Crynodeb

  • Rob Page wedi cyhoeddi enwau'r 26 o chwaraewyr fydd ar yr awyren i Qatar

  • Y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ardal enedigol Page - Pendyrus yng Nghwm Rhondda

  • Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd ers 1958

  • Bydd gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn UDA ar 21 Tachwedd

  1. 'Rhywun wastad yn mynd i fod yn siomedig'wedi ei gyhoeddi 19:16 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Mae Rob Page wedi bod yn egluro ei benderfyniadau mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales.

    "Y peth gwaethaf am y swydd yma ydy siomi'r rhieny sydd ddim yn y 26," meddai.

    "Y gweddill, dydw i heb ffonio nhw yn dweud eu bod nhw mewn - roedd well gen i iddyn nhw ddarganfod yr un pryd â phawb arall.

    "Mae hynny'n neis iddyn nhw'i weld, ond ar yr ochr arall mae rhywun wastad yn mynd i fod yn siomedig.

    "Dwi wedi cael cwpl o sgyrsiau anghyfforddus - rhai oherwydd anafiadau, rhai oherwydd dewisiadau.

    "Mae'n rhaid i ni symud 'mlaen nawr a dewis y garfan fydd yn gallu cystadlu ac ennill gemau i ni."

    PageFfynhonnell y llun, PA Media
  2. Pa chwaraewyr sy'n colli allan?wedi ei gyhoeddi 19:14 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedden ni eisoes yn gwybod na fyddai Rhys Norrington-Davies yn y garfan oherwydd anaf, ac mae'n debyg mai dyna'r rheswm pam fod Tyler Roberts yn absennol hefyd.

    Yr enwau amlycaf eraill sy'n colli allan ydy Rabbi Matondo a Wes Burns.

    Does dim lle chwaith i rai o'r enwau mwy anghyfarwydd oedd yn cael eu hystyried fel opsiynnau, fel Luke Harris, Joe Jacobson, Oli Cooper a Nathan Broadhead.

    ChwaraewyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Carfan brofiadolwedi ei gyhoeddi 19:11 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Mae Rob Page wedi dewis carfan cymharol brofiadol - dim ond pump o'r chwaraewyr sydd wedi ennill llai na 10 cap dros Gymru.

    Mae 'na dri sydd wedi ennill dros 100 o gapiau - Chris Gunter, Gareth Bale a Wayne Hennessey.

    Ac mae hyd yn oed rhai o aelodau ieuengach y garfan, fel Chris Mepham, Ethan Ampadu, Harry Wilson, Joe Morrell a Dan James, i gyd â dros 30 o gapiau er nad ydy'r un ohonyn nhw'n hŷn na 25 oed.

    Mae llawer o'r bygythiad ymosodol yn dal i ddod gan Gareth Bale (40 gôl) ac Aaron Ramsey (20).

    Ond ag eithrio'r golwyr, mae dros hanner y garfan wedi sgorio gôl ryngwladol dros Gymru.

  4. Y garfan yn llawnwedi ei gyhoeddi 19:08 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    carfan Cymru
  5. Ymosodwyrwedi ei gyhoeddi 19:06 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Gareth Bale - Los Angeles FC, 108 cap, 40 gôl

    Kieffer Moore - Bournemouth, 29 cap, 9 gôl

    Mark Harris - Caerdydd, 5 cap

    Brennan Johnson - Nottingham Forest, 15 cap, 2 gôl

    Dan James - Fulham (ar fenthyg o Leeds), 38 cap, 5 gôl

    YmosodwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Canol caewedi ei gyhoeddi 19:06 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Sorba Thomas - Huddersfield, 6 cap

    Joe Allen - Abertawe, 72 cap, 2 gôl

    Matthew Smith - Milton Keynes Dons, 19 cap

    Dylan Levitt - Dundee United, 13 cap

    Harry Wilson - Fulham, 38 cap, 5 gôl

    Canol caeFfynhonnell y llun, Getty Images

    Joe Morrell - Portsmouth, 30 cap

    Jonny Williams - Swindon, 32 cap, 2 gôl

    Aaron Ramsey - Nice, 75 cap, 20 gôl

    Rubin Colwill - Caerdydd, 7 cap, 1 gôl

    Canol caeFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Amddiffynwyrwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Ben Davies - Tottenham Hotspur, 74 cap, 1 gôl

    Ben Cabango - Abertawe, 5 cap

    Tom Lockyer - Luton, 14 cap

    Joe Rodon - Rennes (ar fenthyg o Tottenham Hotspur), 30 cap

    Chris Mepham - Bournemouth, 33 cap

    AmddiffynwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ethan Ampadu - Spezia (ar fenthyg o Chelsea), 37 cap

    Chris Gunter - AFC Wimbledon, 109 cap

    Neco Williams - Nottingham Forest, 23 cap, 2 gôl

    Connor Roberts - Burnley, 41 cap, 3 gôl

    AmddiffynwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Golwyrwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Wayne Hennessey - Nottingham Forest, 106 cap

    Danny Ward - Caerlŷr, 26 cap

    Adam Davies - Sheffield United, 3 cap

    GolwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Y cyhoeddiad ar fin cael ei wneud...wedi ei gyhoeddi 19:04 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Dy'n ni ar fin cael gwybod pwy fydd y chwaraewyr fydd yn cynrychioli Cymru mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

    Pwy fydd y 26 chwaraewr lwcus? Dy'n ni ar fin darganfod!

  10. Ychydig funudau'n unig i fynd...wedi ei gyhoeddi 19:03 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Dilynwch y cyhoeddiad gyda BBC Cymruwedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn ogystal â dilyn y cyhoeddiad ar ein llif byw, mae modd gwylio'r cyfan ar BBC One Wales, neu wrando ar y cyfan ar BBC Radio Cymru.

    Neu fe allwch chi wrando ar Radio Cymru tra'n dilyn ein llif, trwy glicio ar yr eicon ar dop y dudalen o 19:00 ymlaen.

  12. Pryd mae gemau Cymru yn Qatar?wedi ei gyhoeddi 18:55 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Gyda gemau Cwpan y Byd yn dechrau ar 20 Tachwedd, does dim rhaid i Gymru ddisgwyl yn hir ar gyfer eu blas cyntaf o Gwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd.

    Fe fydd Cymru'n chwarae ar ddydd Llun 21 Tachwedd, dydd Gwener 25 Tachwedd a dydd Mawrth 29 Tachwedd.

    Mae Cymru wedi'u gosod yng ngrŵp B, gyda'r Unol Daleithiau, Iran a Lloegr, a bydd dau o'r grŵp yn camu ymlaen i rownd yr 16 olaf.

    Bydd holl gemau grŵp Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Stadiwm Al-Rayyan.

    Gemau Cymru
  13. Pwy sy'n ansicr o'u lle ar yr awyren?wedi ei gyhoeddi 18:49 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    26 o chwaraewyr fydd yn rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd, ac mae'r mwyafrif llethol o'r rheiny yn benderfyniadau hawdd i Rob Page.

    Ond pwy ydy'r chwaraewyr hynny sy'n fwy ansicr o'u lle ar yr awyren?

    Dyw Rubin Colwill ddim wedi bod yn chwarae'n gyson i Gaerdydd yn ddiweddar oherwydd anaf, ac mae Tyler Roberts hefyd wedi bod yn absennol i QPR am yr un rheswm.

    Ydy Rabbi Matondo wedi creu digon o argraff yn Ranger eleni i sicrhau ei le yn y garfan?

    Un fydd yn bendant yn absennol oherwydd anaf ydy Rhys Norrington-Davies, felly a fydd hynny'n agor y drws i rhywun fel Wes Burns neu Tom Lockyer?

    Enwau newydd i'r garfan ydy Luke Harris o Fulham a Joe Jacobson o Birmingham - a fydd lle iddyn nhw?

    Neu a fydd rhywun yn cael eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf, fel Nathan Broadhead o Wigan neu Oli Cooper o Abertawe?

    Cawn ddarganfod yn ddigon buan!

    Tyler Roberts, Rubin Colwill a Wes BurnsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd Tyler Roberts, Rubin Colwill a Wes Burns ar yr awyren i Qatar?

  14. Beth 'dan ni’n ei wybod am wrthwynebwyr Cymru?wedi ei gyhoeddi 18:42 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yr Unol Daleithiau, Iran a Lloegr fydd gwrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp B yng Nghwpan y Byd Qatar.

    Ond gyda'r bencampwriaeth lai na phythefnos i ffwrdd, faint ydych chi'n ei wybod am y timau y bydd Cymru'n eu herio?

    Ein gohebydd Iolo Cheung sy'n cyflwyno'r holl wybodaeth fydd ei angen arnoch chi cyn y gemau allweddol ar 21, 25 a 29 Tachwedd.

    Disgrifiad,

    Beth 'dan ni’n ei wybod am wrthwynebwyr Cymru?

  15. Page yn dyheu am Kevin De Bruyne!wedi ei gyhoeddi 18:36 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn gynharach heddiw, tra'n agor cyfleusterau 3G newydd yn Nhreherbert, fe gafodd ddisgyblion Ysgol Gynradd Penyrenglyn gyfle i holi ambell gwestiwn i Rob Page.

    Un cwestiwn i reolwr Cymru oedd, pe bai'n gallu dewis unrhyw chwaraewr o wlad arall i gynrychioli Cymru, pwy fyddai hwnnw?

    Ei ateb? Chwaraewr canol cae Manchester City a Gwlad Belg - Kevin De Bruyne.

    Gyda Chymru wedi chwarae yn ei erbyn sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, ag yntau wedi sgorio deirgwaith yn y gemau hynny, dy'n ni'n deall pam!

    Bale a De BruyneFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. 'Gallen ni fod wedi gwerthu 1,000 o docynnau!'wedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Mae rheolwr Neuadd Les Tylorstown, Rebecca Sullivan, yn dweud bod y pentref cyfan mor falch o gael y cyhoeddiad yn digwydd fan hyn heno.

    "Naethon nhw gysylltu rai misoedd yn ôl [i ofyn am ddefnyddio'r lle] felly mae e wedi bod dan fy het ers sbel!" meddai.

    "Ond do'n ni ddim yn disgwyl cymaint o hype â hyn i fod yn onest.

    "Naethon ni ond ddweud wrth y cyhoedd ryw wythnos yn ôl, ac fe wnaeth y tocynnau werthu mas o fewn yr awr.

    "Ers 'ny mae wedi bod yn bonkers, pawb isie tocyn, yn gofyn 'c'mon, jyst fi yw e, gad fi mewn!' - gallen ni fod wedi gwerthu 1,000 o docynnau.

    "Mae e'n wych i bobl leol ac mae pawb isie bod yn rhan ohono fe."

    Rebecca Hall
  17. Fydd Joe Allen yn holliach i deithio i Qatar?wedi ei gyhoeddi 18:26 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Un sy'n gobeithio bod yn ddigon iach i gael ei enwi yn y garfan heno ydy Joe Allen.

    Dyw'r chwaraewr canol cae heb ymddangos i Abertawe ers iddo anafu llinyn y gar fis Medi.

    Mae rheolwr yr Elyrch, Russell Martin wedi cadarnhau na fydd yn chwarae iddyn nhw cyn Cwpan y Byd, ond mae Cymru'n gobeithio y bydd ar gael i deithio fel rhan o'r garfan i Qatar.

    Y cwestiwn mawr ydy a fydd yn barod ar gyfer y gêm gyntaf mewn 12 diwrnod, ac os ddim, a fydd yn cael ei ddewis os na fydd ar gael nes yn hwyrach yn y gystadleuaeth?

    Joe Allen
  18. Dwylo i fyny os 'dych chi'n mynd i Qatar!wedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Llai nag awr i fynd nes y cyhoeddiad, ac mae Neuadd Les Tylorstown yn prysur lenwi!

    Neuadd
  19. Agor cae 3G newydd yn swyddogolwedi ei gyhoeddi 18:16 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Bore 'ma bu Rob Page yn Ysgol Gynradd Penyrenglyn yn Nhreherbert, ble roedd plant ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed.

    Roedd yn cael ei gynnal ar y cyfleusterau 3G newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yna - a rheolwr Cymru yno i'w agor yn swyddogol heddiw.

    Rob Page ar ei ymweliad ag Ysgol Penyrenglyn
  20. Gwrandewch ar y dadansoddi ar Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 18:09 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn ogystal â dilyn y llif byw, bydd hefyd cyfle i wrando ar yr holl ddadansoddi mewn rhaglen arbennig heno ar BBC Radio Cymru rhwng 19:00-19:30.

    Dyma ohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr i egluro mwy.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter