Pedwerydd enw i'r rhestr...wedi ei gyhoeddi 21:00 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022
John Charles.
Ivor Allchurch.
Terry Medwin.
Gareth Bale.
Dyw'r rhestr o chwaraewyr Cymru i sgorio yng Nghwpan y Byd ddim yn hir!
Gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022
Tim Weah yn sgorio unig gôl yr hanner cyntaf i UDA
Gareth Bale yn sgorio o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill
Bydd Cymru'n herio Iran ddydd Gwener, ac yna Lloegr nos Fawrth nesaf
John Charles.
Ivor Allchurch.
Terry Medwin.
Gareth Bale.
Dyw'r rhestr o chwaraewyr Cymru i sgorio yng Nghwpan y Byd ddim yn hir!
Dau funud i fynd - fydd 'na gyfle i rhywun fod yn arwr?
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae wedi aeddfedu yn y gêm yma, a chyfrifoldeb dros dri chwaraewr arall.
Mae wedi bod yn gampus.
Ethan Ampadu yw'r diweddaraf i fynd o'r maes i Gymru - Joe Morrell ymlaen yn ei le.
Roedd Ampadu wedi cael anaf, felly mae hynny'n siŵr o fod wedi cael dylanwad.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae o wedi trawsnewid y gêm efo'i bresenoldeb, efo'i waith o ddal y bêl i fyny a dod â chwaraewyr eraill i mewn i'r gêm.
Ry'n ni'n siŵr fod golygfeydd fel hyn ledled Cymru pan aeth i gic o'r smotyn 'na mewn!
Dydw i ddim yn siŵr sut y daethon nhw i'r penderfyniad, ond mae 'na ddigonedd o amser am fwy o goliau!
Yng nghanol hynny, mae Sorba Thomas yn dod i'r maes i gymryd lle Harry Wilson.
Hanner cyfle i Brennan Johnson, ond roedd yr ongl yn rhy gul, ac i ddwylo'r golwr aeth yr ergyd.
Mae'r chwarae'n mynd o ochr i ochr - mae'r ddau dîm eisiau ennill hon!
Ar ôl y siom, mae'r cefnogwyr yn y stadiwm wedi cael ail wynt.
Mae Yma o Hyd i'w chlywed eto!
Nic Parry
Sylwebydd Sgorio ar S4C
Mae Cymru wedi sgorio yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Does dim amheuaeth ar allu Gareth Bale i ddeffro torf.
Mae Cymru’n gyfartal - ond maen nhw’n teimlo gallen nhw gymryd un cam arall.
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Y peth cynta' 'naeth e - gweld a sicrhau bod rhaid taflu'r bêl yn gyflym.
Dylan Griffiths
Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar
Y capten - y chwaraewr sy'n haeddu bod ar y lefel ucha' un.
Prif sgoriwr hanes pêl-droed Cymru
Oes 'na gyfle rwan i Gymru ennill y gêm yma?
Cic wych o'r smotyn gan arwr Cymru!
Mae Cymru'n gyfartal!
Gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958!
Gwaith da gan Aaron Ramsey yn cael y bêl i mewn i'r cwrt cosbi, ac mae 'na drosedd ar Gareth Bale!
Cic o'r smotyn i Gymru, a'r capten sydd am ei chymryd...
Mae Brennan Johnson ymlaen i Gymru, a Neco Williams sy'n gadael y maes.
Ychydig dros 10 munud sydd gan ymosodwr Nottingham Forest i greu argraff...
Dyw Williams methu credu mai ef sy'n gorfod dod i ffwrdd, ond mae'n edrych fel newid tacteg i Gymru - pedwar yn y cefn yn hytrach na phump.
Chwarter awr i fynd - all Gymru ganfod y gôl allweddol 'na?
Mae Rob Page yn paratoi i wneud newidiadau...
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae Ramsey'n edrych yn flinedig ac angen i Bale adael y cae.
Mae 20 munud i fynd, mae angen unioni'r sgôr.
Ry'n ni wedi cael dau gyfle euraidd, ond ers hynny, dim byd.
Osian Roberts
Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C
'Dan ni 'nôl yn y gêm. 'Dan ni’n cnocio ar y drws, ddim yn rhoi lle nac amser i’r Unol Daleithiau.
Mae’r handbrake wedi dod i ffwrdd – 'dan ni’n edrych yn ddewr ar y bêl.
'Dan ni’n achosi problemau, ond wrth gwrs bydd Rob Page yn edrych ar yr amser ac yn meddwl a ydy hi'n amser edrych ar rhywun fel Brennan Johnson i ddod ymlaen i gael gôl?
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae'r bêl yn mynd o un cwrt cosbi i'r llall - mae'r tempo wedi codi.