Crynodeb

  • Y cyffro wrth i flynyddoedd hŷn ysgolion cynradd gystadlu

  • Problem seddi'r tri phafiliwn wedi cael ei datrys

  • Josh Osborne, 24, o Poole yn ennill Medal y Dysgwyr

  • Anna Ng, 18, o Gaerdydd yn ennill Medal Bobi Jones

  • Yr Urdd yn cynnig gwyliau am ddim i deuluoedd difreintiedig

  1. A dyna ni am heddiw ...wedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae wedi bod yn ddiwrnod arall llawn cyffro ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych.

    Prif seremoni y diwrnod oedd cyflwyno Medal y Dysgwyr a'r enillydd eleni oedd Josh Osborne.

    Anna Ng, 18, o Ysgol Uwchradd Caerdydd enillodd Fedal Bobi Jones a hynny gyda chanmoliaeth uchel.

    Roedd yna newyddion da i eisteddfodwyr wrth i bob pafiliwn agor yn llawn wedi trafferthion iechyd a diogelwch.

    Diolch am eich cwmni.

    Bydd gweddill straeon yr wythnos o'r Eisteddfod ar wefan Cymru Fyw.

    dathlu
  2. 'Does dim byd fel cwrdd â'r arwyr!wedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Rhai o sêr Rownd a Rownd yn rhoi gwersi actio i sêr y dyfodol!

    rownd a rownd
  3. Tiwtor Josh Osborne 'wrth ei bodd' â'i lwyddiantwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae Helen Prosser, tiwtor dysgu Cymraeg enillydd Medal y Dysgwyr, yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Josh Osborne.

    Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd fod polisi'r llywodraeth yn "hollbwysig" o ran dyfodol yr iaith.

    "Yn enwedig pan 'dyn ni'n sôn am gostau byw yn cynyddu, i bobl ifanc, mae e jyst yr abwyd ychwanegol yna i gael pobl falle jyst i roi eu troed yn y dŵr, fel Josh, gwneud cwrs byr deg wythnos wedyn sylweddoli ei fod e'n ymserchu, mewn gwirionedd, yn y Gymraeg.

    "Dyma fe heddi, yn brif ddysgwr ein 'Steddfod ni."

    Disgrifiad,

    Helen Prosser yn ymfalchïo yn llwyddiant Josh Osborne

  4. Dawnswyr Aberystwyth yn dathlu!wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn enillwyr cyson y gystadleuaeth Dawns Aml-Gyfrwng Bl.6 ac iau a nhw enillodd eto eleni.

    Roedd yna gryn ddathlu wrth y llwyfan canlyniadau a'r plant yn diolch i'w hyfforddwraig Rachel West.

    Roedd Adran Penrhyd yn ail ac Ysgol Gynradd Pentraeth yn drydydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Aduniad mwya’r ganrif?wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Gyda'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, bydd 'Gŵyl Triban' yn cael ei chynnal ar dridiau olaf yr Eisteddfod, gyda'r mudiad yn ei ddisgrifio fel "aduniad mwyaf y ganrif".

    Bydd y digwyddiad am ddim drwy'r tocyn cyffredinol i'r maes, gyda gwahoddiad i aelodau a chyn-aelodau, a bydd cerddoriaeth gan amrywiol artistiaid - yn eu plith Eden, Gwilym, Eädyth, Tara Bandito a N'Famady Kouyaté.

    triban
  6. Seren Cyw yn swyno'r plantwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae sawl un - gan gynnwys Penny o Bentrefelin - wedi mwynhau dawnsio gyda 'Huw Cyw' ar y gitâr heddiw!

    Penny yn dawnsio
  7. Yn gadeirydd pwyllgor gwaith am y cyfnod hwyaf erioed?wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Dyfan Phillips

    Wedi dwy flynedd o aros mae 'na gynnwrf ar y maes, medd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dyfan Phillips a phennaeth Ysgol y Llys, Prestatyn.

    "Mae 'di bod yn gyfnod hir yn ystod Covid, gymaint o ansicrwydd ond mae'r ffaith ein bod ni'n cael y buddsoddiad ariannol yn goblyn o hwb mawr i ddenu cynulleidfaoedd eang," meddai.

    "Mae cynnig mynediad am ddim i deuluoedd - mae'n dangos pa mor gynhwysol ydy'r Urdd fel mudiad.

    "Mae 'na garfan o blant ar draws ysgolion Cymru wedi colli allan felly roedd 'na hen edrych 'mlaen.

    "Dwi'n meddwl fod Cymru benbaladr yn falch o gael eisteddfod draddodiadol."

    Eistddfod dydd MawrthFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  8. Cryn edrych ymlaen at sioeau ieuenctid yr ardalwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mi fydd y sioe ysgolion uwchradd, Fi di Fi a ysgrifennwyd gan frawd a chwaer, Angharad Llwyd Beech ac Ynyr Llwyd, ar lwyfan y Pafiliwn Gwyrdd bnawn Mercher.

    "Y syniad oedd gen i bod y prif gymeriad, Gwennol, yn gaeth i gawell ei ffôn symudol," medd Angharad Llwyd Beech.

    "Mae yna gymeriad Fi Fawr a'i was bach Llygodan yn trio denu hi nôl fel bod hi ddim yn styc yn ei ffôn ond diolch byth mae ein Mr Urdd cyfoes ni yn lawrlwytho Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Edwards i ddod i achub yr hen Gwennol ac agor y gawell a dangos bod yna weithgareddau a ffrindiau a phob math o bethau diddorol eraill i'w gweld."

    Nos Iau fe fydd ’50 Shêds o Lleucu Llwyd’ a disgyblion cynradd Sir Ddinbych yn cyflwyno Ni yw y Byd.

    Yn ystod y noson cyflwynir trefniannau newydd sbon o alawon fydd yn cynnwys caneuon poblogaidd a chyfoes Gymraeg dros y degawdau.

    Roedd yna ofnau na fyddai cynulleidfa lawn yn gallu mynd i'r sioeau yn sgil problem iechyd a diogelwch ond mae'r broblem bellach wedi ei datrys.

    sioe
  9. Mae wedi bod yn ddiwrnod hir i'r cogyddion bach!wedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Dyfan yn coginio

    Mae Dyfan, o'r Preseli, wedi bod yn canolbwyntio wrth wneud y paratoadau olaf yn y gystadleuaeth coginio cyn i'r beirniad, Beca Lyne-Pirkis, ddod i flasu'r bwyd.

    Dyfan a Beca Lyne-Perkis
  10. Josh Osborne, 24, o Poole yw enillydd Medal y Dysgwyrwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022
    Newydd dorri

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Medal y Dysgwyr, Eisteddfod yr Urdd 2022, wedi cael ei ddyfarnu i Josh Osborne, 24, o Poole yn ne ddwyrain Lloegr.

    Mae Josh bellach yn byw yn Abertawe. Fe yw’r unig berson o’i deulu sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n diolch i’w gariad, Angharad, am ei ysbrydoli i gychwyn dysgu’r iaith gwta ddwy flynedd yn ôl.

    Mae Josh yn ennill ei fedal ar ôl diwrnod o dasgau a gafodd eu gosod i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y cystadleuwyr terfynol.

    Roedd hynny'n cynnwys paratoi neges i gyfryngau cymdeithasol Eisteddfod yr Urdd, gwneud sesiwn holi ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Robat Arwyn ynghyd â chyfweliad gyda beirniad y gystadleuaeth.

    Beirniad Medal y Dysgwyr, sy'n cael ei ddyfarnu i bobl ifanc 19-25 oed, oedd Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price.

    Mae'r Fedal yn cael ei rhoi gan Glwb Rotari Dinbych eleni, a'r seremoni yn cael ei noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

    Josh OsborneFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  11. Anna Ng, 18, o Gaerdydd yn ennill Medal Bobi Joneswedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022
    Newydd dorri

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae enillydd Medal Bobi Jones, Anna Ng, yn 18 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd.

    Mae hi wrthi’n astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg ar gyfer ei Lefelau A, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

    Mae ei chefndir yn un diddorol, gyda’i thad yn dod o Tseina a’i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna’r Alban.

    Mae mam Anna hefyd wedi dysgu'r Gymraeg, ac oherwydd bod ei mam yn ddall, wedi llwyddo i wneud hynny drwy gyfrwng Braille.

    Y ddau gystadleuydd arall a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones oedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful, Millie-Rae Hughes (ail) a Deryn-Bach Allen-Dyer (trydydd), a beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason

    Mae Medal Bobi Jones yn fedal gymharol newydd i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd.

    Fe'i rhoddwyd yn gyntaf yn 2019.

    Mae’r fedal yma yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

    AnnaFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  12. Codi twrw ar y maeswedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae gan griw Sistema Codi’r To, Ysgol Glancegin, ddigon o rythm! Bu'r criw yn diddanu'r dorf gyda'u offerynnau taro mewn un cornel o'r maes brynhawn dydd Mawrth.

    Disgrifiad,

    Wrth eu bodd yn perfformio yn yr Eisteddfod

  13. Gwneuthurwr y gadair: ‘Yr Urdd wedi meithrin fy nghreadigrwydd’wedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    CadairFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

    Rhodri Owen o Ysbyty Ifan yw gwneuthurwr y gadair.

    "Bu i gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Urdd chwarae rhan fawr wrth feithrin fy nghreadigrwydd fel plentyn," meddai Mr Owen.

    "Yn ddi-os mae'r un peth yn wir am filoedd o blant eraill ar draws y wlad.

    "Mae'r marciau ar y gadair yn rhifo 100, ac yn sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochr hefyd.

    "Mae'r panel gwaelod ar ffurf rhai o fryniau Clwyd a'r marciau lliwgar ar y panel mwyaf yn dynodi ieuenctid bywiog yr ardal ar siapiau llif afon.

    "Dwi'n gweld y lliwiau yma yn rhedeg drwy'r ffawydd fel yr Afon Clwyd yn tarddu o Hiraethog cyn rhedeg o un pen o'r sir i'r llall."

    Rhodri a'r gadairFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  14. Arddangosfa Celf yn rhyfeddu ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae Siwan o Fethesda a Hunter o Ddeiniolen wrth eu bodd yn gweld y campweithiau yr Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg.

    Siwan a Hunter yn yr Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg.
  15. Lili Mair yn ennill yr alaw werin eto!wedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Eisteddfod yr Urdd

    Llongyfarchiadau mawr i Lili Mair o Adran Pentreuchaf ar ennill yr alaw werin eto eleni - hi enillodd yn yr Eisteddfod T y llynedd hefyd ond roedd cael perfformio ar y maes yn "llawer brafiach", meddai.

    Yn ail yr oedd Cari o Ysgol Gynradd Bodedern ac yn drydydd Rhyddid Trystan o Ysgol Gynradd Bro Cernyw.

  16. Pum munud o hoe i Gwen o Grymychwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae crwydro'r maes yn waith blinedig i'r plantos. Diolch i Brifysgol Aberystwyth am wneud yn siŵr fod y bobl bach yn cael hoe!

    Gwen yn mwynhau hoe ar gadair anferth Prifysgol Aberystwyth
  17. Tirlun amaethyddol Dinbych wedi ysbrydoli creu’r Goronwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    coronFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

    Y gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon yw cynllunydd coron Eisteddfod yr Urdd 2022.

    "Gan ei bod hi'n ben-blwydd yr Urdd yn 100 oed eleni, wnes i ail-ddylunio'r goron oedd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2020 er mwyn adlewyrchu hynny," meddai Ms Evans.

    Dyma'r wythfed goron i Ms Evans ei dylunio, gan ddweud bod tirlun amaethyddol Dinbych a'r cyffiniau ac offer o fyd ffermio wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi.

    "Rwy'n ferch fferm ac roedd y peiriant torri gwair Bamford Major yn ysbrydoliaeth," meddai.

    "Dwi wedi defnyddio deunyddiau cyferbyniol sy'n creu drama yn y goron - copr ac arian sterling yw'r prif ddeunyddiau, ac mae'r cap melfed a sidan coch hyfryd yn ategu at y ddrama.

    "Mae'n goron fawreddog a dwi'n methu aros i'w gweld hi ar ben yr enillydd.”

    Catrin a'r GoronFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  18. Sefydlu Aelwyd Dyffryn Clwyd ar gyfer yr ŵylwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Ym mhentref Llanrhaeadr, mae côr Aelwyd Dyffryn Clwyd wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer eu cystadleuaeth nhw, ac yn edrych ymlaen at groesawu'r ŵyl i'w hardal.

    "'Dan ni'n aelwyd newydd sbon - gaethon ni'n sefydlu ym mis Hydref, Tachwedd 2019," meddai Ceri Haf Roberts, arweinydd y côr nôl ym mis Mawrth.

    "Wedyn wrth gwrs, byr iawn oedd y cyfle gaethon ni i ganu efo'n gilydd achos daeth Covid.

    "Ond 'dan ni 'di gallu ailgydio mewn pethau rŵan, felly mae'n gyfnod cyffrous iawn ac yn sicr mae 'na ymdeimlad o gynnwrf yn yr ardal."

    Mae cystadlaethau llwyfan i'r aelodau sydd rhwng 19 a 25 yn mynd yn syth i'r Genedlaethol yn Ninbych.

    Disgrifiad,

    Urdd: Aelodau'r aelwyd yn edrych ymlaen at eu heisteddfod gyntaf

  19. Gobeithio y bydd yr egni'n parhau ar y llwyfan!wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Mae'r criw yma o Adran Penrhyd, Rhydaman, yn gobeithio am fuddugoliaeth yn y Ddawns Amlgyfrwng Bl.6 ac iau.

    Dawnswyr Penrhyd
    Dawnswyr Penrhyd
  20. Mae cantorion cerdd dant o fri yn Yr Wyddgrug!wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022

    Awen ac Olive, o Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, ddaeth yn gyntaf ar y ddeuawd Cerdd Dant ac mae'r wên yn dweud y cyfan.

    Cai ac Efa Lois o Ysgol Gynradd Bodedern oedd yn ail ac Ela a Lili Cet o Ysgol Carreg Emlyn yn drydydd.

    Awen ac Olive