Oes lle am gystadleuaeth fach arall?wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2022
Mae Iago o Ruthun yn cynnal sioe ei hun tu allan y Pafiliwn Coch! Petai 'na gystadleuaeth dringo polyn, byddai'n siŵr o ennill y wobr gyntaf.
Y cyffro wrth i flynyddoedd hŷn ysgolion cynradd gystadlu
Problem seddi'r tri phafiliwn wedi cael ei datrys
Josh Osborne, 24, o Poole yn ennill Medal y Dysgwyr
Anna Ng, 18, o Gaerdydd yn ennill Medal Bobi Jones
Yr Urdd yn cynnig gwyliau am ddim i deuluoedd difreintiedig
Mae Iago o Ruthun yn cynnal sioe ei hun tu allan y Pafiliwn Coch! Petai 'na gystadleuaeth dringo polyn, byddai'n siŵr o ennill y wobr gyntaf.
Mae’n braf bod nôl, meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.
“Dydyn ni ddim wedi cael Eisteddfod, wrth gwrs, ers 2019 a wir i chi ro’dd y tebot ar goll.
“Mae mor braf cael cyfarfod wyneb yn wyneb â phawb eto a’i bod yn ddiogel i wneud hynny.
“Mae yna groeso cynnes i bawb yn stondin Merched y Wawr.”
Dyw'r cymylau 'na ddim am stopio Awen, Tegid a Cadog o Gaerdydd rhag cael diwrnod i'w gofio ar y maes.
Gydag ystadegau yn dangos fod 1 o bob 5 disgybl yng Nghymru yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim dywed prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, bod y mudiad “am sicrhau fod plant a phobl ifanc o bob cefndir cymdeithasol yn cael cynnig gwasanaethau’r Urdd”.
“Mae’r mudiad yn chwilio’n barhaus am ddulliau arloesol i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy’r Urdd.”
Y llynedd fe wnaeth yr Urdd gynnig aelodaeth blwyddyn i blant ysgol o gefndiroedd difreintiedig am £1.
Fore Mawrth fe gyhoeddodd yr Urdd bod cyfle i 200 o blant a phobl ifanc o deuluoedd difreintiedig fwynhau gwyliau am ddim yn unrhyw un o Wersylloedd Haf yr Urdd eleni, diolch i gefnogaeth a haelioni cefnogwyr yr Urdd.
Sefydlwyd Cronfa Cyfle i Bawb gan yr Urdd yn 2018, er mwyn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Cynhelir cyrsiau i bob grŵp oedran yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn ystod gwyliau’r haf eleni.
Yn ogystal â thalu am drafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn neu berson ifanc, mae’r Gronfa yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes.
Mae modd i rieni neu athrawon fel ei gilydd wneud cais i’r Gronfa ar ran plentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel drwy wefan yr Urdd: urdd.cymru/cronfa, dolen allanol.
Mae Mistar Urdd yn ffyddiog bod awyr las ar y ffordd
Tri pheth i’w wneud heddiw!
BBC Radio Cymru
Mae Ffion Emyr wrth ei bodd yn yr Eisteddfod - ac mae hi fel gohebwyr Cymru Fyw yn crwydro'r maes ac yn rhoi blas i chi o'r arlwy ar raglenni Radio Cymru.
Mae'r prif gystadlaethau hefyd i'w clywed ar raglenni'r dydd.
Mae prif weithredwr S4C, Sian Doyle hefyd yn dweud gair yn y gynhadledd gan ganmol y bartneriaeth gyda'r Urdd.
Bydd hynny'n cynnwys darlledu 185 awr ar draws eu platfformau o'r Eisteddfod yr wythnos yma.
"'Dyn ni'n ddiolchgar am y bartneriaeth ac yn edrych ymlaen at y cynnwys dros y ddwy, dair blynedd nesaf wrth i ni helpu'r Gymraeg," meddai.
Heddiw, mae'r Urdd yn cyhoeddi pecyn o adnoddau i ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, hiliaeth, anabledd, ffitrwydd, gwirfoddoli a bwyta’n iach.
Mae’r adnoddau wedi’u creu gan yr Urdd, Chwaraeon Anabledd Cymru, Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth ac arbenigwyr yn y maes gyda chefnogaeth gan y Llywodraeth.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Beth y'n ni'n ymwybodol ohono yw bod nifer o bobl ifanc erbyn heddi yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a ni'n gw'bod bod chwaraeon yn helpu gyda hynny.
"Hoffen i dalu teyrnged [i’r Urdd] am yr holl waith dros y can mlynedd diwethaf, ond yn sicr am y gwaith anhygoel yn ystod y pandemig, maen nhw wedi codi i’r sialens ac wedi neud gwaith anhygoel ac erbyn heddi mae clybiau maen nhw yn rhedeg wedi ailagor - 300 o glybiau a 11,000 o blant."
Y cyfansoddwr a'r cerddor, Robat Arwyn, yw Llywydd y Dydd ddydd Mawrth.
Dywedodd ei fod yn "falch ofnadwy o’r cyfle i gydnabod rhan yr Urdd yn fy natblygiad fel cyfansoddwr".
Mae Robat wedi ennill y Fedal Gyfansoddi ddwywaith ym 1983 a 1984, wedi ysgrifennu sioeau cerdd ac mae'n gyfarwydd iawn gyda gweld a chlywed ei ganeuon yn ymddangos o flwyddyn i flwyddyn yn y rhestr testunau.
Ond, dywedodd ei fod yn gwneud iddo deimlo'n hen!
Mae Siân Eirian hefyd wedi cadarnhau bod y broblem gyda seddi yn y pafiliynau bellach wedi ei datrys.
Roedd dros 1,000 o seddi ddim ar gael i'w defnyddio ddoe oherwydd problem iechyd a diogelwch gyda'r rhai yng nghefn y pafiliynau oedd ar sgaffaldiau.
Mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn agor cynhadledd y wasg ddydd Mawrth gan ddweud eu bod nhw'n credu mai ddoe oedd y "dydd Llun prysuraf i ni gael erioed yn Eisteddfod yr Urdd".
Mae hi hefyd yn canmol enillydd ieuengaf erioed un o brif gystadlaethau'r Urdd - Shuchen Xie, 12, wnaeth gipio'r Fedal Gyfansoddi ddoe.
Mae Anest o Bontsenni yn cael cyfle am un ymarfer bach sydyn cyn cystadlu yn yr unawd blwyddyn 5 a 6.
Dyna'r gystadleuaeth gyntaf yn y Pafiliwn Coch ddydd Mawrth.
Does dim rhagbrofion eleni - yn hytrach, mae pob un o'r cystadleuwyr sydd wedi llwyddo yn yr eisteddfodau cylch a sir yn cael perfformio ar un o dri llwyfan ar y maes - yn hytrach na'r un prif bafiliwn arferol.
Ond mae dros 1,000 o seddi ym mhafiliynau Eisteddfod yr Urdd - hanner y capasiti - wedi gorfod cael eu cau oherwydd problem iechyd a diogelwch.
Cafodd y mudiad wybod ddiwedd wythnos ddiwethaf bod yr holl seddi ar oledd yn y tri phafiliwn ddim yn saff i'w defnyddio.
Daw hynny yn dilyn problem gydag eisteddle mewn digwyddiad gafodd ei osod gan yr un contractwyr sy'n darparu seddi'r eisteddfod.
Dywedodd yr Urdd eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra", a wnaeth arwain at gannoedd yn ciwio y tu allan yn ystod y dydd.
Ar Dros Frecwast dywedodd y prif weithredwr Sian Lewis ei bod yn gobeithio y bydd y broblem yn cael ei datrys heddiw.
“Yn sicr mae’r broblem allan o’n dwylo ni. Fe gafon ni nifer fawr o drafodaethau ddoe efo HSC sydd yn rheoli yr holl ddigwyddiad o’r ochr yna.
"Dwi’n hyderus y bydd y broblem wedi ei datrys.
"Mae’n bwysig nodi hefyd nad oedd dim un person wedi colli allan ar weld eu plant a phobl ifanc yn cystadlu ac o gael y cyffro yna a’r mwynhad.
"Felly yn sicr 'dan ni yn gobeithio erbyn heddi y bydd y broblem wedi ei datrys. Byddwn ni yn cael diweddariad yn fuan."
Plant hŷn yr ysgolion cynradd fydd wrthi ddydd Mawrth.
Mae unawdau blwyddyn 5 a 6 wedi dechrau yn y Pafiliwn Coch a'r cyflwyniadau dramatig yn eu hanterth yn y Pafiliwn Gwyrdd.
Bydd 'na sawl cyfle am hoe ac ychydig o gerddoriaeth gyda'r unawd llinynnol Bl.6 ac iau am 11:40 yn y Pafiliwn Gwyn a'r unawd pres am 14:45 yn y Pafiliwn Coch.
Y corau a'r caneuon actol fydd yn cloi'r dydd.
Cofiwch, gallwch chi ddod o hyd i restr lawn o'r holl gystadlaethau ar ap Eisteddfod yr Urdd.
Os nad yn gyrru i’r maes mae modd mynd ar fws wennol o Ddinbych.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu gwasanaeth bws wennol i gludo pobl sy’n parcio yng nghanol tref Dinbych draw i Faes Eisteddfod yr Urdd, yn rhad ac am ddim.
Mae’r gwasanaeth bws yn ychwanegol at y maes parcio swyddogol a drefnir gan yr Urdd ger y Maes ar Ffordd yr Eglwys Newydd, tuag at gyfeiriad Llandyrnog.
Bydd y gwasanaeth bws yn rhedeg o ddydd Llun, 30 Mai tan ddydd Sadwrn, 4 Mehefin gan ddechrau ym Mhwll y Grawys, Dinbych am 08.15 a bydd yn gweithredu bob hanner awr, gan deithio ar hyd Stryd y Dyffryn a Ffordd Rhuthun i’r Maes a galw ym mhob safle bws ar hyd y ffordd.
Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 18.45 ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.
Bydd bysys ychwanegol yn gweithredu ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, er mwyn cludo pobl fydd yn dymuno mynychu Gwyl Triban ar y Maes.
Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 20.15. Bydd y bws olaf a drefnwyd yn gadael y Maes ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher am 1900, a gadael am 22.30 ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.
Roedd hi braidd yn lawog ben bore ond mae tywydd gwell i ddod.
Mae'n rhaid cael paned yn does wedi cyrraedd y maes ac roedd y stondin hon yn hynod boblogaidd!
Croeso i ail ddiwrnod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Roedd diwrnod cyntaf yr eisteddfod yn hynod lwyddiannus gyda sawl elfen newydd wedi’i chyflwyno yn sgil eu llwyddiant yn yr Eisteddfod-T yn ystod y pandemig.
Blynyddoedd hŷn yr Ysgol Gynradd fydd yn cystadlu heddiw ac mae’n ddiwrnod cyflwyno Medal y Dysgwyr.
Mae gohebwyr Cymru Fyw yn parhau ar y maes.
Arhoswch gyda ni i gael y diweddaraf.