fydd Mr Drakeford yn ateb cwestiynau gan y wasg hefyd.

    Arhoswch efo ni - mae'n braf cael eich cwmni.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images