Crynodeb

  • Ail gêm Cymru yng Ngrŵp B Cwpan y Byd Qatar 2022

  • Iran wedi cael y bêl yn y rhwyd yn gynnar, ond camsefyll yn rhoi dihangfa i Gymru

  • Y gwrthwynebwyr hefyd wedi taro'r postyn ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner

  • Wayne Hennessey wedi cael cerdyn coch gyda phum munud i fynd

  • Cheshmi a Rezaeian yna'n rhwydo dwy gôl yn y munudau olaf i Iran

  • Cymru nawr angen trechu Lloegr i gael unrhyw obaith o fynd trwodd i'r 16 olaf

  1. Pwy fydd Josh Navidi yn cefnogi bore 'ma?wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Josh Navidi yn fwyaf adnabyddus fel chwaraewr rygbi Cymru a Chaerdydd, ond oeddech chi'n gwybod bod ganddo gysylltiad teuluol ag Iran?

    Daeth ei dad i'r DU yn ystod chwyldro Iran yn 1979, cyn cyfarfod mam Josh a gwneud bywyd i'w hun yng Nghymru.

    Felly, oes 'na deimladau cymysg i Josh cyn y gêm fawr heddiw?

    "Ar ddiwedd y dydd, dwi'n mynd i gefnogi Cymru bob tro ac yn gobeithio y bydd Cymru'n cyrraedd y rownd nesaf", meddai.

    Ond mae'n gobeithio y bydd Iran yn gallu sicrhau buddugoliaeth yn ystod y gystadleuaeth - "ond nid yn erbyn Cymru gobeithio!"

    Ac oes 'na syniad o ran y sgôr heddiw?

    "Mae'n mynd i fod yn agos, mae gen i 2-1 yn fy mhen ond dwi'n gobeithio bod Cymru'n cael y pwyntiau i gyrraedd y rownd nesaf."

    Josh Navidi
  2. Cefnogi Iran yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nushin Chavoshi Nejad

    Ond nid pawb sy'n byw yng Nghymru sy'n cefnogi Cymru heddiw, wrth gwrs!

    Yng Nghaerdydd bydd 'na weiddi i'r ddau dîm yng nghartref Nushin Chavoshi Nejad, a chafodd ei geni ym mhrifddinas Iran, Tehran.

    Bu'n sgwrsio ar Dros Frecwast y bore 'ma

    Disgrifiad,

    Cafodd Nushin Chavoshi Nejad ei geni yn Tehran

  3. Pedwar pwynt yn ddigon i'r rownd nesaf?wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae pawb yn nhîm Cymru Fyw gobeithio am fuddugoliaeth i Gymru bore 'ma, ond beth sydd ei angen yn fathemategol i gyrraedd y rownd nesaf?

    Os yw Cymru'n curo Iran fe fyddan nhw ar bedwar pwynt yn y grŵp.

    Petai Lloegr yn rhoi cweir i'r UDA heno byddai hynny'n ei gwneud hi'n fwy tebygol fod Cymru'n gallu cyrraedd y rownd nesaf hyd yn oed o golli'n agos i Loegr yn y gêm olaf.

    Ond yn dilyn y gêm gyfartal agoriadol gyda'r UDA, mae'n bosib hefyd y gallai gwahaniaeth goliau benderfynu ai'r Cymry neu'r Americaniaid sy'n gorffen yn ail.

    Ers 1998 mae timau sy'n gorffen ar bedwar pwynt yn eu grŵp Cwpan y Byd wedi llwyddo i gyrraedd y rownd nesaf 17 gwaith, ac wedi methu 16 o weithiau.

    Petai Cymru'n cael gêm gyfartal heddiw, mae'n debygol y byddai wedyn angen trechu Lloegr, oni bai bod yr UDA ac Iran yn hafal yn eu gornest olaf nhw.

    Colli yn erbyn Iran, ac mae'n glir - byddai'n rhaid i Gymru guro Lloegr, o bosib o sawl gôl, i gael unrhyw obaith o gyrraedd rownd yr 16 olaf.

    Tim
  4. Ydy'r cefnogwyr yn hapus gyda'r tîm?wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Lyn Morris, Iwan Adams-Lewis ac Ed Jones-Davies o Aberteifi yn hapus gyda’r tîm mae Rob Page wedi ei ddewis.

    “'Naeth Kieffer Moore ‘neud gwahaniaeth noson o’r blaen ‘do,” meddai Lyn.

    Ond byddai Ed wedi hoffi gweld Dan James yn chwarae gyda Moore yn yr ymosod.

    "Fe mewn am Wilson, ‘na’r unig un bydde well gyda fi,” meddai.

    Cefnogwyr
  5. Criw Radio Cymru yn barod amdani!wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    BBC Radio Cymru

    Cofiwch bod modd i chi ddilyn y gêm gyda Radio Cymru hefyd, ac mae modd gwneud hynny heb orfod gadael ein llif byw.

    Mae eu rhaglen nhw newydd ddechrau, a gallwch wrando trwy glicio ar yr eicon ar frig y llif byw.

    Owain Llŷr sy'n cyflwyno, gyda Dylan Griffiths, cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts a chyn-gapten Cymru Kath Morgan yn sylwebu yn Qatar.

  6. Ramsey a Wilson yn ffodus i ddechrau?wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dwi'n meddwl bod 'na ambell i chwaraewr yn ffodus eu bod nhw'n dechrau'r gêm.

    Dwi'n meddwl bod Aaron Ramsey yn ffodus ei fod o'n dechrau - 'naeth o ddim dangos hanner digon o egni yn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau.

    Yr un peth efo Harry Wilson. Yn bersonol faswn i wedi licio gweld Brennan Johnson yn dechrau.

    Mae'n rhaid i'r chwaraewyr yma dalu ffyddlondeb Robert Page yn ôl.

  7. 'Moore yn cynnig gymaint i'r tîm'wedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    O'n i yn gobeithio gweld Kieffer Moore yn dechrau - mae'n cynnig gymaint i'r tîm.

    Ddaru fo drawsnewid y gêm pan ddaeth o 'mlaen nos Lun.

    Dwi ddim yn synnu bod Joe Allen ar y fainc, o ystyried dydi o heb gicio pêl yn gystadleuol ers 69 o ddyddiau.

    MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Rhag ofn eich bod chi angen hwn...wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Slip caniatad
  9. Disgyblion Cwm Rhymni yn rhagweld buddugoliaethwedi ei gyhoeddi 08:53 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Hadley yn credu y bydd Cymru'n ennill o 3-1 os ydyn ni’n chwarae fel 'naethon ni yn yr ail hanner yn erbyn UDA.

    Ennill 2-1 mae Evan yn ei ddisgwyl: "Ni angen dechrau Kieffer Moore fel bod ni’n gallu symud i fyny’r cae," meddai.

    Hadley ac Evan

    Mae Amelia’n chwarae i CascadeYC, tîm menywod yn Ystrad Mynach, ac yn ddisgybl blwyddyn 13 yn yr ysgol.

    "Teimlo bach yn nerfus ond hyderus bod ni’n gallu cael y triphwynt heddi. Rhaid ni fod yn hyderus ar y bêl a chwarae i’n cryfderau."

    Amelia
  10. Wyneb cyfarwydd ar y wal yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymniwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae un o'n gohebwyr ni yn gwylio'r gêm gyda disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni y bore 'ma.

    Fel sawl ysgol arall yng Nghymru, bydd plant yn cael saib o'u gwersi arferol i gefnogi'r tîm cenedlaethol.

    Mae ein gohebydd ni wedi darganfod y llun yma hefyd o un o'u cyn-ddisgyblion enwog fydd ar y cae ymhen awr.

    Dim gwobrau am ddyfalu pwy - dydy o wedi newid dim!

    Ramsey
  11. Beth ydy barn y cefnogwyr?wedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae ein gohebydd tu allan i Stadiwm Ahmad bin Ali wedi bod yn holi cefnogwyr am eu gobeithion, a'u disgwyliadau nhw heddiw.

    Mae Ben, Kerrin a Lauren i gyd yn hyderus mai Cymru fydd yn fuddugol heddiw.

    3-0 yw darogan Ben, tra bod y chwiorydd yn mynd am sgôr o 2-0 a 2-1.

    Cefnogwyr

    Mae Hadir a Jana yn dod o Balesteina yn wreiddiol, a bellach yn byw yn Doha.

    Ond mae’r ddwy yn cefnogi timau gwahanol heddiw, gyda’r fam yn mynd am Iran a’r ferch yn dewis Cymru.

    Hadir a Jana
  12. Kieffer Moore yn dechrauwedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022
    Newydd dorri

    Dim ond un newid i dîm Cymru felly, gyda'r ymosodwr Kieffer Moore yn dechrau yn lle Daniel James.

    Mae'n ymddangos fel y bydd Rob Page yn cadw at bum amddiffynnwr yn y cefn felly - er y dyfalu y byddai'n dewis tîm mwy ymosodol.

    Mae Joe Allen ar y fainc.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Buddugoliaeth' cael gwisgo'r enfys i gêm Cymru ac Iranwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Bydd hetiau bwced enfys yn cael eu caniatáu yn y gêm heddiw, wedi i staff ofyn i gefnogwyr dynnu eu hetiau lliwgar cyn y gêm yn erbyn UDA nos Lun.

    Mae hyn yn "fuddugoliaeth foesol", yn ôl yr Athro Laura McAllister, sy'n gyn-gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru.

    "Mae'n bwysig i ni achos 'dan ni gyd wedi dweud, os ydyn ni'n dod i le fel hyn mae'n bwysig i ni fyw ein hegwyddorion ni."

    Disgrifiad,

    Fe wnaeth swyddogion ofyn i'r Athro Laura McAllister dynnu ei het enfys ddydd Llun

  14. Chwilio am gysgod tu allan i'r stadiwmwedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae’n 30 Selsiws tu allan yn Doha wrth iddi agosáu at hanner dydd yma.

    Dim rhyfedd bod cefnogwyr Cymru’n manteisio ar y cysgod!

    Cefnogwyr
  15. Gorau Chwarae: Cerdd gan y bardd Llio Maddockswedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  16. Beth ydy teimladau cefnogwyr Iran?wedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Cymysg oedd yr ymateb gan gefnogwyr yn Qatar i benderfyniad y tîm i beidio a chanu'r anthem.

    Dywedodd Mohammad, sydd yn Doha gyda'i dad ar gyfer Cwpan y Byd, bod y chwaraewyr "ddim yn cynrychioli Iran", gan fod "pob person o Iran yn caru eu gwlad, dwi'n siŵr".

    "Does dim problem gyda'r llywodraeth, mae popeth yn iawn."

    Ond gwahanol iawn oedd barn Mina, sydd o Iran yn wreiddiol, ac wedi teithio i Qatar i ddangos gwrthwynebiad i'r llywodraeth.

    "Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd i ddod - nes i bron a phwyso'r botwm 'canslo' sawl gwaith.

    "Ond roedden ni eisiau dod er mwyn gwneud y datganiad yna, bod ni wedi cael digon ar y llywodraeth yma sy'n lladd ei phobl, a pheidio gadael iddyn nhw wthio eu naratif eu hunain."

    Roedd Mina eisiau mynd i Qatar i wneud safiad dros Iran
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Mina eisiau mynd i Qatar i wneud safiad dros Iran

  17. Dim cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yma heddiwwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Mae Llywodraeth Cymru yn gyrru cynrychiolwyr i'r gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau a Lloegr, ond wedi penderfynu yn erbyn cael rhywun yn y gêm yn erbyn Iran.

    Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn bresennol ddydd Llun, tra bydd y Gweinidog Economi Vaughan Gething yn mynychu'r gêm nos Fawrth.

    Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddai'r dirprwy weinidog chwaraeon Dawn Bowden yn mynychu'r gêm heddiw, cyn i'r llywodraeth gefnu ar y syniad oherwydd y protestiadau yn Iran.

    Dywedodd Mr Gething fod y penderfyniad i beidio â gyrru unrhyw un i'r gêm yn erbyn Iran yn "gymesur" oherwydd y protestiadau.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fynd i Qatar o gwbl, ond maen nhw'n dweud ei fod yn gyfle i hyrwyddo Cymru ac "adlewyrchu ein gwerthoedd".

    IranFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Chwaraewyr Iran wedi gwrthod canu'r anthemwedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Yn gefnlen i'r gêm heddiw mae'r protestiadau yn erbyn llywodraeth Iran sydd wedi bod yn digwydd yno dros yr wythnosau diwethaf.

    Fe wnaeth chwaraewyr Iran wrthod canu eu hanthem genedlaethol cyn eu gêm agoriadol yn erbyn Lloegr - rhywbeth sy'n cael ei weld fel arwydd o gefnogaeth i'r protestiadau.

    Bu rhai cefnogwyr yn gweiddi dros yr anthem, ac roedd eraill yn dangos arwyddon yn mynegi cefnogaeth i'r protestwyr.

    Ni wnaeth y darllediad o'r gêm ar deledu yn Iran ddangos yr anthem yn cael ei chanu.

    Mae'r protestiadau yn Iran yn deillio o farwolaeth Mahsa Amini, 22 oed, yng ngofal yr heddlu wedi iddi gael ei harestio am dorri rheolau llym y wlad ynglŷn â gorchuddion pen.

    Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn dweud fod dros 400 o brotestwyr wedi'u lladd a bron i 17,000 wedi'u harestio wrth i'r llywodraeth ymateb yn llym i'r protestiadau.

    Mae Iran yn mynnu fod y protestiadau wedi'u trefnu gan eu "gelynion tramor".

    IranFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Pa mor dda ydych chi'n 'nabod carfan Cymru?wedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Wrth i ni son am y garfan, pa mor dda 'dych chi'n 'nabod y rheiny fydd yn cynrychioli'r crys coch yn y twrnament - a pha mor dda maen nhw'n adnabod ei gilydd?

    Fe fuon ni'n profi'r chwaraewyr gyda'n cwis 'Pwy ydw i?'

    Os ydych chi'n hoff o ffeithiau diddorol am y chwaraewyr, mae mwy i'w gweld yn yr erthygl yma.

    Disgrifiad,

    Cwisio chwaraewyr Cymru ar ei gilydd!

  20. Fydd Bale yn cipio record capiau Gunter heddiw?wedi ei gyhoeddi 08:27 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2022

    Un sy'n fwy sicr o wneud ymddangosiad ar y cae heddiw ydy Gareth Bale.

    Bale eisoes ydy prif sgoriwr Cymru erioed (o bell ffordd!), ond mae'n bosib iddo gipio record arall gan un o'i ffrindiau heddiw.

    Wedi'r gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau mae Bale a Chris Gunter yn gyfartal ar y brig o ran y nifer fwyaf o gapiau i Gymru - 109.

    Os yw'r capten yn chwarae heddiw felly, a Gunter ddim yn dod i'r maes, bydd gan Bale record unigol arall i Gymru.

    Ond dyw Wayne Hennessey ddim ymhell ar ei hôl hi chwaith, ag yntau ar 107 o gapiau rhyngwladol.

    Gunter a BaleFfynhonnell y llun, Getty Images