'Pwysig parhau gyda rhai cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022
Dros Frecwast
BBC Radio Cymru
Ar Dros Frecwast fore heddiw dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y byddai Llywodraeth Cymru wedi hoffi llacio mwy ar y rheolau ond nad oedd hynny'n bosib ar hyn o bryd oherwydd bod yr haint yn dal i ymledu.
Erbyn hyn, meddai, mae'r haint yn effeithio ar un o bob 16 o'r boblogaeth yng Nghymru.
"Mae coronafeirws dal i ymledu o fewn ein cymunedau ni ac mae hynny wrth gwrs yn achos gofid i ni," meddai.
"Ond y gwahaniaeth nawr yw, achos fod gymaint o bobl wedi cael eu brechu ychydig iawn ohonyn nhw sy'n wirioneddol yn mynd yn sâl."
Eluned Morgan ar raglen Dros Frecwast