Mae pawb yn joio ar y maes!wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022
Mae'r Eisteddfod i bawb!
Dywed y trefnwyr bod ddoe wedi bod yn ddiwrnod hynod o brysur wrth i'r torfeydd heidio i Ddinbych.
Y cyffro wrth i flynyddoedd hŷn ysgolion cynradd gystadlu
Problem seddi'r tri phafiliwn wedi cael ei datrys
Josh Osborne, 24, o Poole yn ennill Medal y Dysgwyr
Anna Ng, 18, o Gaerdydd yn ennill Medal Bobi Jones
Yr Urdd yn cynnig gwyliau am ddim i deuluoedd difreintiedig
Mae'r Eisteddfod i bawb!
Dywed y trefnwyr bod ddoe wedi bod yn ddiwrnod hynod o brysur wrth i'r torfeydd heidio i Ddinbych.
Yn ogystal â Medal y Dysgwyr fe fydd Medal Bobi Jones yn cael ei chyflwyno heddiw hefyd.
Mae Medal Bobi Jones yn fedal gymharol newydd ac mae'n cael ei rhoi i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd.
Cafodd ei rhoi gyntaf yn 2019.
Mae’r fedal yma yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Noddir y seremoni a Medal Bobi Jones gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi er cof am y diweddar Athro Bobi Jones - cyn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un a wnaeth gymaint i hybu dysgwyr.
Mae'r stondinau bwyd yn prysuro, er, dydy hi ddim mor brysur â ddoe.
Ydy pawb wedi dychryn o weld ciwiau dydd Llun, tybed?
Eisteddfod yr Urdd
Awen o Ysgol Glanrafon oedd y llefarydd buddugol i flynyddoedd 5 a 6.
Roedd Siân-Elin o Ysgol Rhys Prichard yn ail ac yn drydydd yr oedd Taliesin o Ysgol Gynradd Llannon, Llanelli.
Cafodd Sion Elis, 2 oed o Sir Fôn 'Steddfod gyntaf i'w chofio.
Fe gododd Mistar Urdd ei law arno, ac fe gododd Sion bach ei fawd yn ôl!
Mae'r llwyfan canlyniadau yn fan poblogaidd ac yn llawn tensiwn... - ond mae 'na gryn ddathlu wedi i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.
Yn gynharach ym mis Mai fe wnaeth triban mawr ymddangos ar ochr bryn sy'n edrych dros dref Dinbych i dynnu sylw at yr ŵyl.
Mi gafodd y triongl sy'n mesur 160 metr o hyd a 60 metr o led ei adeiladu gan dîm o wirfoddolwyr, dan arweiniad Bryan Jones a Cledwyn Jones.
Mae'r triban wedi ennyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn holi lle mae'r lliw coch.
"Mae yna goch yna," meddai Bryan Jones, un o’r rhai sy’n gyfrifol amdano "ond efallai nad ydi o mor glir â hynny o bellter."
Wrth siarad yng Nghynadledd y Wasg, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddiolch i'r Urdd am roi cyfleoedd "unigryw" i blant a phobl ifanc dros y ganrif ddiwethaf.
Fe gyfeiriodd hefyd at ddatblygiad Prosiect Lles yr Urdd gafodd ei gyhoeddi yn gynharach ddydd Mawrth, sef pecyn o adnoddau i ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, hiliaeth, anabledd, ffitrwydd, gwirfoddoli a bwyta’n iach.
"Beth y'n ni'n gwybod yw o ran iechyd meddwl, mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfle i ymgysylltu â'n gilydd," dywedodd.
"O'dd lot fawr o bobl wedi cael cyfnodau heriol gyda'u hiechyd meddwl yn ystod y pandemig ac mae plant ifanc hefyd gyda lot o bwysau arnyn nhw.
"Mae'n bwysig ein bod ni felly yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw."
Parti Cwmafan a gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i Barti Unsain Bl.6 ac iau (Dysgwyr) ac roedden nhw wrth eu bodd.
Wrth gyhoeddi canlyniad cystadleuaeth Cyflwyniad Dramatig Bl. 6 ac iau dywedodd Mari Lovgreen bod y beirniaid wedi'u plesio'n fawr.
Ac fel hyn aeth hi:
Llongyfarchiadau mawr!
Roedd Gwennan o Ysgol Bro Teifi yn hapus iawn mai hi enillodd cystadleuaeth yr unawd Bl. 5 a 6 - fe gafodd hi lwyddiant ddoe hefyd yn canu'r delyn.
Cian o Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd oedd yn ail a Beatrice o Ysgol Twm o'r Nant yn drydydd.
Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ymhlith y rhai sy'n cynnig gwasanaeth piano ar y maes ac yn gynharach bu Ysgol Llanbrynmair yn manteisio ar y gwasanaeth ym mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth.
Wel yn 2006 ac enillydd y gadair oedd Eurig Salisbury.
Fe eleni a Peredur Lynch yw beirniaid cystadleuaeth y gadair.
Yn 2004 roedd Eurig yn ail am y gadair ac un o'i ddisgyblion cynganeddol a enillodd - Hywel Griffiths.
Tywydd
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Francesca Sciarillo o'r Wyddgrug oedd enillydd Medal y Dysgwyr, Eisteddfod yr Urdd 2019.
Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd bod y wobr wedi "newid ei bywyd".
"I fi, yn tyfu i fyny, ro'n i wastad yn gweld yr Eisteddfod yn mynd ymlaen ac ro'n i isio cymryd rhan, ac ro'n i'n teimlo am mai dysgwr ydw i mai'r peth mwyaf Cymraeg mewn ffordd ydi cystadlu yn yr Eisteddfod.
"Byddaf yn gallu ystyried fy hun fel siaradwr Cymraeg yn lle dysgwr Cymraeg os ydw i'n mynd i'r Eisteddfod ac ymgolli fy hun yn y profiad.
"Mi wnaeth o newid fy mywyd a dwi mor ddiolchgar amdano."
Bydd enillydd y fedal eleni yn cael ei ddatgelu yn ddiweddarach ddydd Mawrth, wrth i'r cystadleuwyr barhau i gael eu hasesu yn ystod y dydd.
Mae Lleucu o Ruthun yn barod i ymuno â’r syrcas ar ôl cael tro ar wahanol driciau yn Nhipi Comisiynydd Plant Cymru.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae'r ateb gan y Llyfrgell Genedlaethol!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod yr Urdd
Enillwyr y Parti Unsain i Flwyddyn 6 ac iau (Dysgwyr) oedd Parti Cwmafan, roedd Parti Padarn yn ail a Pharti Unsain Penygloddfa yn drydydd.
Roedd yna gryn ddathlu ymhlith aelodau Adran Bro Alaw, Ynys Môn hefyd - nhw enillodd y gystadleuaeth i'r Grŵp Cerddoriaeth Greadigol Bl. 6 ac iau, roedd Grŵp Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn ail a Grŵp Ysgol Santes Helen, Caernarfon yn drydydd.
Yn dilyn trafferthion ddydd Llun gyda seddi'r tri phafiliwn, mae 'na ddigon o le yno heddiw.
Mae'r Pafiliwn Gwyn yn prysur lenwi wrth i gystadlaethau'r Ddawns Greadigol Bl.6 ac Iau a'r unawd llinynnol ddenu'r dorf.
Mae 'na ambell sedd sbâr hefyd!
Bydd 'na blant gwyllt ar y maes heddiw... mae'r candi-fflos wedi cyrraedd.
Byddwch yn barod, rieni!
Wedi'r cystadlu ddydd Llun rhanbarthau Eryri ac Ynys Môn sydd ar y blaen o ran y medalau - ond fe all y sefyllfa newid heddiw.
Mae canlyniadau'r dydd i'w gweld ar ap yr Eisteddfod.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.