a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch a nos da

    Pwynt o'r gêm gyntaf felly. Mae gemau cyfartal weithiau yn gallu teimlo fel colled, ond yn teimlo fel buddugoliaeth ar adegau eraill.

    Wedi'r perfformiad trychinebus yn yr hanner cyntaf, roedd hon yn bendant yn teimlo'n nes at fuddugoliaeth na cholled.

    Cofiwch hefyd fod yr Unol Daleithiau yn uwch na Chymru yn netholion FIFA, a nhw oedd y ffefrynnau o dipyn heddiw.

    Fel sydd wedi digwydd degau o weithiau yn y gorffennol, Gareth Bale oedd yr arwr - ei gic o'r smotyn yn arwain at gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958.

    Fe allwch chi ddarllen yr adroddiad yn llawn ar ein hafan.

    Fe fyddwn ni 'nôl fore Gwener ar gyfer y gêm yn erbyn Iran, ble bydd Cymru'n siŵr o fod yn ffefrynnau i gipio'r triphwynt.

    Os lwyddan nhw i wneud hynny, fe fyddai'n hwb anferth i'w gobeithion o orffen yn y ddau uchaf yn y grŵp a sicrhau eu lle yn yr 16 olaf.

    Ond am heno, ar noson emosiynol, diolch yn fawr am ddilyn ein llif byw, a hwyl fawr tan y tro nesa'.

    Bale
  2. Sedd orau'r stadiwm i gefnogwr Cymru?

    "O'n i reit tu ôl y gôl ar gyfer y penalty," dywedodd Ffion Tasker o Ruthun.

    "Pan aeth hwnna mewn oedd o'n anhygoel. Mae 'di bod yn bleser bod yma."

    Ffion
  3. Beth nesaf i Gymru?

    Mae Cymru wedi disgwyl 64 o flynyddoedd am gêm yng Nghwpan y Byd, ond does 'na ddim llawer i'w ddisgwyl tan y nesaf!

    Pryd mae gweddill y gemau grŵp, felly?

    Bydd Cymru'n herio Iran fore Gwener, cyn wynebu Lloegr ddydd Mawrth nesaf.

    Cofiwch fod modd dilyn y gemau hynny ar ein llif byw - grêt os dy'ch chi yn y gwaith fore Gwener!

    Amserlen gemau Cymru
  4. 'Ddim isio' byw drwy gêm fel 'na eto!'

    Wrth adael y stadiwm, roedd Geraint Lovgreen yn bendant nad oedd eisiau gweld gêm fel ‘na eto!

    “Chwarae teg, naeth Kieffer Moore ddod mlaen a 'naeth y gêm newid.

    "O’n i’n falch iawn o gael pwynt yn y diwedd.”

    Geraint Lovgreen
  5. Davies: 'Rhaid i ni fod yn hapus gyda phwynt'

    Y diweddaraf i siarad gyda'r wasg ydy Ben Davies: "Yn bod yn realistig, mae'n rhaid i ni fod yn hapus gyda phwynt ar ôl y ffordd dechreuon ni'r gêm.

    "Doedd hi ddim yn hawdd mas 'na - dim hynny ddangoson ni i gyrraedd Cwpan y Byd ac roedden ni'n gwybod ein bod hi'n haeddu bod ar ei hôl hi.

    "Fe ddangoson ni'r ochr arall yn yr ail hanner, ac yn y diwedd ry'n ni bach yn siomedig ein bod ni heb fanteisio ychydig yn fwy.

    "Fe wnaeth Lloegr chwarae'n dda heddiw, felly wnawn ni ddim tanystyried safon Iran - ry'n ni'n gwybod y bydd hi'n gêm anodd, yn sicr."

    Ben Davies
  6. 'Dal mewn sioc!'

    “Oedd o’n anhygoel, dwi’n meddwl bod ni dal mewn sioc," dywedodd Nel Griffith.

    "Roedd y profiad o gyrraedd yma, y gêm, yr excitement… oedd o’n amazing."

    Nel a Beth
    Image caption: Nel a Beth wrth adael y stadiwm

    Dywedodd Beth Jones fod “canu’r anthem jyst yn hollol bwerus".

    "'Naeth Bale ddod drwodd, ‘dan ni wastad yn gallu dibynnu ar Bale.”

  7. 'Chi wastad yn mynd i gael tipyn o nerfau'

    Oedd capten Cymru yn nerfus cyn y gic o'r smotyn 'na felly?

    "Dy'ch chi wastad yn mynd i gael tipyn o nerfau, ond mae gen i hyder yn fy ngallu.

    "Fi sy'n cymryd y ciciau o'r smotyn - fi sydd angen cymryd cyfrifoldeb.

    "Weithiau dy'ch chi'n methu, ond y peth pwysig ydy cymryd y cyfrifoldeb dros eich gwlad, ac yn ffodus, aeth e mewn heddiw."

    Bale
  8. Ar bigau'r drain ar ôl cyrraedd Doha hanner awr cyn y gêm!

    Dim ond hanner awr cyn i’r gêm ddechrau y cyrhaeddodd Phil Lynes o Lanrug, ar ôl hedfan draw o Dubai.

    Roedd hefyd ar bigau’r drain wrth wylio’r gêm.

    “'Di o ddim yn dda i’r galon, ond dwi’n hapus ar y cyfan efo’r canlyniad.”

    Phil
  9. Newid tactegau yn 'benderfyniad gwych gan y rheolwr'

    Mwy gan Bale ar yr argraff y gwnaeth Kieffer Moore yn yr ail hanner.

    "Fe wnaethon ni ychydig o newidiadau tactegol. Doedd Dan James ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ond roedden ni angen chwaraewyr gwahanol a ffordd o chwarae ychydig yn wahanol.

    "Penderfyniad gwych gan y rheolwr unwaith eto - mae'n dangos ei safon - a phob clod i'r bechgyn am yr ymateb a dangos ein cymeriad."

    Bale a Moore
  10. Bale: 'Perfformiad grêt yn yr ail hanner'

    Mae Gareth Bale wedi bod yn siarad gyda'r wasg hefyd wedi'r canlyniad calonogol i Gymru.

    "Mae'n deimlad anhygoel i sgorio yn y gystadleuaeth yma am y tro cyntaf, ond fe fyddai'n llawer gwell gennym ni fod yn gadael gyda thriphwynt," meddai.

    "Roedd e'n berfformiad grêt yn yr ail hanner - fe ddangoson ni angerdd a phenderfynoldeb i gael yn ôl i mewn i'r gêm.

    "Ry'n ni'n falch o hynny - mae gennym ni bethau i adeiladu arnyn nhw a phethau sydd angen gwaith.

    Bale
  11. Beth oedd yr ymateb gan gefnogwyr Cymru yn Doha?

    Dyma oedd yr ymateb i'r canlyniad gan gefnogwyr Cymru tu allan i'r stadiwm.

    Ein gohebydd Iwan Griffiths fu'n holi'r Wal Goch wrth iddyn nhw adael Stadiwm Ahmad bin Ali.

    Video content

    Video caption: Cefnogwyr Cymru yn Doha ymateb i'r gêm
  12. Bale 'erioed wedi'n gadael ni lawr'

    Mwy gan Page: "Pan gafon ni'r gic o'r smotyn roedden ni'n gwybod pwy oedd yn mynd i'w chymryd hi.

    "Dyw e erioed wedi'n gadael ni lawr."

    Ond mae pryder am anafiadau cyn herio Iran ddydd Gwener, meddai, gan ddweud fod "gan y tîm meddygol waith i'w wneud.

    "Mae gennym ni chwaraewyr sydd ddim yn chwarae pob wythnos - maen nhw wedi cael cramp.

    "Roedd hi'n 64 mlynedd, ond yn werth y disgwyl! Roedd gweld y Wal Goch yn dathlu yn anhygoel."

    Bale
  13. 'Wedi dangos cymeriad'

    Yn siarad wedi'r gêm dywedodd Rob Page: "I fynd ar ei hôl hi yn erbyn tîm da fel UDA, fe ddangoson ni gymeriad - pob clod i'r bechgyn am ddod yn ôl a sicrhau pwynt."

    Dywedodd fod y penderfyniad i ddod â Kieffer Moore i'r maes ar hanner amser yn "benderfyniad tactegol" - un a weithiodd yn sicr.

    "Doedd e ddim byd yn erbyn Dan James, ond roedd y gêm yn siwtio Kieffer i'n cael ni i fyny'r cae.

    Page
  14. Y foment fawr yng Nghlwb Ifor!

    Roedd 'na ddathlu gwyllt yn y clwb nos yng Nghaerdydd wrth i Gareth Bale gyrraedd cefn y rhwyd!

    View more on twitter
  15. Faint o dorf?!

    Os ydych chi'n meddwl faint o dorf oedd yn y stadiwm heno - y ffigwr ar wefan FIFA ydy 43,418.

    Dy'n ni'n meddwl fod hynny'n annhebygol, o ystyried mai 40,000 ydy capasiti Stadiwm Ahmad bin Ali!

    Cefnogwyr
  16. Un ongl arall... ac un arall... ac un arall

    Mwy o onglau o'r gôl 'na o'r smotyn gan Gareth Bale, meddech chi?

    Dy'n ni'n ddigon hapus ufuddhau!

    Gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 64 mlynedd!

    Bale
    Bale
    Bale
    Bale
    Bale
  17. Dewrder wrth ddringo'r mynydd - argraffiadau Kath Morgan

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Roedd 'na fynydd i'w ddringo, doedden ni ddim yn ddigon cyflym, dim tempo i'r bêl, ond 'naethon ni fod yn ddewr.

    Dihangfa yn yr hanner cyntaf i beidio ildio mwy nag un gôl, a diolch byth am Gareth Bale.

  18. Mwy o ymateb ar QatAr y Marc

    BBC Radio Cymru

    Cyfle i ni gael ein gwynt ac asesu!

    Mae rhagor o ymateb i'r canlyniad heno ar QatAr y Marc ar BBC Radio Cymru nawr.

    Dylan Jones a Nicky John sy'n trafod ac asesu, ac fe allwch chi wrando heb orfod gadael ein llif byw trwy glicio ar yr eicon uchod.

  19. Diolch byth... fe wnaeth pethau wella!

    Dylan Griffiths

    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Hanner cyntaf, roedd hi'n ddifrifol, ond diolch byth, fe wnaeth pethau wella.

    Kieffer Moore yn gwneud gwahaniaeth, Brennan Johnson yn gwneud gwahaniaeth. Ond y capten, yr hen ben, Gareth Bale, gyda'r gôl o'r smotyn.

    Bale
  20. Newydd dorriSgôr terfynol: Cymru 1-1 UDA

    Diweddglo digon rhwystredig - roedd golwr UDA oddi ar y llinell gôl, a Gareth Bale wedi gweld hynny.

    Roedd ar fin ergydio o hanner ffordd, pan sylweddolodd Kellyn Acosta beth oedd yn digwydd a chyflawni trosedd wael ar gapten Cymru.

    Mae Acosta yn gweld melyn, ond rhwystredig i Gymru!