Iran yn dal i bwysowedi ei gyhoeddi 90+3 mun
Mae Iran yn dal i bwyso, ond Daniel James yn ennill cic rydd ar yr asgell chwith.
Ond mae'r bêl i mewn gan Ben Davies yn rhy hawdd i Hosseini yn y gôl, ac Iran yn syth yn ôl i fyny'r cae.
Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022
Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru
Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner
Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd
Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran
Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf
Mae Iran yn dal i bwyso, ond Daniel James yn ennill cic rydd ar yr asgell chwith.
Ond mae'r bêl i mewn gan Ben Davies yn rhy hawdd i Hosseini yn y gôl, ac Iran yn syth yn ôl i fyny'r cae.
All Gymru ddal ymlaen?
Gwennan Harries
Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C
'Dan ni 'di bod ar y linell drwy'r gêm 'ma - y gôl yn cael ei gymryd i ffwrdd, bwrw'r postyn ddwywaith.
Fi yn teimlo o'dd rhaid i Hennessey fynd am hwnna oherwydd y sefyllfa 'dan ni mewn.
Ond pan ti'n arafu'r sefyllfa 'na lawr ma' fe'n edrych yn waeth - a maen nhw wastad yn mynd am y sgrîn.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Does 'na ddim dadl bod honno'n gerdyn coch.
Tasa golwr Iran wedi dod allan fel yna, codi ei goes mor uchel a chicio un o chwaraewyr Cymru yn ei ben mi fydden ni'n sgrechian am gerdyn coch.
Mae Iran yn pwyso nawr, gan deimlo bod cyfle iddyn nhw gipio'r tri phwynt.
Cerdyn Coch
Mae'r swyddogion VAR yn camu mewn, a'r dyfarnwr yn newid ei feddwl ar ôl edrych eto.
Danny Ward ymlaen, Ramsey'n cael ei aberthu.
Wayne Hennessey yn rhuthro o'r gôl wrth i Taremi redeg at y gôl
Ond mae'r dyfarnwr yn mynd at y sgrin VAR...
Cic hosan gan Ramsey yn y cwrt, ond Moore yn ei rheoli ac yn canfod Ben Davies - sy'n ergydio dros y trawst!
Nic Parry
Sylwebydd Sgorio ar S4C
Yn sydyn, mae awyrgylch parti - awyrgylch hwyl - wedi newid.
Mae'n ddifrifol nawr; mae'n gyfnod lle mae'n bosib ennill neu golli gêm.
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Waw - Ampadu i ffwrdd? Mae hynny'n anhygoel.
Be' mae Rob Page yn gwylio? Dyw e ddim yn gwylio'r un peth â fi.
Mae hynny'n anhygoel ac annheg.
Ar y gair, dy'n ni newydd weld Rob Page yn rhedeg i lawr y twnnel - i le mae'n mynd tybed?
Roedd 'na newidiadau i Iran yng nghanol hynny hefyd.
Ali Gholizadeh yn gadael i Alireza Jahanbakhsh, Mehdi Torabi ymlaen yn lle Ehsan Hajsafi a Rouzbeh Cheshmi ymlaen yn lle Ahmad Nourollahi.
Ezatolahi hefyd yn gadael, Karimi ymlaen.
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Be' yn y byd oedden nhw'n aros amdano? Maen nhw wedi bod yn gwastraffu amser fan hyn.
Wrach mai dyma ddiffyg profiad Robert Page yn dangos.
'Dan ni'n gallu gweld bod y gêm yma yn mynd oddi wrthon ni.
'Dan ni'n dal yn gyfartal ond mae angen ei hennill hi. Mae ambell chwaraewr allan ar eu traed - mae angen dod â choesau ffres i'r cae.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Joe Allen ar y cae, Ethan Ampadu wedi gadael.
A fydd y dewin bach yn gallu ysbrydoli Cymru?
Nic Parry
Sylwebydd Sgorio ar S4C
Mae hwn, nid am y tro cyntaf, yn gyfnod pryderus i Gymru.
Mae Iran 'di cael cyfnodau da.
Kath Morgan
Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru
Ni'n gwybod beth maen nhw'n gallu ei wneud, ond dydy Aaron Ramsey na Gareth Bale wedi cyfrannu digon heddiw i fi.
Dylan Griffiths
Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar
Mae'n rhaid i Rob Page ymateb yn fan hyn.
Mae 'na goesau blinedig iawn allan yna i Gymru.
Y bêl yn torri'n ffodus i Iran, ac maen nhw'n bygwth eto.
Rodon yn clirio am gornel, ond mae'n dod yn syth yn ôl i mewn ac mae angen i Davies benio i ffwrdd.
Ergyd o du allan i'r cwrt gan Ezatolahi nawr, ac arbediad campus gan Hennessey!
Ton ar ôl ton o ymosodiadau gan Iran...
Mae Sardar Azmoun yn gadael y cae i Iran, ac fe fydd amddiffynwyr Cymru yn falch o weld hynny.
Mae wedi bod yn beryglus iawn i Iran ers 67 munud.
Karim Ansarifard sy'n dod ymlaen yn ei le.
Mae Brennan Johnson wedi bod yn brysur ers dod i'r cae.
Mae'n gofyn cwestiynau o amddiffynwyr Iran