Crynodeb

  • Gobaith y bydd yr angen i wisgo mygydau yn cael eu dileu'n llwyr yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth

  • Y gofyniad i ddisgyblion ysgol wisgo mygydau i gael ei ollwng ar ôl hanner tymor

  • Pasys Covid i gael eu dileu o 18 Chwefror

  • Y rheolau hunan-ynysu presennol yn parhau am y tro

  1. Ceidwadwyr eisiau brysio, Plaid Cymru eisiau pwyllowedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Ond cymysg oedd yr ymateb gan y gwrthbleidiau.

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Diolch i'r rhaglen frechu wych a gwaith caled pawb, mae heintiadau, y nifer sydd angen triniaeth ysbyty a marwolaethau yn gostwng, ac mae hynny'n dangos fod bygythiad y pandemig yn lleihau.

    "O ystyried y datblygiadau positif yma a llwyddiant y rhaglen frechu, mae angen i Gymru adfer rhyddid pobl yn llawn heb oedi."

    Ond fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth annog Llywodraeth Cymru i "gymryd pethau'n araf, gan obeithio na fydd yn rhaid i ni gymryd cam yn ôl tuag at unrhyw gyfyngiadau pellach yn y dyfodol".

    "Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro beth yw'r criteria sydd angen eu cyrraedd er mwyn codi'r holl gyfyngiadau."

  2. 'Ein niferoedd ni lawr' dros gyfnod pasys Covidwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Roedd 'na groeso hefyd i'r newid ar reolau pasys Covid.

    Yn ôl prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon, fe wnaeth nifer y bobl oedd yn dod i'r sinema ostwng dros y cyfnod lle'r oedd yn rhaid dangos pàs Covid.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast y bore 'ma dywedodd Gwyn Roberts ei fod yn "hapus bod y cyfyngiadau'n raddol yn dod i ben".

    "Mae 'na fwy o bobl wedi dechra' dod nôl dros yr wythnosau diwetha'... ond mi 'naeth [y pàs Covid] effeithio ar niferoedd y bobl oedd yn dod i'r sinema.

    "Dwi ddim yn siŵr be' o'dd y rheswm, ella na jyst ddim yn licio'r films oeddan nhw, ond mi o'dd ein niferoedd ni lawr dros y cyfnod yma lle'r oedd yn rhaid i ni ofyn am y pasys.

    "Mae'n braf bod y cyfyngiadau'n gorffen yn gyffredinol dwi'n meddwl."

    Galeri
  3. 'Pwysig cadw pawb yn ddiogel'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Mae'r cyhoeddiad y bydd hi'n ofynnol o hyd i bobl wisgo mwgwd mewn salon wedi ei groesawu gan reolwr siop trin gwallt ym Mangor heddiw.

    Dywedodd Mandy Hallas ei bod yn falch bod y rheol yn parhau.

    "Dwi'n reit hapus, mae'n bwysig i ni i gadw pawb yn saff a phawb sy'n dod fewn i'r salon i deimlo'n saff, felly dwi'n reit hapus i gario 'mlaen efo'r mwgwd," meddai ar Dros Frecwast.

    "Ma' un neu ddau [o gwsmeriaid] ddim yn hapus bo' nhw'n gorfod gwisgo'r mwgwd ond ma' rhan fwyaf o bobl sy'n dŵad i'r salon, ma' nhw yn teimlo'n saff.

    "Ma' hynna'n bwysig i 'neud yn siŵr bo' nhw [cwsmeriaid] dal yn dod drwy'r drws.

    "Mae lot o bobl dal yn sâl ym Mangor ac yn Sir Fôn efo Covid - ma' rhaid dangos bod ni yn cadw'n saff."

    Torri gwalltFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Edrych ar ddiwedd Mawrth' i ddiddymu hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Mae'r rheolau hunan-ynysu presennol yn parhau am y tro, ond bydd gweinidogion yn edrych eto ar y rheoliadau yma - a'r gweddill - ar 3 Mawrth.

    Ond yn ôl y Gweinidog Economi mae'r llywodraeth yn "edrych ar ddiwedd Mawrth" ar gyfer diddymu'r angen i hunan-ynysu.

    "Ar y pwynt hynny mae'n bosib y gallwn ni symud tuag at wneud hunan-ynysu yn gyngor, yn hytrach na gorfodol," meddai.

    Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ar Dros Frecwast fore Gwener fod cael gwared ar hunan-ynysu yn "gam rhy bell" ar hyn o bryd.

    Disgrifiad,

    Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn meddwl fod cael gwared ar hunan ynysu yn gam rhy bell.

  5. Yr amserlen ar gyfer llacio cyfyngiadau Cymruwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Llun
  6. Pasys Covid i gael eu diddymu yr wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Bydd pasys Covid, sydd eu hangen mewn lleoliadau adloniant a chlybiau nos, yn cael eu dileu o 18 Chwefror, medd y llywodraeth.

    Ond dywedodd Vaughan Gething ar BBC Radio 4 y bore 'ma y bydd angen i fusnesau barhau i'w defnyddio am yr wythnos nesaf.

    Mae hynny'n cynnwys ar gyfer y gêm rhwng Cymru a'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.

    Pas CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Beth yw'r diweddaraf o ran gwisgo mygydau?wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Eisoes rydyn ni wedi clywed bod Llywodraeth Cymru'n gobeithio diddymu'r deddfau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo mygydau yn llwyr erbyn diwedd mis Mawrth.

    Bydd y gofyniad i ddisgyblion ysgol wisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth yn cael ei ollwng ar ôl hanner tymor, a mater i ysgolion unigol a chynghorau lleol fydd penderfynu ar y rheolau o'r dyddiad hwnnw, sef 28 Chwefror.

    Ar yr un diwrnod, bydd y gyfraith sy'n gofyn am orchuddion wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus yn cael ei llacio.

    Ni fydd eu hangen mwyach mewn lleoliadau fel addoldai, sinemâu ac amgueddfeydd.

    Ond byddan nhw'n dal yn orfodol mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus, siopau trin gwallt, salonau, ac yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

    MwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022

    Bore da, a chroeso i'n llif byw o gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ar ddydd Gwener, 11 Chwefror.

    Y Gweinidog Economi Vaughan Gething fydd yn cynnal y gynhadledd, gan fod Mark Drakeford yn hunan-ynysu wedi iddo gael prawf positif am coronafeirws.

    Fe fydd y gweinidog yn amlinellu'r camau nesaf wrth lacio rhagor ar y cyfyngiadau, gan gynnwys amserlenni mwy pendant ar gyfer diddymu'r angen am fygydau a phasys Covid.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images