a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Iolo Cheung a Caio Iwan

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Yr enwau mawr i gyd allan o'r het

    Y gwledydd o Bot 2 fydd nesaf.

    Mae Cymru ym Mhot 4 cofiwch.

    Cafu
  2. Y grwpiau...

    Grŵp A: Qatar

    Grŵp B: Lloegr

    Grŵp C: Yr Ariannin

    Grŵp D: Ffrainc

    Grŵp E: Sbaen

    Grŵp F: Gwlad Belg

    Grŵp G: Brasil

    Grŵp H: Portiwgal

  3. Enwau mawr ar y llwyfan

    Jermaine Jenas, Samantha Johnson a Carli Lloyd, enillydd Cwpan y Byd y Merched gyda'r UDA ar ddau achlysur, sy'n cyflwyno'r seremoni erbyn hyn. Mae Idris Elba wedi gadael y llwyfan...

    Cafu, Jay Jay Okocha, Lothar Matthäus, Tim Cahill ac Ali Daei fydd ymhlith y rhai fydd yn tynnu'r enwau allan o'r het.

    Cewri'r gamp - a Jenas.

  4. Llwybr Cymru i Qatar

    Fe ddechreuodd ymgyrch ragbrofol Cymru i gyrraedd Qatar 'nôl ym mis Mawrth 2021, gyda cholled o 3-1 oddi cartref yng Ngwlad Belg.

    Ond fe aeth tîm Rob Page drwy weddill y grŵp heb golli gêm, gan ennill pedair a chael tair gêm gyfartal i orffen yn ail yn y tabl o flaen y Weriniaeth Tsiec.

    Fe wnaeth canlyniad cyfartal adref yn erbyn y Belgiaid yn yr ornest olaf sicrhau y byddai'r crysau cochion adref yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

    Ac fe wnaethon nhw'n fawr o'r fantais honno, gan drechu Awstria o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos diwethaf diolch i goliau'r bytholwyrdd Gareth Bale.

    Un cam sydd i fynd, felly, a honno hefyd gartref ym mis Mehefin yn erbyn Yr Alban neu Wcráin - gan obeithio y bydd modd chwarae'r gêm honno erbyn hynny, wrth gwrs.

    Gareth Bale
    Image caption: Mae gan Gareth Bale bellach 38 o goliau mewn 102 cap dros Gymru
  5. Dyma ni...

    Mae'r foment fawr wedi dod. Ychydig funudau tan y bydd Cymru yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr (posib) yn Qatar!

  6. Hanes i ailadrodd ei hun?

    Mae'n 64 mlynedd ers unig ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd, a hynny 'nôl yn 1958 yn Sweden.

    Bryd hynny bu'n rhaid cyrraedd y twrnament drwy'r gemau ail gyfle hefyd, gyda'r crysau cochion yn trechu Israel dros ddau gymal i gyrraedd yno.

    Roedd Mecsico a Brasil ymhlith gwrthwynebwyr Cymru yn y gystadleuaeth derfynol - tybed a welwn ni nhw eto heddiw?

    Cwpan y Byd 1958
    Image caption: Daeth rhediad Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 i ben yn rownd yr wyth olaf, gyda bachgen ifanc o'r enw Pele yn sgorio wrth i Frasil ennill 1-0
  7. Grŵp anoddaf a hawsaf?

    Yn ôl rhestr detholion FIFA, y grŵp anoddaf allai Cymru ei gael fyddai Brasil (1), Mecsico (9) a Senegal (20).

    Ar y llaw arall, yr un hawsaf fyddai Qatar (51), Croatia (16) a Tunisia (35).

    Tipyn o wahaniaeth yn fanno!

    Kieffer Moore yn sgorio
    Image caption: Fe wnaeth Cymru drechu Mecsico 1-0 mewn gêm gyfeillgar llynedd, ar achlysur 100fed cap Chris Gunter
  8. Y prif weithredwr yn ei sedd

    Prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney sydd yn Doha i gynhyrchioli Cymru'r prynhawn yma, yn hytrach na'r rheolwr Rob Page.

    A fydd o'n hapus ymhen rhyw hanner awr?

    View more on twitter
  9. Y peth pwysicaf un...

    Dylan Griffiths

    Chwaraeon BBC Cymru

    Yr hyn sy'n bwysig ydy bod Cymru yn rhan o'r cyfan am y tro cyntaf ers 1958.

    Oes, mae 'na un gêm anferth eto i'w chwarae, ond yn bersonol does fawr o wahaniaeth pwy fydd yn yr un grŵp â Chymru.

    Yr hyn sy'n bwysig ydy bod Cymru yno ac yn chwarae ar y llwyfan uchaf un.

  10. Osgoi Gwlad Belg a Lloegr, ond Moroco yn ddiddorol

    Dylan Griffiths

    Chwaraeon BBC Cymru

    Yn y pedwerydd pot mae Cymru sef yr un isaf o ran detholion, felly mi fydd 'na her yn wynebu tîm Robert Page pwy bynnag y byddan nhw'n wynebu.

    Yn ddelfrydol, Qatar fydda'r tîm i wynebu o bot rhif 1. Mi ydan ni wedi chwarae digon yn erbyn Gwlad Belg yn ddiweddar, felly mi fyddai'n braf eu hosgoi nhw a hefyd Lloegr.

    Beth am Bortiwgal i gael dial am y rownd gyn derfynol yn Euro 2016?!

    Osian Roberts
    Image caption: A fydd gan y gŵr yma rôl i chwarae petai Cymru'n wynebu Moroco?

    Mae Mecsico yn pot rhif 2 ac mae Cymru wedi eu curo nhw mewn gêm gyfeillgar y llynedd. Mae'r Swistir yno hefyd; mae angen osgoi’r Almaen os yn bosib a Denmarc wedi'r gweir gafon ni yn Euro 2020 yn yr 16 olaf.

    I bot rhif 3 wedyn, mae Gwlad Pwyl a Robert Lewandowski am fod yn gryf ac mi fyddwn ni'n yr un grŵp â nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni. Mi fyddai Moroco yn dîm diddorol, a chyfle hefyd i gael cyngor a gwybodaeth gan Osian Roberts fuodd yn gweithio gyda'r Gymdeithas Bêl-droed yno cyn ymuno â Crystal Palace.

  11. Beth fydd yn digwydd y prynhawn yma felly?

    Ar ôl y traethu arferol sy'n digwydd ar ddechrau seremonïau fel hyn, fe fydd yr enwau'n dod allan o'r het (neu'r peli'n dod allan o'r potiau, i fod yn fanwl gywir).

    Bydd pethau'n dechrau gyda Phot 1, ac yn gweithio'u ffordd i lawr i Bot 4, felly erbyn cyrraedd tro Cymru fe fyddwn ni'n gwybod sut siâp sydd ar y grwpiau eraill.

    Mae hefyd yn golygu y byddwn ni'n gwybod pa grwpiau all Cymru DDIM fod ynddo - achos uchafswm o ddwy wlad Ewropeaidd sy'n cael bod yn yr un grŵp (a bydd sawl un eisoes efo hynny).

    Gyda'r cyfandiroedd eraill, dim ond un sy'n cael bod ym mhob grŵp.

    Mae'n golygu, er enghraifft, bod Cymru/Yr Alban/Wcráin eisoes yn sicr o wynebu o leiaf un o Qatar, Brasil, Ariannin, Mecsico, UDA neu Uruguay (gan fod gweddill Pot 1 a 2 yn llawn timau Ewropeaidd).

    FIFA
  12. Y rhyfel a'r ansicrwydd

    Dylan Griffiths

    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae 'na 29 gwlad eisoes wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni, gyda Chymru un gêm o fod yn rhan o'r gystadleuaeth hefyd.

    32 o wledydd fydd i gyd, ac ar ôl i'r gemau ail gyfle gael eu cwblhau mi fydd yna 8 grŵp o 4. Mae Cymru, ar ôl curo Awstria'r wythnos diwethaf, yn aros i weld os byddan nhw'n wynebu un ai'r Alban neu Wcráin.

    Ond ar hyn o bryd, oherwydd y rhyfel yn erbyn Rwsia, does dim dyddiad wedi ei gadarnhau ar gyfer y gêm hon nac ychwaith y ffeinal.

  13. Sut mae'r timau wedi eu rhannu?

    Mae'r 32 tîm fydd yng Nghwpan y Byd eisoes wedi cael eu rhannu i bedwar pot yn seiliedig ar restr detholion byd FIFA, gyda phob grŵp yn cynnwys un tîm o bob pot.

    Gan fod enillydd llwybr gemau ail gyfle Cymru heb ei gadarnhau eto, maen nhw wedi cael eu rhoi ym Mhot 4 gydag enillwyr y ddau gem ail gyfle arall (Periw v Awstralia/UAE, a Costa Rica v Seland Newydd).

    Fel mae'n digwydd, petai Cymru eisoes wedi cadarnhau eu lle yn y gystadleuaeth fe fyddan nhw ym Mhot 3, gan eu bod nhw'n 18fed yn y byd ar hyn o bryd.

    Pot 1: Qatar, Brasil, Gwlad Belg, Ffrainc, Ariannin, Lloegr, Sbaen, Portiwgal

    Pot 2: Mecsico, Iseldiroedd, Denmarc, Almaen, Uruguay, Y Swistir, UDA, Croatia

    Pot 3: Senegal, Iran, Japan, Moroco, Serbia, Gwlad Pwyl, De Corea, Tunisia

    Pot 4: Cameroon, Canada, Ecuador, Saudi Arabia, Ghana, 3 tîm o'r gemau ail gyfle

    Qatar
    Image caption: Qatar sy'n cynnal y gystadleuaeth ac felly'n cael lle awtomatig ym Mhot 1
  14. Prynhawn da!

    Croeso i'r llif byw wrth i ni gael gwybod pwy fydd grŵp (posib!) Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

    Mae 'na un gêm fawr i fynd cyn i'r lle hwnnw gael ei gadarnhau wrth gwrs - ffeinal y gemau ail gyfle ym mis Mehefin yn erbyn Yr Alban neu Wcráin.

    Ond does dim byd o'i le efo dechrau cyffroi am y posibiliad, nag oes?!

    Cwpan y Byd