Graddau'n is na'r llynedd ond uwch na chyn y pandemigwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 24 Awst 2023Newydd dorri
Mae graddau TGAU Cymru yn is o'i gymharu â'r llynedd wrth i'r patrwm ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
Ond, fel gyda chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae'r canlyniadau uchaf heddiw yn dal yn uwch nag yn 2019.
Roedd 21.7% o'r graddau TGAU eleni yn A neu'n uwch ac roedd bron i 65% yn A*- C.
Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau fod ffiniau graddau yn is i rai pynciau er mwyn cefnogi disgyblion a brofodd heriau yn sgil y pandemig.