a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Dydy Kath Morgan ddim mor obeithiol ag Osian Roberts...

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i ni fod yn realistig - dydyn ni ddim am guro Lloegr.

    Mae sawl chwaraewr allan ar y cae yn lwcus iawn bod nhw heb gael eu heilyddio yn gynnar.

    Yn gorfforol dydyn nhw ddim yn ddigon ffit i gystadlu ar y lefel yma.

    Ond be' sy'n taro fi fwyaf yw diffyg llwyddiant gyda'r pasio. Doedd Ramsey methu canfod ei gyd-chwaraewyr, Bale yn gwneud yr un peth.

    Roedden ni off the pace o'r funud gyntaf i'r funud olaf.

    Bale
  2. 'Dydyn ni ddim allan ohoni'

    Osian Roberts

    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Y gwir ydy 'dan ni ddim allan o'r gystadleuaeth.

    Mae gynnon ni'r gêm bwysig ar ôl - 'dan ni ddim allan eto.

    Mae 'na bosibilrwydd y bydd 'na rywbeth i chwarae amdano fo bryd hynny.

    Mae'n rhaid edrych ymlaen, er bod hi'n anodd yn syth ar ôl y gêm wrth gwrs.

    Cymru yn erbyn Iran
  3. A ddylai Page fod wedi dilyn patrwm Lloegr?

    Owain Tudur Jones

    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Mae pêl-droed yn rywbeth mawr o ran hindsight - os 'dan ni'n colli, 'dan ni wedi 'neud y penderfyniadau anghywir.

    Ond wrth feddwl yn ôl, 'swn ni wedi gallu mynd yn bedwar yn y cefn a dilyn patrwm Lloegr yn chwarae Iran.

    Ond oeddan ni 'di 'neud digon i aros yn y gêm a just ennill pwynt - ond mae cerdyn coch yn newid popeth.

  4. 'Mi allai hi fod wedi bod yn gweir'

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    O edrych 'nôl fe allai hi fod wedi bod yn gweir go iawn.

    Taro'r postyn ddwywaith, gôl gafodd ei dileu gan VAR, arbediad Hennessey.

    Mi allai hon fod wedi bod yn flêr.

    Cymru
  5. 'Cerdyn coch yn newid y gêm'

    Osian Roberts

    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Mae'r cerdyn coch yn newid y gêm.

    O'dd hi'n gem eitha' agored - Iran, chwarae teg, yn creu'r cyfleoedd gorau.

    Ond mae'r cerdyn coch yn ei gwneud hi'n eithriadol o anodd i'r 10 dyn sydd ar ôl.

    Fe fydd Rob Page yn eithriadol o siomedig.

    Roedd o 'di trio bod yn ymosodol er mwyn ennill y gêm yma - munud 'dan ni'n mynd lawr i 10 dyn, roedd hi'n anodd yn amddiffynol wedyn, yn enwedig pan oeddan nhw'n gwrth-ymosod.

    Carden coch i Hennessey
  6. Pam cosbi Williams ac Ampadu?

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Er be' mae Ramsey a Bale wedi gwneud i ni, yn y ddwy gêm ddiwetha' dydyn nhw heb gyfrannu fel y dylen nhw.

    Pam cosbi Neco Williams nos Lun ac Ethan Ampadu heddiw? Nhw sydd wedi bod yn gweithio.

    Dyw e ddim yn anfon arwydd da i'r chwaraewyr ifanc.

  7. Chwaraewyr ddim digon ffit?

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Ti'n edrych ar y ddau berfformiad a 'dan ni heb fod yn ddigon da.

    Y peth mwya' oedd yn fy mhoeni i cyn dod yma i Gwpan y Byd oedd fod gormod o chwaraewyr ddim yn chwarae'n gyson i'w clybiau.

    Dydy lefelau ffitrwydd rhai chwaraewyr ddim lle dylen nhw fod.

    Does 'na ddim digon o egni, o ffreshni, dim digon yn y coesau.

  8. 'Y Wal Goch yn gwbl fud'

    Nic Parry

    Sylwebydd Sgorio ar S4C

    Mae'r stadiwm yn hanner llawn llawenydd - a'r ochr arall yn gwbl fud.

  9. 'Dim egni ar ôl gan Gymru'

    Gwennan Harries

    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Wedais i pa mor beryglus oedd Iran yn ymosod - a ni'n gweld yn union pam.

    Doedd just dim digon o egni'n weddill gan Gymru, roedden nhw 'di rhedeg gymaint a gallan nhw.

  10. Ai dyna ddiwedd yr ymgyrch i Gymru?

    Mae 'na gêm arall yn weddill wrth gwrs, ond mae'n mynd i fod yn dasg a hanner i Gymru gyrraedd y rownd nesaf yng Nghwpan y Byd.

    Cymru
  11. Buddugoliaeth haeddiannol i Iran

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Rhaid i ni fod yn onest - maen nhw'n haeddu'r gôl, y fuddugoliaeth a'r triphwynt.

    Maen nhw wedi mynd mor agos dro ar ôl tro ar ôl tro.

  12. Newydd dorriSGOR TERFYNOL: CYMRU 0-2 IRAN

  13. Mae hi ar ben

    Ail gôl i Iran wrth i Gymru bwyso am gôl ei hunain.

    Iran yn gwrthymosod, tri yn erbyn dau, a Ramin Rezaeian sy'n codi'r bêl dros Ward.

    2-0 i Iran.

    gol iran
  14. Newydd dorriGOL I IRAN

    Gol
  15. Torcalon i Gymru

    Torcalonnus.

    Joe Allen yn clirio'r bêl o'r cwrt, ond dydy o ddim yn cael digon o bellter arni, ac mae'n disgyn i Rouzbeh Cheshmi - sy'n taro chwip o ergyd i'r gornel isaf.

    Dim gobaith i Danny Ward.

  16. Newydd dorriGOL I IRAN

    Gol
  17. 'Pwynt yw'r mwya' ni'n haeddu'

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Pwynt yw'r mwya' ni'n haeddu heddiw.

    Gallen ni fod yn ddiolchgar am bwynt, ond sai'n credu bod e'n mynd i fod yn ddigon.

  18. Melyn i Jahanbakhsh

    Jahanbakhsh yn cael cerdyn melyn am droed uchel ar Mepham.

    Yna chwarae da rhwng James a Moore ar y dde - ond y bas olaf ddim yn ddigon da.

    Dyna stori'r gêm i gymru.

  19. Rhaid cofio bod Iran yn dîm safonol

    Gwennan Harries

    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Roedd lot o bobl yn sôn cyn y gêm am Iran, dyle bod ni'n sgorio tri, pedwar yn eu herbyn nhw.

    Ond mae timoedd ar y lefel yma'n dimoedd dda - doedd Iran dim ond 'di colli tair gwaith mewn 22 gêm cyn Cwpan y Byd, gan gynnwys curo timoedd fel Uruguay.