a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    Dyna ni felly, canlyniad torcalonnus i Gymru, ac er bod 'na un gêm ar ôl yn y grŵp, mae 'na fynydd i'w ddringo os am gyrraedd y rownd nesaf.

    Teg dweud nad oedd Cymru ar eu gorau heddiw, a'r gwaith nawr i Page ydy ceisio codi ysbryd y chwaraewyr - fydd wedi siomi gymaint â'r cefnogwyr - cyn yr ornest yn erbyn Lloegr.

    Fe fyddwn ni'n ôl gyda'r gêm yna i chi ar BBC Cymru Fyw, ond tan hynny, hwyl fawr.

    Siom Cymru
  2. Dim llawer o obaith gan y cefnogwyr

    Iolo Cheung

    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Video content

    Video caption: Canlyniad siomedig i Gymru
  3. Fawr o obaith gan Page o drechu Lloegr?

    Mwy gan Page: "Rydw i wastad yn cymryd cyfrifoldeb - fy nhîm i ydyn nhw.

    "Wnaeth y cerdyn coch ddim helpu wrth gwrs, ac erbyn hynny roedd gennym ni bum ymosodwr ar y cae felly doedd gennym ni ddim siâp yn amddiffynnol.

    "Ond rydw i wastad yn cymryd cyfrifoldeb am berfformiadau.

    "Mae hi'n anodd yn yr ystafell newid ar y funud ond fe fyddwn ni'n barod [i herio Lloegr] - mae'n dderbi leol ac yn gêm dda i orffen arni ac fe fyddwn ni'n barod i fynd."

    Dydy "gêm dda i orffen arni" ddim yn gwneud iddi swnio fel pe bai'n obeithiol iawn am ennill!

    Page
  4. Ein perfformiad ni yn annerbyniol - Page

    Mae'r rheolwr Robert Page newydd fod yn siarad gyda'r wasg am y canlyniad, ac yn amlwg, mae'n siomedig iawn.

    "Doedd ein perfformiad ni - cyn y cerdyn coch - ddim yn dderbyniol.

    "Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn dod at ei gilydd heddiw, ond doedden ni ddim yn agos at y lefelau dy'n ni wedi gosod i'n hunain yn ddiweddar.

    "Fe allwch chi gario un neu ddau [o chwaraewyr] ond pan fo cynifer yn cael diwrnod gwael, does 'na ddim ond un canlyniad."

    Page
  5. 'Mae wastad gobaith'

    "Siomedig iawn, ond mae'n rhaid ni bigo'n hunain lan nawr ar gyfer gêm nos Fawrth," meddai Sian Thomas o Gaerdydd.

    "Mae wastad gobaith."

    Sian Thomas

    "Yr un problemau, just methu torri drwodd a chreu clear cut chance," meddai Sion Fôn o Gaernarfon.

    "'Sa nhw di gallu sgorio dwy, dair, pedair. Mae'n siom, a'r unig bositif ydy bod ni yng Nghwpan y Byd."

    Sion Fon
  6. 'O'dd hwnna'n warthus, dwi isio fy mhres yn ôl'

    Mae 'na ragor o ymateb gan gefnogwyr yn gadael y stadiwm wedi ein cyrraedd.

    Ac mae 'na rai sydd ddim yn hapus o gwbl...

    Video content

    Video caption: 'O'dd hwnna'n warthus, dwi isio 'mhres yn ôl'
  7. 'Cofiwch: Cwpan y Byd yw hwn'

    Osian Roberts

    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    Y realiti ydy, 'dan ni yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn fa'ma.

    'Dan ni'n cystadlu fel Cymru, allan o 200 o wledydd, 32 o wledydd sydd yma.

    'Dan ni yn ei chanol hi yn cystadlu ar yr un llwyfan efo nhw.

    Ac yn y ddwy gêm ddiwetha', maen nhw wedi bod yn andros o dynn.

    Roedd hi mor dynn sut oedd hi'n mynd i fynd - ac yn anffodus doedd hi ddim 'di mynd ein ffordd ni.

  8. 'Angen gwyrthiau nawr'

    Gwennan Harries

    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Doedden ni just ddim yn ddigon da, i fod yn onest, a 'nes i ddweud hwnna ar gyfer y gêm agoriadol.

    Ein safon ni mewn meddiant, ein chwaraewyr mawr ni falle ddim yn cael yr argraffiadau mwya' ar y gêm.

    O'dd Iran 'di creu gymaint o gyfleoedd da iawn, 'naethon ni ddim.

    Chwaraewyr yn colli meddiant mewn safleoedd really bwysig, a sylfaenol.

    Ni yng Nghwpan y Byd - ni yn y grŵp anoddaf.

    Ni angen gwyrthiau nawr.

  9. 'Pwysau wedi bod yn ormod'

    Owain Tudur Jones

    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Os ti'n dod allan fel 'na, mae'n rhaid bo' ti 100% yn gwybod dwi'n mynd i ennill y bêl, neu ti mewn peryg.

    Gobeithio nid dyma'r olaf fyddwn ni'n gweld o Hennessey, mae 'di bod yn grêt i Gymru.

    'Swn i 'di licio gweld mwy o gyflymder Johnson a James.

    'Naethon nhw gael eu hunain mewn i sefyllfaoedd un ar un, sydd yn berffaith iddyn nhw.

    Ond weithiau o chdi'n teimlo bod y shackles ymlaen rhywfaint.

    Fyddwn ni'n asesu'r gystadleuaeth hyd yn hyn a just teimlo bod y pwysau, ar ôl gymaint o flynyddoedd o ddisgwyl, wedi bod ychydig yn ormod i bawb.

    Dan James
  10. Y gair olaf gan y sylwebwyr

    Beth am i ni gael y gair olaf am heddiw gan y sylwebwyr fuodd yn gwylio'r gêm.

    I gyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones, camgymeriad Wayne Hennessey arweiniodd ar y cerdyn coch sydd wedi costio Cymru...

  11. Perfformiad 'siomedig ofnadwy'

    “Ni’n teimlo’n siomedig ofnadwy, wrth gwrs, yn enwedig yn y ffordd mae Cymru wedi colli," meddai Huw Ifan o Aberystwyth, ond sydd bellach yn byw yn Doha (ar y dde isod).

    "Ond mae ‘na ryw fath o deimlad fod y tîm gore wedi ennill.

    "Mae’n biti ofnadwy ar ôl aros yr holl amser i fod yng Nghwpan y Byd.”

    Cefnogwyr

    Ychwanegodd Owen Evans (ar y chwith): “Mor falch bod Cymru yma - mae 'di bod yn wych yn Qatar.

    "Just piti achos gollon ni gymaint o’r bêl.

    "Falle bod angen bod yn fwy positif ar y bêl, peidio rhoi gymaint o le, a dipyn bach o hyder hefyd.”

  12. O leiaf mae rhywun yn obeithiol...

    Mae Abdul Aziz o Qatar, fuodd yn fyfyriwr ym Mangor rhwng 2008 a 2013, yn dawel obeithiol y gall Cymru roi sioc i Loegr nos Fawrth.

    “Ro’n i’n siomedig bod Cymru wedi colli ond dwi’n obeithiol y byddwn ni’n curo Lloegr a’r canlyniadau’n mynd o’n plaid, ac yna bydd Cymru’n mynd ymlaen i’r rownd nesaf," meddai tu allan i'r stadiwm.

    Wel, mae'r gystadleuaeth wedi rhoi sawl canlyniad annisgwyl yn barod eleni...

    Abdul
  13. 'Y tîm gore enillodd'

    “Y tîm gore enillodd ar y dydd," meddai Alison Lewis o Aberystwyth (ar y chwith isod).

    "Ni’n dwlu ar Gymru ond heddi o’n nhw’n outplayed.”

    Cefnogwyr

    Ond mae David Wyn o Bontardawe yn fwy beirniadol.

    "Beth oedd Hennessey yn 'neud?

    "Naethon ni drio'n gorau, ond yn ymosodol doedden ni ddim digon da."

    David
  14. Yr ymateb yng Nghaerdydd

    Video content

    Video caption: Yr ymateb yng Nghaerdydd
  15. 'Angen i ni ddechrau o'r dechrau' - Bale

    Yn siarad gyda'r wasg wedi'r gêm dywedodd capten Cymru, Gareth Bale: "'Dan ni'n gutted - does dim ffordd arall o'i ddweud e.

    "Fe wnaethon ni frwydro tan yr eiliad olaf ac mae angen i ni ddechrau o'r dechrau.

    "Mae angen i ni godi ein gilydd lan yn syth. Mae'n mynd i fod yn anodd i ni'n sicr.

    "Beth alla i ddweud ond 'fe fyddwn ni'n adfer ac yn mynd amdani unwaith eto'."

    Bale
  16. 'Fi'n gutted - so ni'n mynd trwyddo'

    Tu allan i Stadiwm Ahmad bin Ali mae ein gohebydd wedi bod yn casglu'r ymateb gan gefnogwyr siomedig Cymru.

    "Fi'n gutted. So ni'n mynd trwyddo," meddai Seren, 14, o Sanclêr.

    "Ni 'di cyrraedd yma, ond byddwn ni mas nawr."

    Seren
  17. Oes siawns gan Gymru?

    Ni fyddai ennill heddiw wedi sicrhau lle Cymru yn y rownd nesaf, ond yn dilyn y golled, mae'r darlun yn glir.

    Bydd angen i garfan Rob Page guro Lloegr ddydd Mawrth, o bosib o sawl gôl, i gael unrhyw obaith o gyrraedd rownd yr 16 olaf.

    Fe fydd Lloegr yn chwarae UDA heno, ac ar ôl y gêm honno fe fyddwn ni'n gwybod yn union beth yw'r dasg i Gymru os am ymestyn eu cyfnod yn Qatar.

    Ffan
  18. 'Yr union sefyllfa roedden ni am ei osgoi'

    Owain Tudur Jones

    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Yr un peth oeddan ni isio osgoi - oddan ni eisiau pwyntiau yn y ddwy gêm gyntaf, a wedyn mynd i mewn i gêm Lloegr lle oeddet ti'n gallu dechrau meddwl am ymlacio chwaraewyr.

    Nid dyna'r sefyllfa 'dan ni ynddi yn anffodus.

    Mae'n mynd i fod yn andros o ymdrech i gael y bechgyn 'ma, o ran eu hyder nhw - oherwydd ar hyn o bryd, 'dan ni'n gallu gweld eu bod nhw'n teimlo mor isel.

    O gael y fraint o wylio'r tîm yma dros y chwe mlynedd a mwy ddiwetha', 'dyn nhw'm 'di'n siomi ni'n aml o gwbl.

  19. Mwy o ymateb ar QatAr y Marc

    BBC Radio Cymru

    Cyfle i ni gael ein gwynt ac asesu, neu feirniadu...

    Mae rhagor o ymateb i'r canlyniad heno ar QatAr y Marc ar BBC Radio Cymru nawr.

    Dylan Jones a Nicky John sy'n trafod ac asesu, ac fe allwch chi wrando heb orfod gadael ein llif byw trwy glicio ar yr eicon uchod.