a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A fydd Allen yn ddigon ffit i ddechrau?

    Ar ôl colli'r gêm yn erbyn UDA ddydd Llun mae rheolwr Cymru wedi cadarnhau bod Joe Allen yn holliach i chwarae heddiw.

    Mae anaf i linyn y gar wedi ei gadw oddi ar y cae ers mis Medi.

    Ers cyrraedd Qatar mae Allen wedi bod yn ymarfer ar ei ben ei hun, ond fe ddychwelodd i hyfforddi'n llawn gyda'r garfan ddydd Mercher.

    Ond a fydd y chwaraewr canol cae yn dechrau'r gêm heddiw felly? Cawn wybod yn ddigon buan, mae disgwyl i'r timau gael eu cyhoeddi o fewn y munudau nesaf.

    Joe Allen
  2. Y stafell newid yn barod am y chwaraewyr...

    Stadiwm
    Sannau
  3. 'Mae'r lle'n llawn Cymry!'

    "Mae'n gynnar iawn i fod yn canu a chwarae ond mae pawb mewn hwyliau da felly mae'n hyfryd bod 'ma!"

    Tomos Williams o fand y Barry Horns fu'n sgwrsio gyda'n gohebydd yn Doha am ei argraffiadau wrth i gefnogwyr Cymru gynhesu eu lleisiau y bore 'ma!

    Video content

    Video caption: 'Mae'r lle llawn Cymry!'
  4. 'Cymryd unrhyw fath o fuddugoliaeth!'

    Jeremy Evans o Gaerdydd a’i wraig Linda, o Belfast, oedd rhai o’r Cymry cyntaf i gyrraedd y stadiwm, a hynny deirawr cyn y gic gyntaf.

    “Bydden i’n cymryd unrhyw fath o fuddugoliaeth,” meddai Jeremy.

    “Mae nghalon i’n d'eud 100% wnaiff hynny ddigwydd, ond mae’r pen yn 50/50.”

    Ychwanegodd Linda ei bod hi’n disgwyl ymateb gan Iran wedi eu colled drom nhw yn erbyn Lloegr.

    “Byddan nhw ddim yn chwarae fel ‘na eto,” meddai.

    Jeremy a Linda
  5. Mwy o drafod y gêm ar Dros Frecwast

    BBC Radio Cymru

    Mae rhagor o drafod y gêm hollbwysig heddiw ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru nawr.

    Fe allwch chi wrando heb orfod gadael ein llif byw, trwy glicio ar yr eicon uchod.

  6. Diwrnod braf yn Doha

    Mae ein gohebydd Iolo Cheung wedi cyrraedd y stadiwm yn barod, ac er ei bod hi'n gynnes tu allan, mae'n dweud bod y system awyru y tu mewn i'r cae yn gweithio.

    Bydd hi'n 13:00 amser Qatar erbyn y gic gyntaf, cyfnod poethaf y dydd.

    Video content

    Video caption: Diwrnod braf yn Doha
  7. Digon i ddiddanu yn Doha!

    I'r rhai sydd wedi cyrraedd Doha yn ddiogel, mae 'na ddigon o ddigwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal y bore 'ma, gan gynnwys ychydig o adloniant gan Dafydd Iwan a Chôr Aelwyd Dyffryn Clwyd.

    Sgwn i pa gân oedd o'n ei chanu...?

    Doha
    Doha
    Doha
    Doha
  8. Hunllef i rai cefnogwyr oedd i fod hedfan i'r gêm

    Pwt o newyddion sy'n datblygu i ddechrau, ac yn anffodus mae'n ymddangos y bydd y Wal Goch heb ambell i aelod heddiw, ar ôl i rai cefnogwyr allan yn y dwyrain canol gael trafferthion teithio i'r gêm bore 'ma.

    Mae adroddiadau bod dwsinau o gefnogwyr wedi cael eu gwrthod rhag hedfan o Dubai i Doha, oherwydd problem gyda'r cardiau tebyg i fisa sy'n rhaid eu cael - cardiau Hayya.

    Roedd Hywel Price o Gaerdydd yn un o'r rheiny a gafodd ei wrthod yn y maes awyr, ac ar Dros Frecwast, dywedodd bod y teimlad yn "uffernol".

    Dywedodd bod "pobl yn anhapus iawn" ar ôl talu'n ddrud am docynnau, hediadau a llety, ac er iddo gael cyngor i ffonio ac ebostio'r awdurdodau - bod "neb yn ateb".

    Video content

    Video caption: Mae Hywel Price o Gaerdydd wedi methu hedfan i Doha o Dubai fore Gwener
  9. Bore da a chroeso

    Croeso i'n llif byw ar gyfer gêm fawr Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd.

    Sut mae'r nerfau bore 'ma?

    Fe gewch chi'r holl drafod cyn y gic gyntaf am 10:00 felly arhoswch hefo ni.

    Llansteffan